Back
Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig newydd i deuluoedd ar Love Exploring

Mae Llwybr Calan Gaeaf realiti estynedig iasol o amgylch rhai o barciau a mannau gwyrdd mwyaf poblogaidd Caerdydd wedi'i lansio ar yr ap Love Exploring newydd.

Mae'r ap am ddim, sydd ar gael i'w lawrlwytho o'r Apple App Store a Google Play, yn cynnwys amrywiaeth o lwybrau llawn gwybodaeth, a gemau realiti estynedig hwyl o amgylch Parc y Rhath, Lawntiau Neuadd y Ddinas, Parc Bute, Fferm y Fforest, Parc Cefn Onn, a Bae Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae'r ap Love Exploring yn ffordd wych i bobl ddod i nabod parciau a mannau gwyrdd Caerdydd yn well a chael llawer o hwyl ar yr un pryd. Rydyn ni'n lwcus bod gennym ni fannau gwyrdd gwych yng Nghaerdydd ac mae'r ap wedi'i gynllunio i helpu i annog mwy fyth o bobl i fwynhau'r awyr agored."

Bydd y Llwybr Calan Gaeaf, sy'n cynnwys pwmpenni, gwrachod, sgerbydau realiti estynedig a mwy, yn cymryd tua 30 munud i'w gwblhau.

Mae'r ap hefyd yn cynnwys Saffari Deinosoriaid realiti estynedig. Gall anturiaethwyr bach ddefnyddio'r map i ddod o hyd i'r deinosoriaid yn y parc ac yna profi eu gwybodaeth ddeinosoraidd yn y cwis.

Bydd mwy o gemau realiti estynedig yn cael eu hychwanegu i'r ap yn y misoedd nesaf, gan gynnwys llwybr Tylwyth Teg y Goedwig, a llwybr Bwystfilod Bach Bendigedig.

Gall defnyddwyr yr ap hefyd archwilio coed campus gardd goed Parc Bute, dilyn llwybr meddwlgarwch o amgylch Bae Caerdydd, darganfod bywyd gwyllt yn Fferm y Fforest, a mynd ar daith gerdded hanesyddol o amgylch llyn Parc y Rhath.

Y llwybr hanesyddol diweddaraf sydd ar gael ar yr ap yw 'Llwybr Gardd Mr Prosser', taith gerdded 70-munud o amgylch Parc Cefn Onn, sy'n defnyddio ffotograffau teuluol o 1914-1939 a roddwyd gan y teulu Prosser i gynnig cipolwg unigryw ar hanes y parc.

Caffaelodd y teulu Prosser y tir sydd bellach yn barc ym 1910 gyda chynllun i godi cartref teuluol yno. Ni chafodd y tŷ ei adeiladu erioed, ond parhaodd y teulu i ddatblygu'r ardd, gan adeiladu'r pwll a'r tŷ haf sy'n dal i sefyll wrth galon y parc heddiw.

I lawrlwytho'r ap, chwiliwch am Love Exploring ar yr Apple App Store neu Google Play.