Back
Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo cynnig mewn egwyddor gan Academy Music Group i ddiogelu Neuadd Dewi Sant

Mae cynnig gan Academy Music Group (AMG) i gymryd yr awenau i redeg Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, drwy brydles hirdymor wedi'i gymeradwyo mewn egwyddor gan Gabinet Cyngor Caerdydd.

Gallai'r cynllun i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant weld gwaith atgyweirio ac adnewyddu y mae mawr ei angen gwerth miliynau yn cael ei wneud ar yr adeilad, a rhaglen ddigwyddiadau wedi'i hadfywio wedi'i chynllunio i ddiogelu'r repertoire cerddoriaeth glasurol, gan ddod â rhai o'r artistiaid roc a phop pennaf i berfformio yng Nghaerdydd ar yr un pryd.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn datgelu bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar y Neuadd, a byddai angen symiau sylweddol o arian hefyd i uwchraddio'r lleoliad yn llawn. 

Ond gyda Chyngor Caerdydd eisoes yn wynebu twll o £23.5m yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, byddai'r awdurdod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cyfalaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus.O ganlyniad, ers sawl blwyddyn bellach, mae wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd y gellid sicrhau dyfodol y lleoliad ar ddim cost neu ychydig iawn o gost i'r trethdalwr.

Byddai cymeradwyaeth derfynol i unrhyw brydles yn destun adroddiad Cabinet pellach yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o broses i osod cyllideb y Cyngor, a chyhoeddi Rhag-hysbysiad Gwirfoddol (hysbysiad VEAT), hysbysiad cyhoeddus o fwriad a fydd yn cynnwys manylion y contract drafft a negodwyd gydag AMG.

Byddai cynnig AMG yn ei weld yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am yr adeilad yn llawn, gan ddileu atebolrwydd y cyngor am waith cynnal a chadw a chymorthdaliadau, tra hefyd yn:

  • Buddsoddi mewn cyfres o waith cynnal a chadw ac adfer hanfodol a pharhaus
  • Buddsoddi i foderneiddio'r ardaloedd cyffredin (bariau/cynteddau ac ati)
  • Buddsoddi yn y prif awditoriwm - gan gynnwys gorchuddion seddi a lloriau newydd
  • Buddsoddi yn ardal y llwyfan 
  • Ymrwymo i gyflogi holl staff presennol y Cyngor yn y Neuadd ar delerau ac amodau presennol trwy gytundeb TUPE.

Byddai buddsoddiad hefyd yn cael ei wneud yn y seddi ar y llawr - gan osod seddau symudadwy er mwyn gallu sefyll ar gyfer digwyddiadau AMG. Mae'r cynnig hwn wedi'i brofi a'i gymeradwyo gan beirianwyr acwstig gwreiddiol y Neuadd, Sandy Brown, i gadarnhau na fyddai'n cael unrhyw effaith amlwg ar acwsteg y lleoliad, sydd o'r radd flaenaf.

Ym mis Gorffennaf 2021, ymwelodd ymgynghorwyr acwstig o Sandy Brown â'r neuadd i gynnal profion acwstig manwl dros ddau ddiwrnod i fesur priodweddau acwstig allweddol y neuadd. Meincnodwyd nodweddion acwstig naturiol y neuadd yn fanwl ar draws yr holl derasau eistedd.

Adeiladodd tîm Sandy Brown fodel cyfrifiadurol acwstig 3D manwl o'r neuadd gan ddefnyddio meddalwedd acwstig arbenigol a defnyddiwyd hyn i asesu cynigion AMG. Dangosodd y modelu fod disgwyl i newidiadau ym mhriodweddau acwstig naturiol y neuadd o ganlyniad i'r cynigion fod yn fach iawn ac yn gyffredinol is na'r trothwyon newid sydd eu angen iddynt fod yn amlwg. Mae Sandy Brown wedi rhoi argymhellion i'w dilyn os caiff cynigion AMG eu gweithredu, ac mae canlyniadau eu profion meincnodi a'u model cyfrifiadurol ar gael i gynorthwyo gydag adolygu unrhyw gynigion dylunio os oes angen.

Nod cynnig AMG hefyd yw adeiladu enw da Neuadd Dewi Sant fel y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol ac un o'r lleoliadau cerddoriaeth glasurol mwyaf blaenllaw yng ngwledydd Prydain.  Fel rhan o hyn mae AMG wedi ymrwymo i:

