Back
Gallai cynnig i ddiogelu Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru - a'i chyfres gerddoriaeth glasurol - arbed miliynau i'r tre

06/12/22

Gallai cynllun i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru weld gwaith atgyweirio ac adnewyddu y mae mawr ei angen gwerth miliynau yn cael ei wneud ar yr adeilad, a rhaglen ddigwyddiadau wedi'i hadfywio wedi'i chynllunio i ddiogelu'r repertoire cerddoriaeth glasurol, gan ddod â rhai o'r artistiaid roc a phop enwocaf i berfformio yng Nghaerdydd ar yr un pryd.

Mae adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd yn datgelu bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar y Neuadd, a byddai angen symiau sylweddol o arian hefyd i uwchraddio'r lleoliad yn llawn.

Ond gyda Chyngor Caerdydd eisoes yn wynebu twll o £53 miliwn yn y gyllideb ar gyfer 2023/24, byddai'r awdurdod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i'r cyfalaf ar gyfer gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio parhaus. O ganlyniad, ers sawl blwyddyn bellach, mae wedi bod yn ymchwilio i ffyrdd y gellid sicrhau dyfodol y lleoliad ar ddim cost neu ychydig iawn o gost i'r trethdalwr.

Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried adroddiad ddydd Iau, 15 Rhagfyr, sy'n argymell mewn egwyddor dderbyn cynnig gan yr Academy Music Group Limited (AMG) i gymryd yr awenau yn yr adeilad trwy brydles hirdymor.

Byddai cymeradwyaeth derfynol i unrhyw brydles yn destun adroddiad Cabinet pellach yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus fel rhan o broses gosod cyllideb y Cyngor, a chyhoeddi Rhag-hysbysiad Gwirfoddol (hysbysiad VEAT).

Byddai cynnig AMG yn golygu y byddai'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb llawn am yr adeilad, gan ddileu atebolrwydd y cyngor am waith cynnal a chadw a chymorthdaliadau, tra hefyd yn:

  • Buddsoddi mewn cyfres o waith cynnal a chadw ac adfer hanfodol a pharhaus
  • Buddsoddi i foderneiddio'r ardaloedd cyffredin (bariau/cynteddau ac ati)
  • Buddsoddi yn y prif awditoriwm - gan gynnwys gorchuddion seddi a lloriau newydd
  • Buddsoddi yn y seddi llawr isaf - gosod seddi symudadwy i alluogi sefyll ar gyfer digwyddiadau'r Academi (mae'r cynnig hwn wedi'i brofi a'i gymeradwyo gan beirianwyr acwstig gwreiddiol y Neuadd, Sandy Brown, i gadarnhau na fydd yn cael unrhyw effaith amlwg ar acwsteg y lleoliad sydd o'r radd flaenaf)
  • Buddsoddi yn ardal y llwyfan
  • Ymrwymo i gyflogi holl staff presennol y Cyngor yn y Neuadd ar delerau ac amodau presennol trwy gytundeb TUPE.

Nod cynnig AMG hefyd yw adeiladu enw da Neuadd Dewi Sant fel y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol ac un o'r lleoliadau cerddoriaeth glasurol mwyaf blaenllaw yng ngwledydd Prydain. Fel rhan o hyn mae AMG wedi ymrwymo i:

  • Gyflawni pob agwedd o'r rhaglen glasurol heb gymhorthdal gan y Cyngor gyda'r nod o ddatblygu a gwella'r calendr digwyddiadau.
  • Parhau i gyflwyno'r gyfres cyngherddau rhyngwladol tra'n dileu'r risg i'r Cyngor o sicrhau cerddorfeydd, a fydd nawr yn cael eu darparu gan AMG. 
  • Sicrhau bod y rhaglen cerddoriaeth glasurol yn cael blaenoriaeth ddigonol drwy neilltuo 60 diwrnod yn ystod y cyfnod prysuraf (Medi - Mai). Byddai unrhyw ddigwyddiadau cymunedol clasurol neu ehangach na ellir eu cynnwys o fewn y slotiau blaenoriaeth 60 diwrnod (Medi - Mai) yn cael eu trefnu o amgylch y rhaglen digwyddiadau masnachol drwy gydol y flwyddyn galendr. Mae'r rhaglen glasurol bresennol yn defnyddio hyd at 73 diwrnod.
  • Parhau i ddefnyddio ymgynghorydd rhaglen gerddoriaeth glasurol annibynnol
  • Cynnal a chadw offerynnau cerdd allweddol y lleoliad gan gynnwys yr organ gyngerdd a 5 piano Steinway
  • Hyrwyddo'r arlwy cerddoriaeth glasurol drwy eu sianeli marchnata helaeth
  • Cyflwyno cynnyrch cerddoriaeth AMG i Gaerdydd gan ddod â nifer sylweddol o ddigwyddiadau cerddoriaeth roc a phop o safon uchel gan yr artistiaid addawol gorau i berfformio yn y Neuadd bob blwyddyn
  • Parhau i weithio gydag Actifyddion Artistig i gefnogi'r rhaglen glasurol a digwyddiadau cymunedol
  • Gwneud y Neuadd ar gael ar gyfer digwyddiadau cymunedol yn rhad ac am ddim ar y dyddiau pan fo'r Neuadd fel arfer ar agor ac am gyfradd gymunedol fechan ar y dyddiau y byddai fel arfer ar gau (i dalu am gostau gorbenion gweithredol sylfaenol).

