Back
Cynnig dau atyniad newydd i ymwelwyr ym Mae Caerdydd

07/12/22


Mae cynigion ar gyfer dau atyniad newydd i ymwelwyr â'r nod o wella Bae Caerdydd ymhellach fel cyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, wedi'u datgelu heddiw.

Gallai'r cyntaf, gan y cwmni Nordic Urban o'r Ffindir, weld pwll nofio awyr agored, arnofiol a chyfleuster sawna, sy'n debyg i'w cyfleusterau yn Helsinki ac Efrog Newydd, yn dod i'r dociau sych ger Techniquest.

Yr ail, cynnig gan Skyview, yw adeiladu reid balŵn 90 metr o uchder gyda phlatfform gwylio sy'n troi ar dir nad yw'n cael ei ddefnyddio ger Canolfan Red Dragon. Byddai'r platfform yn cynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas a'r glannau o hyd at 20 milltir.

Yn ddiweddar cafodd gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Bae Caerdydd ei chyflwyno i fuddsoddwyr posib yn MIPIM 2021, lle dechreuodd trafodaethau gyda'r ddau gwmni i ddenu'r ddau atyniad hamdden hyn o safon uchel i ymwelwyr a thrigolion eu mwynhau.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu: "Mae'r weinyddiaeth hon wedi bod yn glir o'r dechrau am ein hymrwymiad i adfywio Bae Caerdydd. Ein bwriad yw trawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan gynyddu ymwelwyr ac, yr un mor bwysig, creu mwy o swyddi a chyfleoedd i bobl leol.

"Bydd y ddau ddatblygiad yn cael eu hariannu'n breifat ac unig gyfraniad y Cyngor yw sicrhau bod y tir ar gael."

Cynnig gan Nordic Urban -Mae'r dociau sych sy'n cael eu rhestru gan Cadw yn cynnwys tri strwythur a gafodd eu hadeiladu rhwng 1850 a 1900. Mae'r ardal o'i chwmpas sy'n cynnwys Cei'r Fôr-Forwyn, Techniquest a Gwesty St David's wedi elwa ar fuddsoddiad sylweddol dros y blynyddoedd, ond oherwydd y rhwystrau datblygu, ni ddatblygwyd y dociau sych. Mae Nordic Urban yn cynnig defnyddio dau o'r dociau ar gyfer eu buddsoddiad, gyda'r trydydd doc agosaf at Stryd Havannah yn parhau yn ei le ar gyfer angorfeydd preifat. Mae'r cynnig yn cynnwys:

  • Pyllau nofio awyr agored arnofiol (wedi'u cynhesu a heb eu cynhesu)
  • Adeilad newydd rhwng y ddau ddoc sych ar gyfer sawnas Ffinneg, mannau lles, cyfleusterau newid, yn ogystal â bwyty a bar 

Cynnig gan Skyview- Ar dir y tu ôl i Ganolfan Red Dragon, mae'r cwmni'n cynnig adeiladu reid balŵn gyda phlatfform gwylio 90 metr o uchder sy'n troi, i gynnig golygfeydd panoramig o'r ddinas a'r glannau gan ddarparu profiad gwahanol i'r atyniadau 'olwyn fawr' a welir mewn llawer o ddinasoedd.

Yn dilyn y cyhoeddiad gan y Cyngor ar Uwchgynllun Bae Caerdydd, nododd Skyview fod Caerdydd yn cynnig cyfle gwych ar gyfer eu reid gyntaf yn y DU.

Bydd yPwyllgor Craffu Economi a Diwylliantyn craffu ar adroddiad y cabinet mewn cyfarfod cyhoeddus am 5.00pm ar Ddydd Llun 12 Rhagfyr,yn Ystafell Gyfarfod 4, Neuadd y Sir. Bydd Aelodau Etholedig yn ystyried y cynigion i ddeall yr effaith ar adfywiad Bae Caerdydd a Chaerdydd yn ehangach, ac a oes unrhyw risgiau neu ymhlygiadau ariannol i'r Cyngor. Gellir gwylio'r cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw yma Cartref - Cardiff Council Webcasting (public-i.tv). Mae pob papur craffu cyhoeddedig ar gael i'w gweld ymaPwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant - Dydd Llun, 12 Rhagfyr 2022 at 5:00pm - Cardiff Council Webcasting (public-i.tv)

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn derbyn yr adroddiad ar y ddau atyniad arfaethedig newydd ar gyfer Bae Caerdydd yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir o 2pm Ddydd Iau 15 Rhagfyr. Bydd modd gweld agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod yn nes at ddyddiad y cyfarfod ymaAgenda'r Cabinet Ddydd Iau 15 Rhagfyr, 2022, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)lle bydd modd i chi hefyd wylio ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod.