Back
Peilot Insiwleiddio Arloesol Yn Cefnogi Gweledigaeth Caerdydd Un Blaned


 

13/12/22
Mae'r gwaith o osod system inswleiddio arloesol sy'n ceisio gwella effeithlonrwydd thermol adeiladau yn cyrraedd ei benllanw yn nwyrain y ddinas.

 

Nod y prosiect 'Plug-N-Harvest' yw dylunio, datblygu ac arddangos system gladin allanol ‘plug-n-play' fodiwlar newydd sy'n gallu insiwleiddio a chreu ynni adnewyddadwy mewn adeiladau preswyl a di-breswyl.

 

Ar ôl derbyn gwobr fel rhan o gonsortiwm Ewropeaidd dan Raglen Horizon 2020 yr UE, mae'r Cyngor yn treialu'r system gladin ‘plug-n-play'  ar ddau dŷ cyngor yn Llanrhymni.

 

Mae'r cynllun yn cefnogi strategaeth Caerdydd Un Blaned y Cyngor sy'n amlinellu cynlluniau uchelgeisiol, gan gynnwys gwella effeithlonrwydd ynni adeiladau, ifod yn garbon niwtral erbyn 2030mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

 

Roedd y prosiect hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddylunwyr ystyried cynaliadwyedd ac ailgylchadwyedd y deunyddiau a ddefnyddiwyd ac felly mae'r system cladin yn defnyddio inswleiddio gwlân mwynol mewn ffrâm alwminiwm, y gellir eu hailddefnyddio/ailgylchu'r ddau yn hawdd,gyda phaneli solar wedi'u cysylltu'n uniongyrchol i'r paneli wedi'u hinswleiddio. Mae hwn yn cael ei gysylltu â'r adeilad ac wedi'i osod ar dalcen dau o dai pâr y Cyngor sy'n wynebu'r de. Mae waliau allanol eraill yr adeilad wedi'u hinswleiddio yn y dull traddodiadol, gan ddangos sut y gellir integreiddio'r system gladin ‘Plug-n-Harvest' gydag ôl-ffitiad inswleiddio waliau allanol traddodiadol.

 

Bydd tenantiaid sy'n byw yn y cartrefi yn elwa o well insiwleiddio, tymheredd mwy cyfforddus dan do ac o bosib llai o gostau gwresogi, yn ogystal â rhywfaint  o ynni solar a gynhyrchir gan PV am ddim.

  

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Rydym yn darparu cartrefi cyngor newydd ar draws y ddinas, cartrefi ar gyfer y dyfodol sy'n gynaliadwy ac yn defnyddio ynni'n effeithlon.  Ond os ydym am gyflawni ein gweledigaeth Caerdydd Un Blaned, mae'n hanfodol sicrhau bod ein stoc dai bresennol yn dod yn fwy effeithlon o ran ynni trwy wneud gwelliannau a gwaith ôl-ffitio fel y system gladin newydd hon i helpu i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon. Mae hyn hefyd yn gwneud cartrefi'n fwy cyfforddus i'n tenantiaid ac yn helpu i leihau tlodi tanwydd."

 

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd: "Mae allyriadau o eiddo domestig yn cyfrif am 28 y cant o allyriadau'r ddinas gyfan,a dyna pam mae datgarboneiddio ein hystâd ni yn mynd i fod yn elfen allweddol o'n cynlluniau Caerdydd Un Blaned i fod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030.

 

"Rydyn ni eisoes wedi dechrau rhaglen ôl-osod helaeth - buddsoddwyd £1.3 miliwn yn gynharach eleni mewn mesurau effeithlonrwydd ynni yn un ar ddeg o'n hysgolion er enghraifft.  Rydym hefyd wedi cytuno y bydd pob un o adeiladau newydd y Cyngor wedi'i gynllunio i safonau sero net o 2024, a byddwn yn cyflwyno cynllun lleihau carbon newydd a fydd yn torri allyriadau hyd yn oed yn bellach na'r targed y cytunwyd arni o leihau allyriadau o'n hadeiladau gan 60%."

  

Cliciwch yma i weld fideo treigl-amser o'r system yn cael ei osod https://youtu.be/WAVV_fjDpho