  • Gyflawni pob agwedd o'r rhaglen glasurol heb gymhorthdal gan y Cyngor gyda'r nod o ddatblygu a gwella'r calendr digwyddiadau.
  • Parhau i gyflwyno'r gyfres cyngherddau rhyngwladol tra'n dileu'r risg i'r Cyngor o sicrhau cerddorfeydd, a fydd nawr yn cael eu darparu gan AMG.
  • Sicrhau bod y rhaglen gerddoriaeth glasurol yn cael blaenoriaeth ddigonol drwy neilltuo 60 diwrnod yn ystod y cyfnod brig ar gyfer digwyddiadau (Medi-Mai), a 25 diwrnod ychwanegol y tu allan i'r tymor brig, i warantu amser ar gyfer digwyddiadau gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd a'r Proms Cymreig.  Ar hyn o bryd mae Canwr y Byd Caerdydd a'r Proms yn cael eu cynnal y tu allan i'r cyfnod prysuraf felly nid yw hyn yn newid eu rhaglennu. Mae hyn yn golygu y bydd o leiaf 85 diwrnod ar gael ar gyfer y rhaglen glasurol. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen glasurol, digwyddiadau cymunedol sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol a gwaith yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, yn defnyddio hyd at 87 diwrnod. 
  • Parhau i ddefnyddio ymgynghorydd rhaglen gerddoriaeth glasurol annibynnol
  • Cynnal a chadw offerynnau cerdd allweddol y lleoliad gan gynnwys yr organ gyngerdd a 5 piano Steinway 
  • Hyrwyddo'r arlwy cerddoriaeth glasurol drwy eu sianeli marchnata helaeth
  • Cyflwyno cynnyrch cerddoriaeth AMG i Gaerdydd gan ddod â nifer sylweddol o ddigwyddiadau cerddoriaeth roc a phop o safon uchel gan yr artistiaid addawol gorau i berfformio yn y Neuadd bob blwyddyn 
  • Parhau i weithio gydag Actifyddion Artistig i gefnogi'r rhaglen glasurol a digwyddiadau cymunedol 
  • Rhyddhau'r Neuadd ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn rhad ac am ddim ar y dyddiau pan fo'r Neuadd fel arfer ar agor ac am gyfradd gymunedol fechan ar y dyddiau y byddai fel arfer ar gau (i dalu am gostau gorbenion gweithredol sylfaenol).

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies: "Does dim dwywaith bod angen sicrhau buddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant. O ystyried y pwysau presennol ar gyllidebau - mae bwlch sylweddol yn y gyllideb y flwyddyn nesaf - mae'r cyngor yn awyddus i archwilio modelau amgen a all adfywio ac uwchraddio'r adeilad, gan ddiogelu statws y lleoliad fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru ar yr un pryd.

"Mae'r Cyngor yn ymwybodol o bwysigrwydd Neuadd Dewi Sant i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth glasurol ac mae'r cynnig yn gwarchod y brif raglen glasurol, digwyddiadau cymunedol, ac yn cynnwys cyfleoedd i ehangu'r rhain.   Fe fyddai'r Neuaddyn parhau i gyflwyno cyfres cyngherddau rhyngwladol o'r radd flaenaf a rhaglen gerddoriaeth glasurol sy'n cynnig cerddoriaeth glasurol i drigolion ac ymwelwyr, gan gerddorfeydd symffonig llawn ac uchel eu parch yn awditoriwm arbennig y Neuadd.

"Mae hefyd yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol er mwyn atgyweirio ac uwchraddio'r adeilad tra'n sicrhau y bydd enw da'r neuadd am acwsteg o'r radd flaenaf yn parhau.  Mae'r peirianwyr acwstig gwreiddiol, Sandy Brown wedi gweld y cynlluniau ar gyfer y trefniadau eistedd ac maent yn fodlon na fyddant yn cael effaith andwyol ar yr acwsteg ac y bydd Dewi Sant yn cadw ei enw da fel un o'r neuaddau cyngerdd â'r sain gorau yn y byd.

"Mae'r cynnig hefyd yn amddiffyn yr holl weithwyr presennol ar eu telerau ac amodau presennol trwy gytundeb TUPE, ond bydd y cyngor yn amsugno'r tîm Actifyddion Artistig i'r adran addysg fel y gallant barhau â'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud gan ddod â cherddoriaeth glasurol i gynulleidfaoedd newydd bob blwyddyn.

"Mae'r cyngor hwn wedi wynebu deng mlynedd o lymder lle gwelwyd ei gyllideb yn gostwng dros chwarter biliwn o bunnoedd.   Rydym wedi gorfod canolbwyntio ein gwariant ar wasanaethau statudol allweddol gan sicrhau bod addysg a gofal cymdeithasol, sy'n llyncu tua 72% o gyllideb y cyngor yn parhau i sicrhau canlyniadau da i'n preswylwyr. 

"Rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ddod o hyd i bartneriaethau addas ar gyfer Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd ers 2014 i leihau'r baich ar drethdalwyr y cyngor sy'n sybsideiddio'r ddau leoliad.   Yn 2016 cynhaliodd y cyngor broses gaffael agored lawn, ond ni nododd y broses bartner addas a allai ymrwymo i redeg Neuadd Dewi Sant heb gymhorthdal ac a allai fuddsoddi yn yr adeilad. Ers hynny tarwyd bargen i sicrhau dyfodol y Theatr Newydd, ond hyd at nawr dydyn ni heb gael unrhyw gynnig a allai weithio ar gyfer Neuadd Dewi Sant.  Y mae'r cynnig hwn yn ymrwymo i gynnal ac uwchraddio'r lleoliad, sicrhau y bydd y rhaglen glasurol a chymunedol yn aros, tra'n cyflwyno arlwy cerddoriaeth newydd fywiog i'r ddinas. Gallai fod yn un o'r ychydig gyfleoedd sydd gennym i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant am flynyddoedd i ddod."

