Back
Neuadd Dewi Sant – Holi ac Ateb

Neuadd Dewi Sant – Holi ac Ateb

 

A yw’r Cyngor yn gwerthu NDS?

Nid yw'r Cyngor yn gwerthu NDS. Dan y cynigion hyn, byddem yn mynd i drefniant prydles eiddo hirdymor gyda’r Academy Music Group (AMG), lle byddai AMG yn cymryd cyfrifoldeb am gynnal ac uwchraddio'r adeilad a gweithredu'r Neuadd Gyngerdd Genedlaethol. Mae gan AMG hanes da o ofalu am adeiladau treftadaeth leol pwysig ar draws gwledydd Prydain.

 

Beth am y rhaglen cerddoriaeth Glasurol a’r defnydd o'r Neuadd gan grwpiau cymunedol?

Mae cynnig AMG yn cynnwys gweledigaeth glir ac ymrwymiad i gynnal, datblygu a gwella'r rhaglen glasurol yn Neuadd Dewi Sant.  Eu huchelgais yw gwella enw da Neuadd Dewi Sant ymhellach fel un o'r lleoliadau cerddoriaeth glasurol gorau yn y DU.  Maent wedi neilltuo 60 diwrnod yn ystod y cyfnod digwyddiadau prysuraf (Medi - Mai) i ddarparu’r rhaglen glasurol, sy’n cynnwys 58 diwrnod yn ystod y cyfnod prysuraf ar hyn o bryd, gyda dyddiadau ychwanegol yn y flwyddyn galendr ar gyfer digwyddiadau clasurol a chymunedol allweddol eraill. Byddai'r cynnig o 60 slot blaenoriaeth yn ystod y cyfnod prysuraf (Medi – Mai) yn galluogi'r brif raglen i gael ei chadarnhau mewn da bryd bob blwyddyn gan gynnwys y digwyddiadau a gyflwynir gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a cherddorfeydd ac unawdwyr sy’n ymweld drwy'r gyfres Cyngherddau Clasurol, Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Bydd 25 diwrnod ychwanegol yn cael eu neilltuo hefyd yn ystod y misoedd tawelach (Mehefin-Awst) ar gyfer digwyddiadau clasurol a chymunedol allweddol eraill, gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd y BBC, Proms Cymru, ac ensembles ieuenctid cenedlaethol a lleol. Ar hyn o bryd mae Canwr y Byd Caerdydd a'r Proms yn cael eu cynnal y tu allan i’r cyfnod prysuraf felly nid yw hyn yn newid eu rhaglennu. Mae hyn yn golygu y bydd o leiaf 85 diwrnod ar gael ar gyfer y rhaglen glasurol, digwyddiadau cymunedol sy’n gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol, a gwaith yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig.  Mae'r rhaglen hon yn defnyddio hyd at 87 diwrnod ar hyn o bryd. Mae AMG wedi ymrwymo i wneud hyn i gyd heb gymhorthdal gan y Cyngor, gan gynnwys ysgwyddo’r risg fasnachol ar y Gyfres Cyngherddau Rhyngwladol.   Byddant yn defnyddio eu gallu marchnata helaeth i hyrwyddo'r digwyddiadau i geisio denu cynulleidfaoedd mwy.

 

Onid yw 85 diwrnod yn sylweddol llai na'r hyn sy'n cael ei ddarparu nawr?

Ni fydd y rhaglen glasurol wedi'i chyfyngu i 85 diwrnod.  Diben yr ymrwymiad o 60 diwrnod yw neilltuo slotiau blaenoriaeth yng nghalendr digwyddiadau’r cyfnod prysuraf (Medi - Mai) ar gyfer digwyddiadau clasurol, er mwyn sicrhau bod y rhaglen glasurol yn cael digon o flaenoriaeth yn gyson.  Bydd 25 diwrnod ychwanegol yn ystod y cyfnod tawelach rhwng Mehefin ac Awst hefyd yn cael eu neilltuo i sicrhau amser ar gyfer digwyddiadau eraill gan gynnwys Canwr y Byd Caerdydd a Phroms Cymru. Ar hyn o bryd mae'r rhaglen glasurol, digwyddiadau cymunedol sy'n gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol a gwaith yr Ymddiriedolaeth Actifyddion Artistig, yn defnyddio hyd at 87 diwrnod.  Bydd y 30 digwyddiad cymunedol arall nad ydynt yn gysylltiedig â cherddoriaeth glasurol ac nad oes lle iddynt yn y slotiau hyn yn dal i allu defnyddio Neuadd Dewi Sant ond bydd ganddynt lai o sicrwydd ynghylch dyddiadau hyd at 3 mis ymlaen llaw. Hefyd, os oes angen i'r Neuadd agor yn benodol ar gyfer y digwyddiadau hyn, h.y. pan fyddai ar gau fel arall, codir cyfradd gymunedol i dalu am y gost o agor a gweithredu'r adeilad ar gyfer y digwyddiad. Mae'r rhan fwyaf o ddigwyddiadau eisoes yn codi tâl, ond mae'r Cyngor yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu cronfa fechan ar gyfer digwyddiadau cymunedol, a all wneud cais ar sail eithriadol, lle nad ydynt yn gallu talu’r costau i agor yr adeilad.

 

Mae'r cynigion yn sôn am ddisodli seddi ar y llawr isaf gyda system seddi enciliol. Pam gwneud hyn, a pha effaith gaiff hyn ar acwsteg enwog y Neuadd?

Mae AMG yn dymuno creu ardal sefyll ar gyfer perfformiadau roc/pop. Eu cynllun yw defnyddio seddi symudol ar baletau, yn hytrach na seddi enciliol, y gellir eu tynnu'n llwyr a'u hailosod yn hawdd yn ôl y gofyn. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i'r Neuadd.  Mae Sandy Brown, y peirianwyr acwstig a fu'n rhan o ddylunio'r adeilad, wedi eu cyflogi i gynghori ar y cynigion hyn ac wedi cadarnhau na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith amlwg ar ansawdd acwstig. 

Ym mis Gorffennaf 2021, ymwelodd ymgynghorwyr acwstig o Sandy Brown â'r neuadd i gynnal profion acwstig manwl dros ddau ddiwrnod i fesur priodweddau acwstig allweddol y neuadd. Meincnodwyd nodweddion acwstig naturiol y neuadd yn fanwl ar draws yr holl derasau eistedd.

Adeiladodd tîm Sandy Brown fodel cyfrifiadurol acwstig 3D manwl o'r neuadd gan ddefnyddio meddalwedd acwstig arbenigol a defnyddiwyd hyn i asesu cynigion AMG. Nododd y modelu fod disgwyl i newidiadau ym mhriodweddau acwstig naturiol y neuadd o ganlyniad i'r cynigion fod yn fach iawn ac yn gyffredinol is na'r trothwyon newid sydd angen er mwyn bod yn amlwg. Mae Sandy Brown wedi rhoi argymhellion i'w dilyn os caiff cynigion AMG eu gweithredu, ac mae canlyniadau eu profion meincnodi a'u model cyfrifiadurol ar gael i gynorthwyo gydag adolygu unrhyw gynigion dylunio os oes angen.

Mae adroddiad acwstig llawn Sandy Brown ar gael i'w weld fel rhan o Bapurau'r Cabinet, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65583/Cabinet%2015%20Dec%202022%20SDH%20Addendum.pdf?LLL=0

 

Pam na all y Cyngor barhau i gynnal y lleoliad ei hun?

Ar hyn o bryd mae'r Neuadd yn costio tua £1m y flwyddyn i'r Cyngor ei gweithredu ac mae hyn yn mynd yn fwyfwy anodd i'w gynnal yn yr oes newydd o lymder sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.  Mae Cyngor Caerdydd yn rhagweld bwlch cyllidol o £23.5m yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod yn unig a hyn yn dilyn gostyngiad o dros £250m yng nghyllideb y Cyngor dros y deng mlynedd diwethaf.

Byddai'r bwlch ariannol o £23.5m yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf yn tyfu'n sylweddol pe bai'r Cyngor yn ariannu'r gwaith o uwchraddio'r adeilad. Amcangyfrifir bod angen swm sylweddol i fynd i'r afael â'r materion sydd angen blaenoriaeth, a byddai angen dilyn hyn wedyn gyda rhaglen arall o waith adnewyddu a chynnal a chadw er mwyn moderneiddio'r adeilad i'r safonau a ddisgwylir bellach gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr.

Ar y llaw arall, nid oes angen unrhyw gymhorthdal parhaus ar gynnig AMG, ac maent wedi ymrwymo i gymryd cyfrifoldeb llawn am atgyweirio a chynnal a chadw a moderneiddio'r adeilad.  Bydd eu cynnig hefyd yn dod â rhaglen amrywiol o gerddoriaeth fyw ac adloniant i Gaerdydd gan ehangu seilwaith cerddoriaeth ein dinas ymhellach gyda nifer sylweddol o ddigwyddiadau roc/pop bob blwyddyn gan artistiaid sefydledig a sêr y dyfodol.

 

Felly ydy'r Cyngor wedi methu cynnal yr adeilad yn iawn dros y blynyddoedd?

Mae'r Cyngor wedi buddsoddi'n rheolaidd mewn gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio yn NDS. Ond o ystyried nad yw'r lleoliad yn cynhyrchu gwarged ariannol ac yn lle hynny wedi gofyn am gymhorthdal gan y Cyngor o flwyddyn i flwyddyn, nid yw'r arian angenrheidiol wedi bod gan y Cyngor i’w fuddsoddi ar y lefel angenrheidiol i gadw ar ben y materion cynnal a chadw yn llwyr gan fod yr adeilad wedi heneiddio.    

 

Beth fydd yn digwydd i’r staff?

Dan y cynnig, bydd holl staff y Cyngor yn NDS yn symud draw drwy TUPE i AMG ar yr un telerau ac amodau sydd ganddyn nhw gyda'r Cyngor.

 

Beth fyddwch chi'n ei wneud ynghylch yr Elusen Actifyddion Artistig sy'n rhan o NDS?

Bydd y staff sy'n ymwneud ag Actifyddion Artistig yn parhau i gael eu cyflogi gan y Cyngor. Mae AMG wedi ymrwymo i barhau i weithio gydag Actifyddion Artistig a fydd yn parhau i gael arian o ffynonellau allanol i ddarparu eu cefnogaeth cofleidiol i’r rhaglen glasurol a digwyddiadau cymunedol.

 

Rydw i wedi darllen bod y broses hon yn cael ei brysio – a yw hynny’n wir?

Mae'r Cyngor wedi bod yn archwilio dewisiadau amgen ar gyfer rhedeg Neuadd Dewi Sant ers 2014 ac yn 2016 ymgymerodd â phroses caffael cyhoeddus gystadleuol iawn. Aflwyddiannus fu'r broses hon, heb unrhyw sefydliadau yn dod ymlaen i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal yr adeilad, a'r costau cysylltiedig.

Gan fod y neuadd angen cymhorthdal blynyddol gan y Cyngor, sy'n aml yn cyrraedd £1 miliwn y flwyddyn, mae ei dyfodol yn cael ei ailystyried bob blwyddyn fel rhan o'r broses o osod cyllideb.

Nawr bod y Cabinet wedi cymeradwyo cynnig AMG mewn egwyddor, mae nifer o gamau pellach fydd yn cael eu cymryd cyn cytuno ar unrhyw brydles.

Yn gyntaf, bydd y Cyngor yn dechrau trafod contract drafft sy’n nodi'r holl fanylion manylach sy'n ymwneud â chynnig AMG. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgynghori flynyddol ar y gyllideb. Yna, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Rhag-hysbysiad Tryloywder Gwirfoddol (VEAT).

Cyhoeddir Hysbysiad VEAT i roi hysbysiad o fwriad. Pan gaiff yr hysbysiad VEAT ei gyhoeddi, bydd yn cynnwys manylion llawn y contract drafft a drafodwyd gydag AMG a bydd y cyhoedd yn gallu ei weld.

Ar ôl cwblhau'r camau hyn, bydd y penderfyniad terfynol ar gymeradwyo'r cynnig yn dychwelyd i'r Cabinet. Mae disgwyl i hynny ddigwydd ym mis Mawrth 2023.

 

Am ba hyd y bydd y rhaglenni clasurol a chymunedol yn cael eu diogelu os cytunir ar fargen gydag AMG?

Bydd yr ymrwymiadau i ddiogelu'r rhaglenni hyn yn amodau ar y brydles a byddant yn para gydol cyfnod y brydles.

 

A gysylltwyd â Llywodraeth Cymru am gymorth ariannol posib Cyngor Celfyddydau Cymru? Os na, pam ddim? Fe wnaethon nhw helpu Theatr Clwyd. 

Mae trafodaethau wedi bod yn digwydd gyda CCC ynglŷn â chyfraniad cyfalaf ers blynyddoedd lawer.  Mae'n bwysig cydnabod bod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi gorfod rheoli lleihad sylweddol i’w cyllideb eu hunain yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd cyllid cyfalaf CCC yn bot o £20m, ar gyfer Cymru gyfan, a oedd ar gael rhwng 2012-2017. Ers hynny, dim ond ar gyfer addasiadau llai y gwelwyd ceisiadau, a fyddai’n helpu tuag at hygyrchedd ac effaith amgylcheddol, a byddai angen arian cyfatebol. Byddai unrhyw gyllid posibl a drafodwyd cyn 2017 wedi bod ar sail arian cyfatebol ac ni fyddai wedi bod yn ddigon i alluogi'r gwaith atgyweirio ac uwchraddio sylweddol sydd ei angen ar y Neuadd.

Yn ogystal, heblaw am gronfa CCC flynyddol fechan y Loteri Genedlaethol i'r gyfres cyngherddau rhyngwladol a chefnogaeth yn ystod Covid-19, nid oes unrhyw gymorth refeniw wedi'i roi gan CCC ers 2014, ac mae'r Cyngor yn talu i gadw Neuadd Dewi Sant ar agor ar hyn o bryd.

 

A geisiwyd am nawdd corfforaethol?  Os na, pam ddim?

Mae'r Cyngor wedi archwilio posibiliadau nawdd corfforaethol ar gyfer gwahanol adeiladau yn y gorffennol gan gynnwys Neuadd Dewi Sant. Nid yw'r farchnad ar gyfer hawliau noddi/enwi yng Nghaerdydd yn gryf – gall hyn gael ei ddangos gan y bargeinion a gyflawnwyd gan leoliadau eraill yn y ddinas sy'n cynnig llawer mwy o amlygiad masnachol. Mae'r potensial ar gyfer hawliau noddi/enwi yn cynyddu os yw'r lleoliad yn rhan o rwydwaith ehangach yn y DU, fel yr un sy'n cael ei gynnig gan AMG.

 

A geisiwyd am gyllid amgen – os na, pam ddim?

Wedi ei lywio gan drafodaethau'r Cyngor gyda CCC a Llywodraeth Cymru a ddangosodd nad oedd unrhyw arian cyhoeddus ar gael i gefnogi'r adeilad, cynhaliodd y Cyngor broses gaffael ddeialog gystadleuol helaeth yn 2016. Aflwyddiannus fu pen draw'r broses hon, heb unrhyw sefydliadau yn dod ymlaen i ysgwyddo'r cyfrifoldeb am gynnal yr adeilad, a'r costau cysylltiedig.

Ers y trafodaethau a amlinellir yn y ddau gwestiwn blaenorol, ac ymarferiad caffael 2016, bydd cyflwr y Neuadd wedi dirywio ymhellach, wedi'i gyflymu gan gyfnod o gau yn ystod Covid, ac mae'r rhagolygon economaidd wedi gwaethygu'n sylweddol, gan wneud y cynnig ar gyfer cyllido amgen hyd yn oed yn waeth.

