Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 16 Rhagfyr 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Annog trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyllideb; Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cynnig mewn egwyddor gan Academy Music Group i ddiogelu Neuadd Dewi Sant; Mae cerbyd newydd sy'n graeanu llwybrau beicio ar wahân ar waith ar strydoedd Caerdydd; a Peilot Insiwleiddio Arloesol Yn Cefnogi Gweledigaeth Caerdydd Un Blaned.

 

Annog trigolion Caerdydd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyllideb

Gofynnir i drigolion Caerdydd roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau'r Cyngor yn dilyn y newyddion y bydd dal angen i'r awdurdod lleol ddod o hyd i £23.5m er mwyn mantoli'r cyfrifon yn 2023/24, er gwaethaf derbyn cynnydd o 9% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru sy'n well na'r disgwyl.

Oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys cynnydd mewn costau ynni, chwyddiant aruthrol, pwysau galwadau a chynnydd disgwyliedig mewn cyflogau i athrawon, gofalwyr a gweithwyr sector cyhoeddus eraill, bydd cyllideb y cyngor ar gyfer darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd fel addysg, gofal cymdeithasol, casglu sbwriel, parciau a llyfrgelloedd yn costio £75m yn fwy y flwyddyn nesaf nag y bydd eleni.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o newidiadau posibl i wasanaethau a allai helpu i wneud arbedion a chodi incwm yn agor ddydd Gwener, 23 Rhagfyr ac yn para am tua phum wythnos tan 29 Ionawr. Yn ystod yr ymgynghoriad, bydd gofyn i drigolion roi eu barn ar newidiadau posibl i wasanaethau er mwyn helpu pontio'r bwlch.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Yn union fel y mae'r argyfwng costau byw wedi effeithio ar gyllideb pob cartref ar draws Cymru, mae'r un peth yn wir am bob gwasanaeth y mae'r cyngor yn ei ddarparu. Mae'n golygu bod popeth rydyn ni'n ei wneud, pob gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig nawr yn costio llawer mwy i'w ddarparu.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30515.html

 

Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cynnig mewn egwyddor gan Academy Music Group i ddiogelu Neuadd Dewi Sant

Mae cynnig gan Academy Music Group (AMG) i gymryd yr awenau i redeg Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, drwy brydles hirdymor wedi'i gymeradwyo mewn egwyddor gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Gallai'r cynllun i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant weld gwaith atgyweirio ac adnewyddu y mae mawr ei angen gwerth miliynau yn cael ei wneud ar yr adeilad, a rhaglen ddigwyddiadau wedi'i hadfywio wedi'i chynllunio i ddiogelu'r repertoire cerddoriaeth glasurol, gan ddod â rhai o'r artistiaid roc a phop pennaf i berfformio yng Nghaerdydd ar yr un pryd.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn datgelu bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar y Neuadd, a byddai angen symiau sylweddol o arian hefyd i uwchraddio'r lleoliad yn llawn.

Ond gyda Chyngor Caerdydd eisoes yn wynebu twll sylweddol yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, byddai'r awdurdod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cyfalaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus.O ganlyniad, ers sawl blwyddyn bellach, mae wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd y gellid sicrhau dyfodol y lleoliad ar ddim cost neu ychydig iawn o gost i'r trethdalwr.

Byddai cymeradwyaeth derfynol i unrhyw brydles yn destun adroddiad Cabinet pellach yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o broses i osod cyllideb y Cyngor, a chyhoeddi Rhag-hysbysiad Gwirfoddol (hysbysiad VEAT), hysbysiad cyhoeddus o fwriad a fydd yn cynnwys manylion y contract drafft a negodwyd gydag AMG.

Byddai cynnig AMG yn ei weld yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am yr adeilad yn llawn, gan ddileu atebolrwydd y cyngor am waith cynnal a chadw a chymorthdaliadau, tra hefyd yn:

  • Buddsoddi mewn cyfres o waith cynnal a chadw ac adfer hanfodol a pharhaus
  • Buddsoddi i foderneiddio'r ardaloedd cyffredin (bariau/cynteddau ac ati)
  • Buddsoddi yn y prif awditoriwm - gan gynnwys gorchuddion seddi a lloriau newydd
  • Buddsoddi yn ardal y llwyfan

Ymrwymo i gyflogi holl staff presennol y Cyngor yn y Neuadd ar delerau ac amodau presennol trwy gytundeb TUPE.

Byddai buddsoddiad hefyd yn cael ei wneud yn y seddi ar y llawr - gan osod seddau symudadwy er mwyn gallu sefyll ar gyfer digwyddiadau AMG. Mae'r cynnig hwn wedi'i brofi a'i gymeradwyo gan beirianwyr acwstig gwreiddiol y Neuadd, Sandy Brown, i gadarnhau na fyddai'n cael unrhyw effaith amlwg ar acwsteg y lleoliad, sydd o'r radd flaenaf.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30501.html

 

Mae cerbyd newydd sy'n graeanu llwybrau beicio ar wahân ar waith ar strydoedd Caerdydd

Mae gan Gyngor Caerdydd aelod newydd o'i fflyd cynnal a chadw dros y gaeaf sy'n helpu i gadw rhwydwaith beicio strategol y ddinas yn ddiogel i'w ddefnyddio yn ystod y tywydd rhynllyd.

Mae'r cerbyd Multihog yn lledaenu hylif dŵr hallt dros y llwybrau beicio a chaiff ei ddefnyddio yn ystod y tywydd oer presennol i sicrhau bod llwybrau beicio ar wahân y ddinas yn ddiogel i feicwyr eu defnyddio.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30482.html

 

Peilot Insiwleiddio Arloesol Yn Cefnogi Gweledigaeth Caerdydd Un Blaned

Mae'r gwaith o osod system inswleiddio arloesol sy'n ceisio gwella effeithlonrwydd thermol adeiladau yn cyrraedd ei benllanw yn nwyrain y ddinas.

Nod y prosiect 'Plug-N-Harvest' yw dylunio, datblygu ac arddangos system gladin allanol ‘plug-n-play' fodiwlar newydd sy'n gallu insiwleiddio a chreu ynni adnewyddadwy mewn adeiladau preswyl a di-breswyl.

Ar ôl derbyn gwobr fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd dan Raglen Horizon 2020 yr UE, mae'r Cyngor yn treialu'r system gladin ‘plug-n-play'  ar ddau dŷ cyngor yn Llanrhymni.

Mae'r cynllun yn cefnogi strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor sy'n amlinellu cynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau, ifod yn garbon niwtral erbyn 2030mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30478.html