Back
Canllaw i Gyllideb 2023/24 y Cyngor

22/02/23

Beth yw bwlch yn y gyllideb?

Mae bwlch yn y gyllideb yn cael ei gyfrifo trwy dynnu cyllid (y grantiau y mae'r Cyngor yn eu derbyn gan y Llywodraeth a refeniw a gynhyrchir trwy daliadau fel y dreth gyngor a pharcio) o'r gwariant a ragwelir ar gyfer darparu gwasanaethau fel addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hybiau, glanhau strydoedd, goleuadau stryd, cynnal a chadw ffyrdd ac ati. Ar hyn o bryd mae Cyngor Caerdydd yn darparu tua 700 o wasanaethau i drigolion ar draws y ddinas.

Pam mae'r Cyngor yn wynebu bwlch yn y gyllideb?

Mae'r Cyngor yn wynebu bwlch rhagamcanol yn y gyllideb o dros £24.2 miliwn - dyma'r bwlch rhwng y gost a ragwelir am ddarparu ein gwasanaethau a swm yr adnoddau sydd ar gael.

Mae nifer o resymau pam mae'r Cyngor yn rhagamcanu bwlch yn y gyllideb.

Galw cynyddol am ein gwasanaethau:

Wrth i'r argyfwng costau byw waethygu, mae mwy a mwy o bobl yn troi at y Cyngor am gymorth, sy'n golygu bod y galw am ein gwasanaethau yn cynyddu. Gwyddom, er enghraifft, fod nifer y bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol bron dwbl y lefel cyn y pandemig. Mae nifer y bobl sy'n cael mynediad i'n gwasanaeth cynghori hefyd wedi dyblu ers mis Ebrill y llynedd, tra bod llwythi achosion Prydau Ysgol am Ddim wedi cynyddu'n sylweddol. Gyda mwy o bobl yn ceisio cael mynediad i wasanaethau'r Cyngor, mae cost darparu yn codi.

Pwysau Chwyddiant:

Gyda chwyddiant bellach dros 11%, mae costau darparu gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn ein hadeiladau a'n seilwaith i gyd yn codi.

Ynni:

Mae prisiau ynni cynyddol yn golygu bod y Cyngor yn ystyried talu £12m yn ychwanegol y flwyddyn nesaf i gynhesu a goleuo ein hadeiladau a phweru ein goleuadau stryd.

Cyflog:

Rydyn ni'n credu y dylai gweithwyr y sector cyhoeddus - sy'n darparu gwasanaethau hanfodol ledled y ddinas - gael eu talu'n deg. Mae dyfarniadau cyflog yn cael eu trafod ar gyfer athrawon, gofalwyr a staff sector cyhoeddus eraill sydd - oherwydd chwyddiant - yn debygol o weld costau cyflogau'r Cyngor yn codi.

Deunyddiau:

Mae hyn yn golygu bod cost prynu deunyddiau i gynnal asedau - megis ffyrdd ac ysgolion, neu i ddarparu ysgolion newydd a thai cyngor - i gyd yn cynyddu.

 

Gwaddol Covid: Mae effaith barhaol Covid yn parhau i gael ei deimlo, gyda rhai gwasanaethau yn profi colled incwm barhaus tra bod eraill yn wynebu mwy o heriau a phroblemau mwy cymhleth wrth iddyn nhw gefnogi adfer.

Sut rydyn ni'n bwriadu cau'r bwlch

Bydd angen cau'r bwlch yn y gyllideb o £24.2m trwy gyfuniad o:

Arbedion Effeithlonrwydd a Chynigion Newid Gwasanaeth:

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac felly'n ceisio cynhyrchu cymaint o arbedion â phosib trwy effeithlonrwydd cefn swyddfa. Mae hyn yn golygu lleihau costau rhedeg ein hadeiladau, lleihau maint o le swyddfa sydd ei angen arnom, a defnyddio technoleg newydd lle gall arbed arian i ni. Mae maint yr heriau ariannol hefyd yn golygu bod y Cyngor wedi bod yn ystyried gostyngiad rheoledig yn nifer y staff sy'n cael eu cyflogi, trwy ddiswyddo gwirfoddol, er mwyn cynhyrchu arbedion a lleihau diswyddiadau gorfodol cymaint â phosibl.

Yn anffodus, ni fydd arbedion effeithlonrwydd yn ddigon, ac efallai y bydd angen rhai newidiadau i wasanaethau er mwyn cydbwyso'r llyfrau. Dyna pam rydyn ni eisiau gwybod beth mae pobl Caerdydd yn ei feddwl am rai o'r newidiadau posib y gallen ni eu gwneud i arbed arian.

Treth Gyngor:

Mae'r Dreth Gyngor yn cyfrif am 27% o gyllideb y Cyngor, ac mae'r gweddill yn dod gan Lywodraeth Cymru.  Mae pob cynnydd o 1% yn y Dreth Gyngor yn creu tua £1.6m yn unig, ac felly nid yw cau'r bwlch yn y gyllideb trwy gynyddu treth yn unig yn realistig, yn enwedig mewn argyfwng costau byw.

Defnyddio Cronfeydd Wrth Gefn:

Rhaid i'r Cyngor fod yn ofalus iawn wrth ddefnyddio'i gronfeydd ariannol; dim ond swm cyfyngedig sydd ar gael ac unwaith maen nhw wedi'u defnyddio, ni fydd unrhyw gronfeydd ar ôl.Mae'r mwyafrif o gronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi'u clustnodi at ddibenion penodol ac felly maent eisoes wedi ymrwymo i gefnogi darparu gwasanaethau, er enghraifft ariannu mentrau cymunedol untro a chefnogi Gwasanaethau Atal Digartrefedd. Mae'r Cyngor yn cynnal lefel o Falans Cyffredinol gwerth £14.2M i dalu am gostau annisgwyl ac mae hyn yn cyfateb i lai na 2% o gyllideb net gyffredinol y Cyngor.