Back
Diweddariad gan Gyngor Caerdydd: 13 Rhagfyr 2022

Dyma eich diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: cartrefi newydd ynni-effeithlon o safon aur yn barod ar gyfer y Nadolig; datgelu cynllun gwella Argae Parc y Rhath; a Cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn barod i symud ymlaen.

 

Cartrefi Newydd Ynni-Effeithlon O Safon Aur Yn Barod Ar Gyfer Y Nadolig

Mae trigolion datblygiad tai newydd yng ngogledd y ddinas yn ymsefydlu yn eu cartrefi newydd hynod ynni-effeithlon, carbon isel mewn pryd ar gyfer y Nadolig.

Mae'r cyngor wedi trosglwyddo 12 o gartrefi dwy ystafell wely ar ddatblygiad newydd Plas y Ddôl yn y Mynydd Bychan - rhan o gynllun Cartrefi Caerdydd y Cyngor gyda'r datblygwr cenedlaethol Wates Residential, sy'n darparu 1,500 o gartrefi newydd yn y ddinas.

Mae'r cynllun, y dyrannwyd grant £1.8 miliwn y Rhaglen Tai Arloesol iddo gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys 30 o fflatiau un a dwy ystafell wely i'w rhentu o'r cyngor a 12 o dai rhes dwy ystafell wely, 6 ohonynt wedi bod ar gael i'w prynu trwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd, cynllun perchentyaeth â chymorth y Cyngor, a'r gweddill ar gyfer rhent cyngor.

Mae pob un o'r 42 cartref fforddiadwy ar y datblygiad, a adeiladwyd ar safle'r hen Ganolfan Ddydd Highfields oddi ar Heol Allensbank, wedi cyflawni Ardystiad Passivhaus - safon aur effeithlonrwydd ynni sy'n gofyn am lefelau uchel o insiwleiddio ac athreiddedd aer isel i greu cartrefi sydd angen llai o ynni i wresogi, sy'n helpu i ostwng biliau ynni i breswylwyr a lleihau allyriadau carbon.

Er bod nwy'n dal i fod yn brif ffynhonnell gwresogi a dŵr poeth ar y datblygiad, mae'r boeleri combi Viessmann Vitodens 200-W (parod am hydrogen) diweddaraf yn cael eu defnyddio ac mae effeithlonrwydd ynni yn cael ei wella ymhellach drwy ddefnyddio adfer gwres MVHR a gwydr triphlyg.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Darparu tai fforddiadwy y mae mawr eu hangen mewn ward sydd â galw mawr ond cyflenwad isel, Plas y Ddôl yn Y Mynydd Bychan yw ein datblygiad Passivhaus ynni isel blaenllaw.  Yn ogystal â rhoi hwb i'n cyflenwad o gartrefi cyngor i'w rhentu, rwy'n falch iawn bod gan brynwyr tro cyntaf, a fyddai fel arfer yn methu fforddio prynu eu cartref cyntaf, gyfle trwy ein cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd i fynd ar yr ysgol eiddo yn y tai newydd hyfryd hyn."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30473.html

 

Datgelu Cynllun Gwella Argae Parc y Rhath

Datgelwyd cynlluniau i wella Argae Parc y Rhath drwy ddisodli'r gorlifan presennol, sef y rhaeadr wrth ochr y caffi, gyda gorlifan newydd ehangach a dyfnach, ac ychwanegu wal llifogydd ar hyd y promenâd.

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r llyn ac mae'n ofynnol iddo wneud archwiliadau rheolaidd (o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975).  Canfu'r archwiliad diwethaf na fyddai'r gorlifan yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol, ac felly mae angen gwelliannau.

Datblygwyd y cynlluniau yn dilyn astudiaeth gan gwmni ymgynghori peirianyddol Arup i nodi'r opsiynau gorau ar gyfer sicrhau effeithiolrwydd yr Argae yn y dyfodol, ac mae'r cyhoedd nawr yn cael cais am eu hadborth.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd: "Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael stormydd amlach a mwy dwys yng Nghaerdydd, felly mae angen i'r argae allu ymdopi â'r posibilrwydd o dywydd mwy eithafol fel hyn.

