Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 20 Rhagfyr

20/12/22


Dyma'r diweddaraf gan Gyngor Caerdydd gan gynnwys: Nodyn i atgoffa holl drigolion Caerdydd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y gyllideb; ailwampio ardal chwarae Heol Llanishien Fach yn Rhiwbeina; oriau agor hybiau Caerdydd dros gyfnod y gwyliau a chyngor gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar y streiciau sydd ar ddod.

Annog trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyllideb

Gofynnir i drigolion Caerdydd roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau'r Cyngor yn dilyn y newyddion y bydd dal angen i'r awdurdod lleol ddod o hyd i £23.5m er mwyn mantoli'r cyfrifon yn 2023/24, er gwaethaf derbyn cynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl.

Oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant aruthrol, pwysau galwadau a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr sector cyhoeddus eraill, bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £75m yn fwy y flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chodi incwm yn agor ddydd Gwener, 23 Rhagfyr ac yn para am tua phum wythnos tan 29 Ionawr. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i drigolion roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau er mwyn helpu pontio'r bwlch.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30515.html

Ailwampio ardal chwarae Heol Llanisien Fach ar thema dderw

Mae'r ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach i gael ei ailwampio gyda thema dderw, gydag addurniadau ar ffurf mes a dail derw, yn ogystal â cherfluniau pren, offer chwarae hygyrch, a seddi newydd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Yr ardal chwarae yn Heol Llanisien Fach yw'r cyfleuster diweddaraf i elwa o'n rhaglen fuddsoddi parhaus o £3.2 miliwn mewn parciau ac ardaloedd chwarae ledled Caerdydd.  Ar ôl ei gwblhau bydd yn gyfleuster gwych i deuluoedd lleol ei fwynhau."

Mae'r dyluniadau'n cynnwys ardal plant bach yn ogystal ag ardal chwarae iau, ac maen nhw wedi'u cynllunio i apelio at blant o 5 oed a hŷn, gan annog chwarae dychmygus, dringo, addysg, a gweithgarwch corfforol.

Mae'n darparu ar gyfer plant sydd ag ystod eang o alluoedd, a bydd yr offer chwarae yn cynnwys cylchfan hygyrch i gadeiriau olwyn, a siglenni hygyrch.

Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys ardal eistedd gylchol newydd, yn ogystal â seddi a biniau ychwanegol wedi'u hadfer.

Mae disgwyl i'r gwaith adnewyddu ddechrau ym mis Ionawr, ‘r disgwyl yw y bydd yn barod yng ngwanwyn 2023.

Hybiau, llyfrgelloedd a Llinell Gyngor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Mae ein Hybiau, llyfrgelloedd a'n Llinell Gyngor ar agor fel arfer yr wythnos hon ond byddant yn cau'n gynnar am 12pm ddydd Sadwrn, Noswyl Nadolig.

Byddant yn ailagor ddydd Mercher Rhagfyr 28 am oriau agor arferol am weddill yr wythnos, cyn cau am 12pm ddydd Sadwrn, Rhagfyr 31. Bydd y cyfleusterau yn ail-agor ddydd Mawrth Ionawr 3.

Os ydych chi'n cael trafferth gyda phwysau costau byw, cysylltwch â ni i gael cyngor am ddim a chymorth ymarferol.

Ffoniwch y Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu ewch i https://helpnearme.cardiffmoneyadvice.co.uk/?lang=cy i gael gwybodaeth am hybiau a llyfrgelloedd, mannau croeso cynnes, banciau bwyd, oergelloedd cymunedol, grwpiau cymunedol a mwy.

 

Cyngor Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i drigolion ar y streic sydd ar ddod

 

Mae disgwyl i streic sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yfory sef 21 Rhagfyr a'r wythnos nesaf ar 28 Rhagfyr i gael effaith sylweddol ar allu'r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau 999.

Rydym yn rhannu'r cyngor hwn ar ran y gwasanaeth.

999 a gofal brys: 

  • Ar ddiwrnodau streic, dylai cleifion ond ffonio 999 os yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu a bod perygl i fywyd.
  • Bydd ambiwlansys yn dal i allu ymateb yn y sefyllfaoedd hyn, ond efallai mai dim ond pan fo perygl uniongyrchol i fywyd y bydd hyn.
  • Bydd y gwasanaeth wastad yn blaenoriaethu galwadau 999 yn ôl anghenion y claf a bydd y cleifion mwyaf sâl wastad yn derbyn help yn gyntaf.
  • Mae'n debygol mai dim ond salwch neu anafiadau sy'n peryglu bywyd fydd yn cael ymateb brys gydol y streic.
  • Efallai y bydd gofyn i rai cleifion wneud trefniant arall, fel mynd eu hunain i'r ysbyty.

GIG 111 Cymru:

  • GwefanGIG 111 Cymruddylai fod y lle cyntaf i chi fynd er mwyn cael cyngor a gwybodaeth am iechyd, gan gynnwys Strep A.
  • Gallwch hefyd siarad â fferyllydd, meddyg teulu neu ymweld ag Uned Mân Anafiadau.  Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth agosaf ar wefanGIG 111 Cymru.
  • Gallwch ffonio 111 os oes pryder brys, ond mae niferoedd uchel y galwadau yn golygu bod angen i chi fod yn barod i ddisgwyl yn hir cyn i'ch galwad gael ei hateb.

Sut gall y cyhoedd helpu:

  • Stociwch i fyny ar feddyginiaethau presgripsiwn a thros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin er mwyn lleihau'r risg y byddwch yn mynd yn sâl ar ddyddiau streic.
  • Sicrhewch fod gennych gyflenwadau cit cymorth cyntaf digonol pe digwydd bod angen i chi drin eich hun am fân anafiadau gartref.
  • Cymerwch ofal ychwanegol yn ystod y tywydd oer er mwyn osgoi llithro, baglu a disgyn, a damweiniau ar y ffyrdd.
  • Cadwch olwg ar eich teulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o agored i niwed.
  • Cwestiynau Cyffredin a gyhoeddir ar wefan Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru -

Y Wybodaeth Ddiweddaraf Am Streic - Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru