Back
Campws Cymunedol y Tyllgoed: Ymgynghoriad cyhoeddus nawr ar agor

09/01/23

Campws Cymunedol y Tyllgoed: Ymgynghoriad cyhoeddus nawr ar agor

A picture containing building, sky, outdoor, dayDescription automatically generated

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu campws addysg ar y cyd arloesol i Gaerdydd, wedi agor heddiw. 

Gofynnir i aelodau'r cyhoedd rannu eu barn yn ystod ymgynghoriad cyn gwneud cais (YCGC) ar gynlluniau ar gyfer Campws Cymunedol y Tyllgoed fel y gellir eu hystyried cyn cyflwyno cais cynllunio i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd.

Yn cael ei ddarparu o dan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Band B Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, mae'r cynllun gyda'r mwyaf o ran maint a buddsoddiad a bydd adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Riverbank ac Ysgol Woodlands wedi'u lleoli ar un safle pwrpasol yn y Tyllgoed. Byddai'r campws ar y cyd hefyd yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr a fydd ar gael at ddefnydd y cyhoedd.

A picture containing buildingDescription automatically generated

Ym mis Medi 2020, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Caerdydd y cynllun wedi i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo ym mis Gorffennaf 2020. Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Codi adeiladau ysgol newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Cantonian yn lle'r rhai presennol ar yr un safle gan ehangu'r ysgol o chwe dosbarth mynediad i wyth dosbarth mynediad gyda darpariaeth chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion;
  • Ehangu'r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA), a leolir yn Ysgol Uwchradd Cantonian, i 30 lle mewn adeiladau pwrpasol ar safle newydd yr ysgol;
  • Adleoli Ysgol Woodlands i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r capasiti i 240 o ddisgyblion mewn adeilad newydd;
  • Adleoli Ysgol Riverbank i gampws y Tyllgoed o'i safle presennol gerllaw Parc Trelái a chynyddu'r lle i ddarparu ar gyfer 112 o ddisgyblion mewn adeilad newydd.

A picture containing electronics, circuitDescription automatically generated

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yw'r cam nesaf yn natblygiad campws addysgol ar y cyd cyntaf Caerdydd ac mae'n garreg filltir gyffrous ar gyfer dyfodol Ysgolion Cantonian, Woodlands a Riverbank.

"Rwy'n annog pobl i ddod ymlaen a dweud eu dweud i helpu i lunio'r cynlluniau a fydd yn cefnogi datblygiad y campws arloesol hwn sy'n cynrychioli buddsoddiad sylweddol yn ardal y Tyllgoed ac a fydd yn sicrhau bod y disgyblion, y staff a'r gymuned leol yn elwa o amwynderau modern, rhagorol."

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd y bydd ISG Construction yn ymgymryd â'r broses ddylunio ac adeiladu fanwl ar gyfer y cynllun. 

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus a chymeradwyo'r cais cynllunio ym mis Tachwedd 2022, bydd y gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun yn dechrau y mis hwn, gan gynnwys sefydlu ysgol dros dro ar ochr ddeheuol y safle. Mae hyn er mwyn caniatáu i brif waith adeiladu'r ysgol ddigwydd ar ogledd y safle, lle mae adeiladau YsgolUwchradd Cantonian ar hyn o bryd.

Mae'r Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais yn para tan ddydd Llun 6edChwefror 2023. I weld y cynigion ac i ddweud eich dweud, ewch i:Cantonian High School, Fairwater Road, Fairwater, Cardiff / Ysgol Uwchradd Cantonian High School, Fairwater Road, Caerdydd (asbriplanning.co.uk)

 

Bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal ar:

  • Dydd Mawrth 17eg Ionawr yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Heol y Tyllgoed, Y Tyllgoed, CF5 3JR, o 16.00 - 19.30
  • Dydd Mercher 18 Ionawr yng Nghanolfan Gymunedol Parth Pentre-baen, Rhodfa Beechley, CF5 3SG, o 15.00 tan 19.00
  • Dydd Iau 19 Ionawr yng Nghwrt Insole, Ystafell Groeso: Heol y Tyllgoed, CF5 2LN 14.00 - 19.00

Mae Campws y Tyllgoed yn ddatblygiad arloesol yng Nghaerdydd sy'n gosod y safon ar gyfer prosiectau ysgolion yn y dyfodol fel y campws ysgol cyntaf i fod yn garbon sero-net, gan hefyd dargedu gostyngiad sylweddol mewn carbon a ymgorfforir yn ystod cam adeiladu'r prosiect. Mae hyn yn golygu y bydd y tair ysgol yn adeiladau hynod effeithlon o ran ynni, wedi'u pweru o ffynonellau ynni adnewyddadwy, gan alluogi Caerdydd iweithredu ar ei Strategaeth Un Blaned sy'n amlinellu uchelgais y ddinas iliniaru newid yn yr hinsawdd.

I ddysgu mwy am Strategaeth Un Blaned Cyngor Caerdydd ewch iDdogfen weledigaeth OPC.pdf (oneplanetcardiff.co.uk)

Rhagwelir y bydd y Cais Cynllunio ar gyfer prif waith adeiladu'r ysgol newydd yn cael ei gyflwyno ym mis Mawrth 2023.

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i'r gwaith o adeiladu'r campws newydd ddechrau'n gynnar y flwyddyn nesaf a dod i ben ym mlwyddyn academaidd 2025/26. 

Gall delweddau newid yn dilyn ymgynghoriad a chymeradwyaeth statudol.