Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 23 Rhagfyr 2022

Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: ymgynghoriad ar Gyllideb y Cyngor 2023/24 bellach ar agor; newidiadau i gaeau pêl-droed bach mewn parciau; gwaredu papur lapio y Nadolig hwn; ac arolwg Parc Cefn Onn.

 

Ymgynghoriad ar Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 wedi agor heddiw a bydd yn cau ar 29 Ionawr.

Gallwch roi eich barn ar y cynigion drwy fynd i dudalen yr ymgynghoriad ar ein gwefan  yma.

Bydd copïau printiedig o'r ymgynghoriad mewn sawl iaith hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd, hybiau ac adeiladau'r cyngor yn y flwyddyn newydd ar gyfer unrhyw un sy'n methu cymryd rhan yn ddigidol.

Mae'r ymgynghoriad yn gofyn cyfres o gwestiynau i drigolion am nifer o opsiynau cyllideb, gan gynnwys:

  • Ystyried ffyrdd newydd o weithredu Neuadd Dewi Sant, Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, ac Amgueddfa Caerdydd (yn yr Hen Lyfrgell, ar yr Aes) i leihau cymorthdaliadau'r cyngor
  • Lleihau oriau gweithredu mewn canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
  • Cyfyngu ar amserau agor Hybiau a llyfrgelloedd a defnyddio mwy o wirfoddolwyr i helpu i redeg y gwasanaeth
  • Cynyddu tâl preswyl a ffioedd parcio talu ac arddangos
  • Lleihau'r cymhorthdal ychydig ar gyfer oedolion sy'n llogi caeau chwaraeon
  • Cynyddu pris y gwasanaeth claddu ac amlosgi, ond o lawer llai na chwyddiant

Cynyddu cost prydau ysgol, er y byddwn yn parhau i roi cymhorthdal i'r gwasanaeth hwn.

Gofynnir i drigolion Caerdydd roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau'r Cyngor yn dilyn y newyddion y bydd dal angen i'r awdurdod lleol ddod o hyd i £23.5m er mwyn mantoli'r cyfrifon yn 2023/24, er gwaethaf derbyn cynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl.

Oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant aruthrol, pwysau galwadau a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr sector cyhoeddus eraill, bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £75m yn fwy y flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30515.html

 

Cae bach

Efallai bod anturiaethau diweddar Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar wedi dod i ben ond mae camau ar droed i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i osgoi gorfod aros mor hir cyn cael cystadlu yng Nghwpan y Byd.

Un elfen o'r gwaith yma yw cael gwared ar y pyst gôl bach sefydlog ym mharciau Caerdydd yn ddiweddar. Caerdydd oedd yr unig Gyngor yng Nghymru oedd â'r pyst sefydlog hyn, ac mae eu symud yn ganlyniad i newidiadau gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i faint caeau ar gyfer gwahanol grwpiau oedran.

Y bwriadu wrth newid i gaeau llai yw rhoimwy o amser i blant gyffwrdd â'r bêl, i wella sgiliau a chreu hwyl, fel bod pob plentyn yn cyfrannu yn ystod gêm. Mae hyn yn golygu nad oedd y caeau sefydlog yn cydymffurfio bellach.

Mae CBDC wedi rhoi goliau "dros dro" i glybiau a chyllid grant i greu llefydd hyblyg i chwarae.  Yng Nghaerdydd mae'r newidiadau'n golygu ein bod yn gallu ymateb i'r galw cynyddol am gaeau bach y mae Cynghrair Bach a Iau Caerdydd a'r Cylch yn gofyn amdanynt -safleoedd fel y Marl er enghraifft, lle'r oedd 4 cae bach sefydlog - mae'r lle  bellach yn gallu cynnig 8 cae bach.

Mae'r newidiadau hefyd yn rhan o'n cynlluniau i wella ansawdd caeau drwy leihau erydiad wrth geg y gôl lle mae dŵr yn casglu a lle mae'r gôl-geidwaid yn gorfod sefyll mewn ffosydd dan y pyst.

 

Gwaredu papur lapio y Nadolig hwn

Ni fydd papur lapio yn cael ei gasglu o fagiau neu sachau ailgylchu, a bydd angen ei roi mewn biniau neu fagiau du i'w gasglu.

Yn aml, bydd y papur lapio â chynnwys inc uchel iawn, ychydig iawn o ffibr sydd ar ôl yn y papur sy'n ddefnyddiol i'w ailgylchu a bydd yn aml yn cael ei wrthod gan y cwmnïau sy'n gwerthu'r cynnyrch i'r melinau papur.

Ni dderbynnir papur lapio sydd wedi'i labelu fel ailgylchadwy ychwaith gan nad oes modd i'n criwiau wahaniaethu rhwng y cynnyrch hwn a phapur lapio na ellir ei ailgylchu pan gaiff ei gyflwyno i'w gasglu.

Gellir ailgylchu papur lapio brown plaen yn eich bag ailgylchu.

Mae mwy o wybodaeth am ailgylchu dros y Nadolig yma:
https://www.cardiff.gov.uk/CYM/Eich-Cyngor/Newyddion/NadoligCaerdydd/Pages/default.aspx

 

Arolwg Ymwelwyr Parc Cefn Onn

Ydych chi wedi ymweld â Pharc Cefn Onn yn ddiweddar? Byddem wrth ein bodd yn clywed eich adborth am y parc yn ein harolwg defnyddwyr.

Allwch chi sbario munud neu ddau i roi eich barn?

Hoffem glywed eich barn ar y parc. A ydych chi'n ei ddefnyddio ac os felly sut, p'un a yw'r pandemig neu'r gwelliannau a wnaed trwy'r prosiect wedi effeithio ar eich defnydd a'ch syniadau am yr hyn a fyddai'n gwella'r parc ymhellach.

Cliciwch yma i ddechrau:
https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-cefn-onn/

Ar agor tan 31 Ionawr 2023. Mae pob ymateb yn cael ei ddarllen a'i werthfawrogi.