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 15 Rhagfyr i gymeradwyo’r cynnig mewn egwyddor, cam nesaf y broses fydd cyhoeddi hysbysiad VEAT - sef hysbysiad cyhoeddus o fwriad. Bydd hyn yn cynnwys manylion llawn y contract drafft a drafodwyd gydag AMG. Bydd ymgynghori â’r cyhoedd fel rhan o'r Ymgynghoriad ar y Gyllideb drwy fis Rhagfyr a mis Ionawr ac yna bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad terfynol, ar ôl ystyriaeth ddyladwy, y flwyddyn nesaf. Mae disgwyl i hynny ddigwydd ym mis Mawrth 2023.

 

Bydd trwsio'r to ond yn costio £2.1m yn ôl dogfennau cyfrinachol sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Does bosib y gallwch chi fforddio hynny?

Rhan fechan o'r arolwg cyflwr sy’n cael ei dyfynnu ac mae’n rhoi darlun camarweiniol o hyd a lled y gwaith sydd ei angen. Mae gwaith hanfodol arall, megis amnewid neu uwchraddio gosodiadau mecanyddol a thrydanol yn golygu bod y costau cynnal a chadw tebygol sydd eu hangen, yn y tymor byr yn unig, gryn dipyn yn uwch.

 

Ydy'r fargen eisoes wedi'i tharo gydag AMG?

Nac ydy. Mae AMG wedi gwneud cynnig a nawr bod y Cabinet wedi’i gymeradwyo mewn egwyddor, mae nifer o gamau pellach fydd yn cael eu cymryd cyn cytuno ar unrhyw brydles.

Yn gyntaf, bydd y Cyngor yn dechrau trafod contract drafft sy’n nodi'r holl fanylion manylach sy'n ymwneud â chynnig AMG. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o'r broses ymgynghori flynyddol ar y gyllideb. Yna, bydd y Cyngor yn cyhoeddi Rhag-hysbysiad Tryloywder Gwirfoddol (VEAT) (fel yr esboniwyd uchod).


Mae deiseb ar-lein yn honni bod y Cyngor yn dweud bod yr ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer Neuadd Dewi Sant yn £55 miliwn (sef y pris ar gyfer ailwampio ac ail-ffitio’r adeilad yn llwyr gan gynnwys bwyty) - ond mae'r deisebydd yn meddu ar adroddiad Cyflwr a Chostau sy'n nodi mai dim ond £2.1 miliwn sydd ei angen i gynnal a chadw to'r neuadd. A oes cyfarfod wedi ei gynnal rhwng y Cyngor a rheolwyr Neuadd Dewi Sant i drafod beth yw'r gwir ffigwr?

Mae rheolwyr Neuadd Dewi Sant yn gwbl ymwybodol o ganfyddiadau'r arolwg cyflwr.

Mae rhan fechan o'r arolwg cyflwr yn cael ei dyfynnu'n ddethol ac yn rhoi darlun camarweiniol o raddfa'r gwaith sydd ei angen. Mae gwaith hanfodol arall, megis amnewid neu uwchraddio gosodiadau mecanyddol a thrydanol yn golygu bod y costau cynnal a chadw tebygol sydd eu hangen, yn y tymor byr yn unig, gryn dipyn yn uwch.


Mae bron i 20,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gofyn i Gyngor Caerdydd ailasesu ei safbwynt o ran Neuadd Dewi Sant a'r cynnig hwn, a fydd y ddeiseb hon yn cael ei thrafod a'i hystyried?

Mae'n bwysig cydnabod bod y ddeiseb wedi casglu enwau yn seiliedig ar yr hyn mae'r Cyngor yn credu sy'n ddatganiadau camarweiniol.  Rydym wedi gweld pobl yn deisebu ar y sail bod y Cyngor yn gwerthu’r Neuadd, na fydd cerddoriaeth glasurol bellach yn y neuadd, y bydd yr acwsteg yn cael ei difetha. Dim ond ychydig yn unig o'r datganiadau yw'r rhain - yr ydym yn eu hystyried fel rhai anghywir - sydd wedi'u postio ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl yn annog eraill i arwyddo'r ddeiseb.