"Mae Parc y Rhath yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd, ac mae rhaglen lawn o ymgysylltu â'r cyhoedd ar droed cyn cyflwyno cais cynllunio yn 2023, fel bod trigolion, busnesau a defnyddwyr y parc yn meddu ar y wybodaeth lawn.

"Bydd y gwaith gwella yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol fel y gellir parhau i fwynhau'r parc yn ddiogel wrth i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar dudalen we'r prosiect:
https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-y-rhath/prosiect-argae-parc-y-rhath/

Dyddiad cau'r adborth ar y cynlluniau yw Dydd Llun 9 Ionawr 2022.

 

Cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn barod i symud ymlaen

Gallai cynlluniau cyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd Moorland yn y Sblot, gael eu datblygu yn fuan yn dilyn argymhellion i Gabinet Cyngor Caerdydd i ryddhau cyllid er mwyn dechrau ar y cynllun yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Ym mis Gorffennaf 2022, cytunodd y Cabinet i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol â 20 lle yn Ysgol Gynradd Moorland ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth. Mae hyn yn rhan o raglen sylweddol ar draws y ddinas i ehangu'r ddarpariaeth gan fwy na 270 leoedd, gwella safon y cyfleusterau a helpu i ateb y galw am leoedd ysgol arbennig ar gyfer dysgwyr oedran cynradd ac uwchradd ledled Caerdydd.

Byddai ailddatblygu'r ysgol hefyd yn caniatáu am Uned Blynyddoedd Cynnar newydd, gan fod wir angen diweddaru'r un bresennol ynghyd â darpariaeth Dechrau'n Deg newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidogion ar gyfer cyfraniad Dechrau'n Deg uwch gan Lywodraeth Cymru.

Byddai'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn cynyddu o 32 i 44 o leoedd gydag 8 lle gofal plant i blant 3 a 4 oed a byddai'n galluogi plant i symud o'r safle presennol yn Ysgol Uwchradd Willows sydd i'w hadleoli a'i hailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis yn 2025.

Byddai gwaith arall fel rhan o ddatblygiad Ysgol Gynradd Moorland yn cynnwys:

  • Darparu crèche ac ystafell gymunedol i rieni a'r gymuned eu defnyddio
  • Dymchwel tŷ'r gofalwr

Os ceir cymeradwyaeth, byddwn yn osgoi oedi ar weithredu darpariaeth CAA a gallwn fwrw ymlaen gyda mynd i'r afael â chyflwr ystâd bresennol yr ysgol er mwyn sicrhau ei bod yn addas i fodloni gofynion dysgu'r 21ainganrif.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Byddai ailddatblygu Ysgol Gynradd Moorland yn cyflwyno cyfoeth o gyfleoedd cyffrous i'r ysgol ac yn helpu i fodloni anghenion ei chymuned.

"Gallai'r cynllun fod yn fuddsoddiad sylweddol yn ardal y Sblot, a byddai'n cyflwyno campws gwirioneddol gymunedol. Byddai uned blynyddoedd cynnar newydd yn mynd i'r afael â phroblemau addasrwydd y ddarpariaeth bresennol a byddai safle Dechrau'n Deg newydd yn darparu cyfleusterau buddiol i'r gymuned fel ystafell gymunedol ar gyfer cyrsiau rhiant a chyfleuster crèche, hefyd i'r ysgol a'r gymuned eu defnyddio y tu allan i oriau.

"Yn ogystal, fel un o sawl cynllun i helpu trawsnewid y ddarpariaeth o addysg anghenion dysgu arbennig ac ychwanegol yng Nghaerdydd, byddai Ysgol Gynradd Moorland yn rhoi hwb i amgylchedd dysgu modern o'r radd flaenaf, fydd nid yn unig yn helpu i fynd i'r afael â diffyg lleoedd ond hefyd yn helpu i ledaenu'r cyfleusterau ar draws y ddinas."

Darllenwch fwy yma:
https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/30456.html