Back
Pennu blaenoriaethau newid hinsawdd wrth i Gyngor Caerdydd dorri allyriadau carbon 13%

16/12/22

Mae Cyngor Caerdydd wedi lleihau ei allyriadau carbon uniongyrchol 13% ers 2019/20, yn ôl adolygiad o'i ymateb Caerdydd Un Blaned i'r argyfwng hinsawdd, sy'n amlinellu ei flaenoriaethau wedi'u diweddaru ar gyfer gweithredu.

Yn 2019/20 roedd allyriadau gweithredol uniongyrchol y Cyngor yn mesur 26,118 tunnell CO2e, ffigur a ostyngodd i 22,695 tunnell CO2e yn 2020/21.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r ffigurau hyn yn dangos y camau sylweddol y mae'r Cyngor eisoes yn eu cymryd tuag at ein nod uchelgeisiol o sicrhau niwtraliaeth garbon erbyn 2030.

"Mae ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yn ganolog i'n hagenda ac ni fydd unrhyw faes o'r cyngor yn osgoi ei effaith, ond mae hyn yn argyfwng, felly mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y meysydd sy'n cyflawni'r gostyngiadau carbon mwyaf posibl yn y cyfnod byrraf."

"Er bod gennym gyfrifoldeb clir i sicrhau bod y Cyngor yn lleihau ei allyriadau ei hun, mae gennym rôl arweiniol hefyd o ran lleihau allyriadau ledled y ddinas ac mae Caerdydd Un Blaned yn cynnwys diweddariadau a thargedau uchelgeisiol sy'n dangos ein bod yn cymryd camau ystyrlon." 

Dyma rai o'r meysydd ffocws allweddol:

