Back
Dirwy o dros £10,000 i landlord am gyfres o fethiannau

08/12/22


Mae landlord wedi cael gorchymyn i dalu dros £10,000 yn Llys Ynadon Caerdydd am gyfres o fethiannau yn ymwneud â thŷ y mae hi'n berchen arno ac yn ei osod ar rent fel Tŷ Amlfeddiannaeth.

Ni ymddangosodd Rowshanara Begum o Stryd Clive, Grangetown, Caerdydd, yn y llys ar 1 Rhagfyr ac fe'i dedfrydwyd yn ei habsenoldeb.

Rhoddwyd dirwy o £2,000 ar gyfer pob un o'r pum trosedd, gan arwain at ddirwy o £10,000, yn ogystal â £2,000 mewn costau a thâl dioddefwr o £190.

Fe ddaeth yr achos i'r amlwg yn dilyn cwyn gan denant am gyflwr yr eiddo rhent yn Blaenclydach Street yn Grangetown.

Cynhaliwyd archwiliad a nodwyd cyfres o ddiffygion, gan gynnwys, amddiffyniad tân strwythurol annigonol i ddianc o'r eiddo, dim system larwm tân, mesuryddion trydan heb eu gorchuddio, drysau tân diffygiol, ffenestri wedi torri, gosodiadau trydanol anniogel, carpedi brwnt, cyfleusterau cegin anniogel a thystiolaeth o damprwydd yn treiddio i'r eiddo.

Cafodd hysbysiadau cyfreithiol eu cyflwyno i Mrs Begum i wneud y gwaith atgyweirio gofynnol i'w heiddo rhent. Gan nad oedd y gwaith atgyweirio hwn wedi'i gwblhau o fewn yr amser a roddwyd, cymerwyd camau cyfreithiol.

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau: "Mae Tai Amlfeddiannaeth yn chwarae rhan bwysig yn stoc dai'r ddinas. Fel landlord, mae'r elw ariannol o'r eiddo hyn yn aml yn uwch na rhentu cartref teuluol, ond mae rhentu Tai Amlfeddiannaeth yn dod â chyfrifoldebau ychwanegol ac mae angen buddsoddi yn yr eiddo i sicrhau ei fod yn ddiogel i'r tenantiaid sy'n byw yno.

"Yn yr achos hwn, mae'r eiddo Fictoraidd wedi cael ei drosi'n bedwar fflat hunangynhwysol. Nid yn unig yr oedd y fflatiau yn mynd yn groes i'r gofynion, roedden nhw'n anniogel ac yn beryglus. Bydd ein swyddogion yn dilyn yr achos, nawr bod y broses gyfreithiol wedi dod i ben, i sicrhau bod y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud a bod yr eiddo mewn cyflwr diogel i'r bobl sy'n byw yno."