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Does dim dwywaith bod angen sicrhau buddsoddiad i Neuadd Dewi Sant. O ystyried y pwysau presennol ar gyllidebau - mae bwlch o £53m yn y gyllideb y flwyddyn nesaf - mae'r cyngor yn awyddus i archwilio modelau amgen a all adfywio ac uwchraddio'r adeilad, gan ddiogelu statws y lleoliad fel Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru ar yr un pryd.

"Mae'r Cyngor yn ymwybodol o bwysigrwydd Neuadd Dewi Sant i bobl sy'n hoff o gerddoriaeth glasurol ac mae'r cynnig yn gwarchod y brif raglen glasurol, digwyddiadau cymunedol, ac yn cynnwys cyfleoedd i ehangu'r rhain.  Fe fyddai'r Neuaddyn parhau i gyflwyno cyfres cyngherddau rhyngwladol o'r radd flaenaf a rhaglen gerddoriaeth glasurol sy'n cynnig cerddoriaeth glasurol i drigolion ac ymwelwyr, gan gerddorfeydd symffonig llawn uchel eu parch yn awditoriwm arbennig y Neuadd.

"Mae hefyd yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol er mwyn atgyweirio ac uwchraddio'r adeilad tra'n sicrhau y bydd enw da'r neuadd am acwsteg o'r radd flaenaf yn parhau. Mae'r peirianwyr acwstig gwreiddiol, Sandy Brown wedi gweld y cynlluniau ar gyfer y trefniadau eistedd ac maent yn fodlon na fyddant yn cael effaith andwyol ar yr acwsteg ac y bydd Dewi Sant yn cadw ei enw da fel un o'r neuaddau cyngerdd â'r sain gorau yn y byd.

"Mae'r cynnig hefyd yn amddiffyn yr holl weithwyr presennol ar eu telerau ac amodau presennol trwy gytundeb TUPE, ond bydd y cyngor yn amsugno'r tîm Actifyddion Artistig i'r adran addysg fel y gallant barhau â'r gwaith gwych maen nhw'n ei wneud gan ddod â cherddoriaeth glasurol i gynulleidfaoedd newydd bob blwyddyn.

"Mae'r cyngor hwn wedi wynebu deng mlynedd o lymder lle gwelwyd ei gyllideb yn gostwng dros chwarter biliwn o bunnoedd.  Rydym wedi gorfod canolbwyntio ein gwariant ar wasanaethau statudol allweddol gan sicrhau bod addysg a gofal cymdeithasol, sy'n llyncu tua 72% o gyllideb y cyngor yn parhau i sicrhau canlyniadau da i'n preswylwyr.

"Rydym wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ddod o hyd i bartneriaethau addas ar gyfer Neuadd Dewi Sant a'r Theatr Newydd ers 2014 i leihau'r baich ar drethdalwyr y cyngor sy'n sybsideiddio'r ddau leoliad.  Yn 2016 cynhaliodd y cyngor broses gaffael agored lawn, ond ni nododd hyn bartner addas a allai ymrwymo i redeg Neuadd Dewi Sant heb gymhorthdal ac a allai fuddsoddi yn yr adeilad.  Ers hynny tarwyd bargen i sicrhau dyfodol y Theatr Newydd, ond hyd at nawr dydyn ni heb gael unrhyw gynnig a allai weithio ar gyfer Neuadd Dewi Sant. Y mae'r cynnig hwn yn ymrwymo i gynnal ac uwchraddio'r lleoliad, sicrhau y bydd y rhaglen glasurol a chymunedol yn aros, tra'n cyflwyno arlwy cerddoriaeth newydd fywiog i'r ddinas. Gallai fod yn un o'r ychydig gyfleoedd sydd gennym i ddiogelu dyfodol Neuadd Dewi Sant am flynyddoedd i ddod."