Mae manylion y cynnig yn cael eu rhyddhau a fydd, gobeithio, yn lleddfu'r rhan fwyaf o'r pryderon a'r ofnau sydd wedi eu gwaethygu gan y math yma o ddatganiadau, ond bydd y Cyngor yn sicr yn edrych ar y ddeiseb pan ddaw i law ac yn ei hystyried ynghyd â'r holl dystiolaeth arall.

 

Mae adroddiadau wedi eu gwneud bod staff AMG wedi cynnal archwiliadau o'r neuadd cyn i'r fargen gael ei derbyn. A allen ni ofyn beth rydych chi'n ei wybod am hyn os gwelwch yn dda?

Mae staff ac ymgynghorwyr AMG wedi cael mynediad i'r Neuadd i'w galluogi i ddatblygu eu cynnig ar gyfer yr adeilad.  Mae'r archwiliadau adeilad sydd wedi eu cynnal wedi eu comisiynu gan y Cyngor.



Mae'r deisebydd yn honni nad oes gan AMG unrhyw ddiddordeb mewn allbwn diwylliannol a chlasurol yn y Neuadd, yn ogystal â thrafod materion sy'n ymwneud â chysylltiadau cymunedol gyda CBCDC, ysgolion lleol a cholegau – a oes unrhyw beth o hyn wedi ei amlygu yn eu cais i sicrhau’r neuadd?

Mae manylion y cynnig wedi'u rhyddhau sy'n dangos nad yw hyn yn wir.

 

A yw cynnig AMG yn dweud yn blwmp ac yn blaen eu bod yn dymuno cael gwared ar y seddi allan o'r Neuadd a chwblhau ail-ffitiad strwythurol newydd sbon?

Mae AMG yn dymuno creu ardal i sefyll ar gyfer perfformiadau roc/pop. Eu cynllun yw defnyddio seddi symudol ar baletau, yn hytrach na seddi enciliol, y gellir eu tynnu'n llwyr a'u hailosod yn hawdd yn ôl y gofyn. Bydd hyn yn rhoi llawer mwy o hyblygrwydd i'r Neuadd.  Mae Sandy Brown, y peirianwyr acwstig a fu'n rhan o ddylunio'r adeilad, wedi eu cyflogi i gynghori ar y cynigion hyn ac wedi cadarnhau na fydd y newidiadau arfaethedig yn cael unrhyw effaith amlwg ar ansawdd acwstig. 

Ym mis Gorffennaf 2021, ymwelodd ymgynghorwyr acwstig o Sandy Brown â'r neuadd i gynnal profion acwstig manwl dros ddau ddiwrnod i fesur priodweddau acwstig allweddol y neuadd. Meincnodwyd nodweddion acwstig naturiol y neuadd yn fanwl ar draws yr holl derasau eistedd.

Adeiladodd tîm Sandy Brown fodel cyfrifiadurol acwstig 3D manwl o'r neuadd gan ddefnyddio meddalwedd acwstig arbenigol a defnyddiwyd hyn i asesu cynigion AMG. Nododd y modelu fod disgwyl i newidiadau ym mhriodweddau acwstig naturiol y neuadd o ganlyniad i'r cynigion fod yn fach iawn ac yn gyffredinol is na'r trothwyon newid sydd angen er mwyn bod yn amlwg. Mae Sandy Brown wedi rhoi argymhellion i'w dilyn os caiff cynigion AMG eu gweithredu, ac mae canlyniadau eu profion meincnodi a'u model cyfrifiadurol ar gael i gynorthwyo gydag adolygu unrhyw gynigion dylunio os oes angen.

Mae adroddiad acwstig llawn Sandy Brown ar gael i'w weld fel rhan o Bapurau'r Cabinet, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/documents/s65583/Cabinet%2015%20Dec%202022%20SDH%20Addendum.pdf?LLL=0