Roedd adroddiad a ddaeth i'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2021 yn nodi amserlen fanwl o waith blaenoriaeth.  Mae cost y gwaith hwnnw, gwelliannau eraill a moderneiddio yn rhedeg i'r miliynau o bunnoedd.

Gofynnodd y Cabinet wedyn i swyddogion y cyngor lunio achos busnes amlinellol ar ddyfodol Neuadd Dewi Sant ac, yn y cyfamser, i weithredu strategaeth iechyd a diogelwch a rheoli adeilad er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn parhau ar agor ac yn lleoliad y gellid ei ddefnyddio.  Mae'r adroddiad diweddaraf i'r Cabinet yn nodi mai ‘dim ond yn y byrdymor y gellir parhau yn rhesymol â hyn fel ateb dros dro i gynllun adfer mwy parhaol.'

Roedd yr achos busnes amlinellol y gofynnwyd amdano gan y Cabinet yn canolbwyntio ar dri opsiwn a gafodd eu hadolygu gan ymgynghorwyr arbenigol.

Opsiwn 1

Bod y Cyngor yn cadw Neuadd Dewi Sant - mae hyn yn rhagdybio bod y Cyngor yn buddsoddi cronfeydd cyfalaf i atgyweirio ac adnewyddu eiddo yn unol â chyngor proffesiynol a pharhad y cymhorthdal blynyddol o £688k.

Opsiwn 2

Cynnig AMG - does dim angen buddsoddiad cyfalaf a dim cymhorthdal blynyddol gan y cyngor.  Mae hwn yn darparu ar gyfer parhad di-gymhorthdal y rhaglen glasurol lawn gydag uchelgais i ddatblygu'r arlwy ymhellach. Bydd AMG yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith o gynnal a chadw'r adeilad, moderneiddio'r lleoliad, wrth warchod y calendr cerddoriaeth glasurol, a dod â rhai o'r artistiaid roc a phop mwyaf poblogaidd i berfformio yng Nghaerdydd.

Opsiwn 3

Mynd i'r farchnad. Cynhaliodd ymgynghorwyr ymarfer ymgysylltu â'r farchnad.  Roedd lefel dda o ddiddordeb yn y farchnad i redeg yr adeilad, ond dim ond os oedd y cyngor yn cadw cyfrifoldeb am rwymedigaethau'r adeilad, atgyweirio a chynnal a chadw.

Daw cymeradwyaeth mewn egwyddor y Cabinet yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; Cyngor Celfyddydau Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
 
Gallwch ddarllen mwy am y cynnig yn y Cwestiynau Cyffredin, yma: https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30427.html

Bu'r Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn edrych ar yr adroddiad cabinet mewn cyfarfod cyhoeddus Ddydd Llun 12 Rhagfyr. Gellir gweld recordiad o'r cyfarfod yma: https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/726620 ac mae modd gweld y papurau craffu cyhoeddedig yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=7938&LLL=1 

Heriwyd y cynigion gan Aelodau Etholedig i ddeall eu rhesymeg a'u sail dystiolaeth, gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf. Yn dilyn y cyfarfod fe ysgrifennodd y Pwyllgor Craffu at y Cabinet gyda nifer o argymhellion.  Gellir gweld y llythyr yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/b19962/Correspondence%20Following%20Committee%20Meeting%2012th-Dec-2022%2017.00%20Economy%20Culture%20Scrutiny%20Committe.pdf?T=9&LLL=0 

Cafwyd cyfarfod eithriadol o Gyngor Caerdydd Ddydd Gwener, 9 Rhagfyr, i drafod cynnig ar Neuadd Dewi Sant. Gallwch weld y papurau, gan gynnwys y cynnig diwygiedig (cynnig 2) a gafodd ei basio gan y Cyngor Llawn yn ystod y ddadl yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=7938&LLL=1 Mae recordiad o'r cyfarfod i'w weld yma: Cyngor - Dydd Gwener, 9 Rhagfyr 2022 at 4:30pm - Cardiff Council Webcasting (public-i.tv)

Derbyniodd Cabinet Cyngor Caerdydd yr adroddiad ar Neuadd Dewi Sant yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir am 2pm Ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Mae agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod (gan gynnwys yr adroddiad acwstig llawn gan Sandy Brown) ar gael yma https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=7957&LLL=1 a bydd recordiad o lif byw y cyfarfod ar gael yma https://cardiff.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/727837