Roedd adroddiad a ddaeth i'r Cabinet ym mis Rhagfyr 2021 yn nodi amserlen fanwl o waith blaenoriaeth.  Mae cost y gwaith hwnnw, gwelliannau eraill a moderneiddio yn rhedeg i'r miliynau o bunnoedd.

Gofynnodd y Cabinet wedyn i swyddogion y cyngor lunio achos busnes amlinellol ar ddyfodol Neuadd Dewi Sant ac, yn y cyfamser, i weithredu strategaeth iechyd a diogelwch a rheoli adeilad er mwyn sicrhau bod y lleoliad yn parhau ar agor ac yn lleoliad y gellid ei ddefnyddio. Mae'r adroddiad diweddaraf i'r Cabinet yn nodi mai ‘dim ond yn y byrdymor y gellir parhau yn rhesymol â'r ymagwedd hwn fel ateb dros dro i gynllun adfer mwy parhaol.'

Roedd yr achos busnes amlinellol y gofynnwyd amdano gan y Cabinet yn canolbwyntio ar dri opsiwn a gafodd eu hadolygu gan ymgynghorwyr arbenigol.

 

Opsiwn 1

Bod y Cyngor yn cadw Neuadd Dewi Sant - mae hyn yn rhagdybio bod y Cyngor yn buddsoddi cronfeydd cyfalaf i atgyweirio ac adnewyddu eiddo yn unol â chyngor proffesiynol a pharhad y cymhorthdal blynyddol o £688k.

Opsiwn 2

Cynnig AMG - does dim angen buddsoddiad cyfalaf a dim cymhorthdal blynyddol gan y cyngor.  Mae hwn yn darparu ar gyfer parhad di-gymhorthdal y rhaglen glasurol lawn gydag uchelgais i ddatblygu'r arlwy ymhellach. Bydd AMG yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith o gynnal a chadw'r adeilad, moderneiddio'r lleoliad, wrth warchod y calendr cerddoriaeth glasurol, a dod â rhai o'r artistiaid roc a phop mwyaf poblogaidd i berfformio yng Nghaerdydd.

Opsiwn 3

Mynd i'r farchnad. Cynhaliodd ymgynghorwyr ymarfer ymgysylltu â'r farchnad.  Roedd lefel dda o ddiddordeb yn y farchnad i redeg yr adeilad, ond dim ond os oedd y cyngor yn cadw cyfrifoldeb am rwymedigaethau'r adeilad, atgyweirio a chynnal a chadw.

Yr argymhelliad i'r Cabinet, yn dilyn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; Cyngor Celfyddydau Cymru; Opera Cenedlaethol Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw i dderbyn cynnig AMG mewn egwyddor.  Wedi'i symud i Opsiwn 2

Bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn edrych ar yr adroddiad cabinet mewn cyfarfod cyhoeddus am 5.00pm Ddydd Llun 12 Rhagfyr yn Ystafell Bwyllgor 4, Neuadd y Sir.  Bydd Aelodau Etholedig yn profi cynigion i ddeall eu rhesymeg a'u sail dystiolaeth, gofynion a chanlyniadau disgwyliedig y Cyngor, a'r camau nesaf. Gellir gweld y cyfarfod hefyd ar ffrwd fyw yma  Hafan - Gwe-ddarllediad Cyngor Caerdydd (public-i.tv)   Mae'r holl bapurau craffu a gyhoeddir ar gael i'w gweld yma Agenda ar gyfer Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant Ddydd Llun, 12 Rhagfyr, 2022, 5.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)

Mae cyfarfod eithriadol o Gyngor Caerdydd wedi'i drefnu am 4.30pm Ddydd Gwener, 9 Rhagfyr, i drafod cynnig ar Neuadd Dewi Sant. Gallwch weld yr agenda yma Agenda ar gyfer y Cyngor Ddydd Gwener, 9 Rhagfyr, 2022, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) a'r cynnig ac unrhyw ddiwygiadau i'r cynnig hwnnw (y gellir eu cyhoeddi'n agosach at ddyddiad y cyfarfod. Byddwch hefyd yn gallu gweld ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod trwy'r un ddolen.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod yr adroddiad ar Neuadd Dewi Sant yn ei gyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Sir o 2pm Ddydd Iau, 15 Rhagfyr. Bydd agenda, adroddiadau a phapurau'r cyfarfod ar gael i'w gweld yn agosach at y dyddiad yma Agenda ar gyfer y Cabinet Ddydd Iau, 15 Rhagfyr, 2022, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk) lle gallwch hefyd weld ffrwd fyw o'r cyfarfod ar y diwrnod.