Back
Cyhoeddi sefydliadau cyntaf i gwblhau Siarter Teithio Iach Caerdydd

Cyhoeddwyd y saith sefydliad cyntaf i gwblhau'r camau yn Siarter Teithio Iach Caerdydd mewn digwyddiad yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Mercher 6 Hydref.

Cafodd y sefydliadau eu llongyfarch ar sefydlu'r 14 ymrwymiad yn llwyddiannus sy'n cefnogi eu staff a'u hymwelwyr i gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, er gwaethaf yr holl heriau a wynebwyd dros y 3 blynedd ddiwethaf. 

Cafodd Siarter Teithio Iach Caerdydd ei lansio yn 2019.  Trwy gefnogi staff i deithio'n fwy cynaliadwy, mae sefydliadau sy'n cofrestru yn helpu i wella iechyd a lles staff, i leihau llygredd aer, ac i leihau allyriadau carbon. 

Mae teithio'n gynaliadwy yn aml yn rhatach na defnyddio car hefyd, felly gall fod yn help ychwanegol yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.

Mae'r Siarter yn eistedd ochr yn ochr â chyfres o ymyriadau eraill sy'n cael eu rhoi ar waith yng Nghaerdydd i wneud teithio'n iach yn opsiwn hawdd, megis gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys Metro De Cymru, buddsoddi mewn llwybrau beicio sydd wedi'u gwahanu o ansawdd uchel, ac ehangu parthau 20mya.

Dywedodd Dr Tom Porter, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus yng Nghaerdydd a'r Fro, ac arweinydd Teithio Iach Cymru "Gyda thystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg bob dydd o ddifrifoldeb y newid yn yr hinsawdd, a'r brys y mae angen i ni weithredu ag ef, mae'n ddyletswydd arnom i gyd i leihau ein hallyriadau carbon. Ochr yn ochr â'r manteision i'n hiechyd a'n hansawdd aer ein hunain, mae rhoi'r gorau i'r car er mwyn cerdded, beicio neu gymryd trafnidiaeth gyhoeddus, yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud. Hyd yn oed os mai dim ond un diwrnod yr wythnos ydyw i ddechrau, mae popeth yn helpu. Drwy ei gwneud yn haws i staff ac ymwelwyr ddechrau cyfnewid, mae'r sefydliadau a gyhoeddwyd heddiw yn arwain y ffordd."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Caerdydd, "Mae camau enfawr wedi eu cymryd dros y tair blynedd diwethaf i ymsefydlu teithio llesol yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd a'i gwneud hi'n haws i staff newid i gerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithio sy'n gysylltiedig â'r gwaith. Mae'n rhaid i'r gwaith hanfodol hwnnw barhau a bydd yn parhau. Trafnidiaeth sy'n gyfrifol am 41% o allyriadau carbon Caerdydd, ond eto fe allai hanner yr holl deithiau o fewn y ddinas gael eu beicio'n gyfforddus mewn 20 munud neu lai, gyda buddiannau sylweddol i iechyd pobl a'r blaned."  

Ochr yn ochr â'r saith sefydliad cyntaf i gwblhau'r Siarter, cyhoeddwyd pedwar arall a oedd i fod i gwblhau'r ymrwymiadau o fewn y tri mis nesaf, ac fe gawson nhw eu llongyfarch hefyd.

Hefyd yn y digwyddiad, cyhoeddwyd Siarter Teithio Iach newydd 'Lefel 2'.  Mae'r mesurau yn y Siarter Lefel 2 yn llawer mwy uchelgeisiol ac ymestynnol na'r Siarter wreiddiol, i sefydliadau sydd eisiau dangos eu harweinyddiaeth wrth hyrwyddo teithio cynaliadwy. Mae'r Siarter ar gael yn syth i gofrestru iddi.

Yn ogystal â Siarter Teithio Iach Caerdydd, mae Siarter Busnes ar gael i gwmnïau preifat sydd am weithredu ar deithio cynaliadwy, ac mae Siarteri ym Mro Morgannwg, Gwent ac Abertawe.  Mae rhagor o wybodaeth am Siarteri Teithio Iach ar gael ynhealthytravel.cymru/siarteri 

Y sefydliadau a gyhoeddwyd sydd wedi cwblhau Siarter Teithio Iach Caerdydd yw:

  • Cyngor Caerdydd
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
  • Chwaraeon Cymru
  • Senedd Cymru
  • Amgueddfa Cymru

Dyma'r sefydliadau a gafodd eu cyhoeddi a fydd wedi cwblhau'r Siarter erbyn diwedd Rhagfyr 2022:

  • BIP Caerdydd a'r Fro
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • BBC Cymru