Back
Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Fuddsoddiad Addysg Caerdydd


20/1/2022

Mae buddsoddiad Caerdydd yn y maes addysg, sydd werth miliynau, gan gynnwys ysgolion newydd a gwelliannau i adeiladau ysgol presennol, wedi cael ei amlinellu mewn adroddiad newydd.

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar Fuddsoddi yn yr Ystâd Addysg yn rhoi diweddariad ar gynnydd y buddsoddiad ar draws y ddinas a'r camau nesaf o ran buddsoddi yn y dyfodol.

Ers 2012 mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi cydweithio i gyflwyno rhaglen buddsoddi cyfalaf fawr, hirdymor a strategol, gyda'r nod o greu cenhedlaeth o gyfleusterau dysgu carbon-sero rhagorol yng nghanol y gymuned.

Fel rhan o Fand A y Rhaglen Fuddsoddi Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu (a elwid gynt yn rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif) gwelwyd £164 miliwn yn cael ei wario yng Nghaerdydd, a chyda’r ail gam, Band B, daeth buddsoddiad pellach o £298.6 miliwn a ariannwyd drwy gyfuniad o fuddsoddiad cyfalaf traddodiadol, ynghyd â ffrwd ariannu refeniw a elwir yn Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).

Hyd yma, mae saith ysgol gynradd newydd a dwy ysgol uwchradd newydd wedi'u cyflawni, gydag ysgol uwchradd newydd Fitzalan bron â chael ei chwblhau i fod yn barod i groesawu disgyblion yng ngwanwyn/haf 2023.

Mae cynigion yn cael eu datblygu i ddarparu adeiladau newydd ar gyfer Campws Cymunedol y Tyllgoed (Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank, ac Ysgol Uwchradd Woodlands), Ysgol Uwchradd Cathays, Ysgol Uwchradd Willows, Ysgol Arbennig The Court ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Forwyn Fair, gydag eraill i ddilyn.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyflawniadau a llwyddiannau buddsoddiadau addysg Caerdydd wedi bod yn rhagorol ac mae ein gweledigaeth i greu ysgolion ysbrydoledig, cynaliadwy, carbon niwtral sydd â ffocws cymunedol a lle gall ein plant a phobl ifanc gyflawni eu potensial, yn parhau gyda phrysurdeb.

“Addysg o hyd yw ein prif flaenoriaeth, ac er mwyn adeiladu ar y safon uchel o addysg a ddarperir yng Nghaerdydd fel y cydnabuwyd gan yr Arolwg Estyn diweddar, mae'r Cyngor wedi ailadrodd ei ymrwymiad i wneud pob ysgol yng Nghaerdydd yn ysgol dda, lle gall pob plentyn dderbyn addysg wych.

"Mae hyn yn cynnwys parhau i ddarparu lefelau sylweddol o fuddsoddiad mewn adeiladau ysgol newydd a phresennol ochr yn ochr â gwelliannau parhaus i gyrhaeddiad addysgol tra’n rhoi barn plant a phobl ifanc wrth galon agenda polisi'r Cyngor, gan gefnogi uchelgais Caerdydd i ddod yn Ddinas sy’n Dda i Blant UNICEF UK. Wrth wneud hynny, rhown ffocws penodol ar gefnogi’r plant mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd, o'u cefnogi nhw a'u teuluoedd yn eu blynyddoedd cynnar a thrwy'r ysgol, i fyd gwaith ac addysg uwch.

"Yn unol ag uchelgeisiau ehangach Caerdydd fel y strategaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach, Un Blaned a Gweledigaeth Addysg Caerdydd 2030, rydym yn parhau i adnewyddu ein hysgolion, gan ddisodli'r rhai sy'n cyrraedd diwedd eu hoes weithredol a darparu lleoedd ysgol newydd ar draws pob sector – cynradd, uwchradd, anghenion dysgu ychwanegol, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg – gan greu'r capasiti ychwanegol y bydd ei angen ar blant a phobl ifanc Caerdydd."

 

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gyflawniadau buddsoddi eraill gan gynnwys:

  • Mae cyfraniadau datblygwr wedi eu sicrhau gan y Cyngor i ddarparu'r ysgolion cynradd cyntaf ar safleoedd y Cynllun Datblygu Lleol yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Caerdydd.

Mae disgwyl i ysgol gynradd newydd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ar ddatblygiad St Edeyrn’s gael ei chwblhau yn ystod gwanwyn 2023 a bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn gwasanaethu cam cynnar datblygiad Plasdŵr - disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn mis Medi 2023. Mae gwaith cynllunio cynnar ar y gweill ar gyfer prosiectau ysgol yng Nghyffordd 33 a datblygiad Churchlands.

  • Mae'r cynllun Adnewyddu Asedau 5-mlynedd wedi gweld £13.1m yn cael ei wario yn 2020/21, gyda gwariant y llynedd yn cynrychioli'r buddsoddiad mwyaf o bell ffordd mewn adeiladau addysg dros y blynyddoedd diwethaf - gwariwyd £18.6m yn 2021/22. Nod y cynllun hwn yw nodi lle gellir gwneud gwelliannau a lle gellid cymryd camau hanfodol tuag at leihau carbon ar draws ystâd addysg y ddinas.
  • Mae'r adroddiad yn nodi’r angen i gynyddu nifer y lleoedd a dosbarthiad darpariaeth arbenigol Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ar draws y ddinas gan gynnwys cynyddu nifer y lleoedd ADY cyfrwng Cymraeg sydd ar gael. Clustnodwyd buddsoddiad sylweddol i ddatblygu'r ddarpariaeth hon gan alluogi cynnydd graddol mewn lleoliadau arbenigol ar gyfer dysgwyr cynradd ac uwchradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth, Cyflwr Sbectrwm Awtistig ac Anghenion Iechyd a Lles Emosiynol yn ystod y blynyddoedd i ddod.
  • I gefnogi Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-2031 (CSCA) Caerdydd, nodwyd buddsoddiad a thwf parhaus y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i alluogi rhieni i deimlo'n hyderus y gallant sicrhau lleoliad ysgol yn yr iaith o’u dewis, ac mae hyn wedi parhau i yrru a meithrin twf y Gymraeg ym mhob cymuned.

Edrychodd y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar yr adroddiad mewn cyfarfod cyhoeddus ar Ionawr 16, 2023.   Bu’r pwyllgor yn profi cynigion i ddeall eu rhesymeg a’u sail dystiolaeth, y gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf.

Mae papurau cyhoeddedig yr Adran Graffu ar yr adroddiad ar gael i'w gweld yma Agenda Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar Dydd Llun, 16eg Ionawr, 2023, 5.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar yr adroddiad sydd yn codi’r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Caerdydd o ran datblygu'r ystâd addysg ar hyn o bryd.