Back
Y newyddion gennym ni - 19/12/22

Image

16/12/22 - Annog trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyllideb

Gofynnir i drigolion Caerdydd roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau'r Cyngor yn dilyn y newyddion y bydd dal angen i'r awdurdod lleol ddod o hyd i £23.5m er mwyn mantoli'r cyfrifon yn 2023/24, er gwaethaf derbyn cynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30515.html

 

Image

16/12/22 - Canllaw i Gyllideb 2023/24 y Cyngor

Beth yw bwlch yn y gyllideb? Pam mae'r Cyngor yn wynebu bwlch yn y gyllideb? Sut rydyn ni'n bwriadu cau'r bwlch 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30509.html

 

Image

16/12/22 - Cynnig dau atyniad newydd i ymwelwyr ym Mae Caerdydd

Cafodd cynigion ar gyfer dau atyniad newydd i ymwelwyr gyda'r nod o wella Bae Caerdydd ymhellach fel cyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth eu trafod ddoe gan Gabinet Cyngor Caerdydd (Rhagfyr 15) 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30513.html

 

Image

16/12/22 - Gwelliannau aer glân Caerdydd o fudd i bawb

Mae'r astudiaeth ddiweddaraf i lygredd aer yng Nghaerdydd yn dangos bod trigolion wedi mwynhau aer glanach ledled y ddinas drwy gydol 2021 o'i gymharu â ffigyrau cyn y pandemig yn 2019, yn ôl adroddiad newydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30511.html

 

Image

16/12/22 - Pennu blaenoriaethau newid hinsawdd wrth i Gyngor Caerdydd dorri allyriadau carbon 13%

Mae Cyngor Caerdydd wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol 13% ers 2019/20, yn ôl adolygiad o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau wedi'u diweddaru ar gyfer gweithredu. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30504.html

 

Image

15/12/22 - Mae'r Cyngor a phartneriaid yn croesawu adroddiad y Tasglu Cydraddoldeb Hiliol

Mae rhaglen uchelgeisiol ac eang o gamau gweithredu sydd wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail hil a hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghaerdydd wedi'i chroesawu gan Gyngor Caerdydd wrth iddo fonitro'r cynnydd a wnaed ers i'r Tasglu Cydraddoldeb Hiliol gael ei sefydlu yn y ddinas. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30502.html

 

Image

15/12/22 - Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cynnig mewn egwyddor gan Academy Music Group i ddiogelu Neuadd Dewi Sant

Mae cynnig gan Academy Music Group (AMG) i gymryd yr awenau i redeg Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, drwy brydles hirdymor wedi'i gymeradwyo mewn egwyddor gan Gabinet Cyngor Caerdydd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30501.html

 

Image

13/12/22 - Mae cerbyd newydd sy'n graeanu llwybrau beicio ar wahân ar waith ar strydoedd Caerdydd

Mae gan Gyngor Caerdydd aelod newydd o'i fflyd cynnal a chadw dros y gaeaf sy'n helpu i gadw rhwydwaith beicio strategol y ddinas yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod y tywydd rhynllyd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30482.html

 

Image

13/12/22 - Peilot Insiwleiddio Arloesol Yn Cefnogi Gweledigaeth Caerdydd Un Blaned

Mae'r gwaith o osod system inswleiddio arloesol sy'n ceisio gwella effeithlonrwydd thermol adeiladau yn cyrraedd ei benllanw yn nwyrain y ddinas. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30478.html

 

Image

13/12/22 - Gwelliannau mawr i fan gwyrdd bach

Cyn bo hir, bydd pobl sy'n byw yn Cathays yn mwynhau gwelliannau mawr i fan gwyrdd bach yng nghanol y gymuned. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30475.html

 

Image

13/12/22 - Cartrefi Newydd Ynni-Effeithlon O Safon Aur Yn Barod Ar Gyfer Y Nadolig

Mae trigolion datblygiad tai newydd yng ngogledd y ddinas yn ymsefydlu yn eu cartrefi newydd hynod ynni-effeithlon, carbon isel mewn pryd ar gyfer y Nadolig. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30473.html

 

Image

12/12/22 - Datgelu Cynllun Gwella Argae Parc y Rhath

Datgelwyd cynlluniau i wella Argae Parc y Rhath drwy ddisodli'r gorlifan presennol, sef y rhaeadr wrth ochr y caffi, gyda gorlifan newydd ehangach a dyfnach, ac ychwanegu wal llifogydd ar hyd y promenâd. 

Darllenwch fwy yma:

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30469.html