Back
Datgelu Cynllun Gwella Argae Parc y Rhath

Datgelwyd cynlluniau i wella Argae Parc y Rhath drwy ddisodli'r gorlifan presennol, sef y rhaeadr wrth ochr y caffi, gyda gorlifan newydd ehangach a dyfnach, ac ychwanegu wal llifogydd ar hyd y promenâd.

Mae Cyngor Caerdydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r llyn ac mae'n ofynnol iddo wneud archwiliadau rheolaidd (o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975).  Canfu'r archwiliad diwethaf na fyddai'r gorlifan yn ddigon mawr i wrthsefyll llifogydd eithafol, ac felly mae angen gwelliannau.

Datblygwyd y cynlluniau yn dilyn astudiaeth gan gwmni ymgynghori peirianyddol Arup i nodi'r opsiynau gorau ar gyfer sicrhau effeithiolrwydd yr Argae yn y dyfodol, ac mae'r cyhoedd nawr yn cael cais am eu hadborth.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd:"Mae'r newid yn yr hinsawdd yn golygu ein bod yn debygol o gael stormydd amlach a mwy dwys yng Nghaerdydd, felly mae angen i'r argae allu ymdopi â'r posibilrwydd o dywydd mwy eithafol fel hyn.

"Mae Parc y Rhath yn un o barciau mwyaf poblogaidd Caerdydd, ac mae rhaglen lawn o ymgysylltu â'r cyhoedd ar droed cyn cyflwyno cais cynllunio yn 2023, fel bod trigolion, busnesau a defnyddwyr y parc yn meddu ar y wybodaeth lawn.

"Bydd y gwaith gwella yn sicrhau effeithiolrwydd yr argae yn y dyfodol fel y gellir parhau i fwynhau'r parc yn ddiogel wrth i effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ddod yn fwyfwy amlwg.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael ar dudalen we'r prosiect: https://www.outdoorcardiff.com/cy/parciau/parc-y-rhath/prosiect-argae-parc-y-rhath/

Dyddiad cau'r adborth ar y cynlluniau ywDydd Llun 9 Ionawr 2022.