  • Datgarboneiddio cadwyn gyflenwi'r Cyngor.Bydd hyn yn cynnwys gwneud carbon yn ffactor cystadleuol ym mhob tendr. Ar hyn o bryd mae caffael yn gyfrifol am 80% o allyriadau carbon y Cyngor.
  • Cyflwyno cynllun Lleihau Carbon Ystadau newydd.Mae gosod mesurau effeithlonrwydd ynni, fel bylbiau golau LED, yn golygu bod allyriadau o adeiladau'r Cyngor wedi gostwng o 40,000 tunnell yn 2014/15 i ychydig dros 18,000 tunnell yn 21/22 (ac eithrio canolfannau hamdden). Bydd y cynllun newydd yn dod â gwaith at ei gilydd ar gynigion i gynyddu ynni solar wedi'i osod ar y to, ôl-osod ystâd gyfan y Cyngor a darparu adeiladau newydd y Cyngor sy'n sero-net o ran carbon.
  • Cyflwyno Rhwydwaith Gwres Caerdydd carbon isel a chynlluniau ynni adnewyddadwy newydd.Er gwaethaf mesurau effeithlonrwydd ynni, wrth i'r cyngor drosglwyddo ei fflyd i drydan a chwilio am ffyrdd newydd o gynhesu adeiladau, bydd y galw am drydan yn cynyddu, felly mae'n allweddol cynhyrchu ynni adnewyddadwy glân newydd ar dir y Cyngor. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu cynlluniau newydd gyda'r potensial i gynhyrchu 25MW o drydan gwyrdd. Mae Rhwydwaith Gwres Caerdydd, sy'n defnyddio gwres a gynhyrchir fel sgil gynnyrch prosesu gwastraff, bellach yn cael ei adeiladu a rhagwelir y dyddiadau 'troi gwres ymlaen' cyntaf ddiwedd 2023. Bydd cwsmeriaid yn gweld gostyngiad cyfartalog o 80% yn eu hallyriadau carbon ar unwaith.
  • Gwneud cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd yn sbardun canolog i'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.Bydd llwyddiant yn y maes hwn yn gofyn am gydweithrediad a phartneriaeth datblygwyr yn y ddinas i sicrhau nad yw datblygiad newydd yn ychwanegu at ein heriau carbon a hinsawdd.
  • Parhau i gymryd y camau a nodir yn ein Papur Gwyn Trafnidiaeth.Lleihau nifer y teithiau diangen mewn cerbydau modur yn y ddinas, gan alluogi dulliau teithio llesol iachach a mwy amgylcheddol gynaliadwy, a chefnogi trosglwyddo i danwydd carbon isel ar gyfer unrhyw deithiau sy'n weddill - gan gynnwys teithiau a wneir yn ystod gweithrediadau'r Cyngor ei hun. Trafnidiaeth yw'r ail elfen fwyaf yn allyriadau uniongyrchol y Cyngor. Hyd yn hyn, mae 53 o gerbydau fflyd y Cyngor yn drydanol. Oherwydd prinder cerbydau ledled y wlad, mae disgwyl i'r gweddill gael eu newid erbyn 2025.
  • Symud tuag at economi gylchol.Yn 2020/21 amcangyfrifir bod ailgylchu yng Nghaerdydd wedi osgoi 36,000 tunnell o allyriadau CO2. I ddwyn rhagor o fuddion, mae'r Cyngor wedi llunio strategaeth ailgylchu newydd gyda'r nod o gynyddu'r nifer sy'n ailgylchu, cynyddu'r cyfleoedd i ailgylchu ac annog ailddefnyddio ac atgyweirio deunyddiau.
  • Cynyddu maint y canopi coed.Mae 20,000 o goed eisoes wedi cael eu plannu ar draws y ddinas trwy brosiect Coed Caerdydd. Bydd cyfanswm o 22 hectar o dir wedi'i blannu erbyn 2024, gan gefnogi atafaelu carbon a darparu dulliau cysgodi ac oeri trefol ychwanegol.
  • Lliniaru'r risg o lifogydd.Mae llifogydd yn un o brif risgiau'r newid yn yr hinsawdd i Gaerdydd. Mae disgwyl i gynllun i gryfhau amddiffynfeydd ar Aber Rhymni a fydd yn cynnig amddiffyniad rhag 1 mewn 200 o ddigwyddiadau llifogydd mewn blwyddyn ddechrau ar y gwaith adeiladu yn 2023. Mae strategaeth a chynllun rheoli risg llifogydd newydd hefyd yn cael ei ddatblygu. Mae dyluniadau Draenio Trefol Cynaliadwy yn parhau i gael eu hintegreiddio i ddatblygiadau newydd, gwelliannau mewn ardaloedd cyhoeddus a chynlluniau arafu traffig.
  • Cynyddu cynhyrchiad, cyflenwi a bwyta bwyd cynaliadwy a dyfir yn lleol.Mae economi fwyd Caerdydd yn orddibynnol ar fwydydd sy'n cael eu mewnforio a'u prosesu ar hyn o bryd. Mae prosiect gwerth £2.5 miliwn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Fynwy a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio atebion i'r heriau hyn ar hyn o bryd. Bydd gwaith hefyd yn parhau ar brosiect peilot i brofi ffyrdd y gellir darparu lleiniau tir sbâr a segur ym mherchnogaeth y Cyngor i grwpiau cymunedol lleol ar gyfer mentrau tyfu bwyd iach, lleol, carbon is. Mae bwydlenni prydau ysgol newydd sy'n gynaliadwy, iach ac yn garbon isel yn cael eu datblygu.
  • Newid ymddygiad.Bydd gwireddu gweledigaeth Caerdydd Un Blaned i greu Cyngor carbon niwtral erbyn 2030 a chynhyrchu "llwybr" manwl i gyflawni sero net i'r ddinas gyfan yn gofyn am ymdrech gan bawb sy'n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd y Cyng. Wild: "Efallai na fyddwn yn gallu gwrthdroi'r newid yn yr hinsawdd yn llwyr, ac mae heriau fel datgarboneiddio gwresogi â nwy yn amlwg yn parhau, ond rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan i amddiffyn cenedlaethau'r dyfodol rhag ei effeithiau gwaethaf a gwneud Caerdydd yn lle gwyrddach, iachach a mwy cynaliadwy i fyw ynddo.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau partner ar draws y ddinas i leihau allyriadau, ond y gwir amdani yw y bydd angen i bob un ohonom wneud newidiadau i'n ffyrdd o fyw er mwyn i Gaerdydd ddod yn garbon niwtral."

Cafodd Caerdydd Un Blaned ei graffu gan y Pwyllgor Craffu Amgylcheddol am 4.30pm ar Ragfyr 8fed. Gellir gweld papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod craffu cyhoeddus hwn, yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=143&MId=7965&LLL=0

https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/b19961/Correspondence%20Following%20the%20Committee%20Meeting%2008th-Dec-2022%2016.30%20Environmental%20Scrutiny%20Committe.pdf?T=9&LLL=0

Mae recordiad o we-ddarllediad cyfarfod y pwyllgor ar gael yma:

https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/724464

Cymeradwyodd Cabinet Cyngor Caerdydd yr adroddiad ar Un Blaned Caerdydd yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir ddydd Iau, Rhagfyr 15.Gellir gweld papurau sy'n gysylltiedig â'r cyfarfod hwn, a recordiad o'r we-ddarllediad, yma:

https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7957&Ver=4