Back
Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn yn y flwyddyn derbyn - Hawliwch yr hyn sy'n perthyn i chi!



4/10/2022

Ers dechrau'r tymor ysgol newydd, mae dosbarthiadau cyfan o blant oed derbyn wedi bod yn mwynhau prydau ysgol am ddim fel rhan o gynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd Llywodraeth Cymru.  Mae dros 1900 o deuluoedd wedi manteisio ar y cynnig hyd yn hyn, a bydd llawer mwy o deuluoedd yn gallu gwneud hynny.   

I sicrhau nad yw plant derbyn yn colli allan ar eu Prydau Ysgol Am Ddim, dylai teuluoedd fewngofnodi i'w cyfrif ParentPay i archebu ymlaen llaw.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ymawww.parentpay.com

Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ar gael i'r plant ieuengaf mewn ysgolion cynradd i ddechrau.  Bydd grwpiau blwyddyn eraill yn cael prydau ysgol am ddim trwy ddull gweithredu fesul cam gyda'r nod o gyflwyno'r cynllun i bob plentyn oedran cynradd dros y tair blynedd nesaf.  Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Flynyddoedd 1 a 2 o Dymor yr Haf 2023. 

Gwybodaeth bwysig am Brydau Ysgol am Ddim seiliedig ar fudd-daliadau

Yn ogystal â'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd,rhaidi deuluoedd sy'n derbyn budd-daliadau sydd â phlant o bob oedran, barhau i gofrestru am brydau ysgol am ddim.  Manylion yma; Prydau Ysgol Am Ddim (caerdydd.gov.uk)

Gallant hefyd fod yn gymwys i grantiau eraill a all helpu i brynu gwisg ysgol a hanfodion ysgol eraill.  Gall cofrestru am gymorth sydd ar gael hefyd olygu y gall ysgol plentyn gyrchu cyllid ychwanegol y gellir ei wario ar gefnogi dysgu. 

Mae'r budd-daliadau cymwys yn cynnwys:

  • Cymhorthdal Incwm 
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm 
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm 
  • Cymorth dan ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 
  • Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn 
  • Credyd Treth Plant (heb hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith ac sydd ag incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190) 
  • Estyniad y Credyd Treth Gwaith - yn cael ei dalu am 4 wythnos ar ôl y dyddiad pan na fyddwch yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith mwyach 

 

O ran Credyd Cynhwysol - os ydych yn gwneud cais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018, rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau a gewch)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prydau ysgol am ddim seiliedig ar fudd-daliadau yn parhau i gael eu darparu i blant yn ystod y gwyliau ysgol, hyd at ddiwedd hanner tymor Chwefror y flwyddyn nesaf.   Yng Nghaerdydd, cyflwynir y ddarpariaeth drwy daleb archfarchnad, a anfonir drwy e-bost i deuluoedd cyn dechrau'r gwyliau ysgol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mewn ymateb i'r costau byw cynyddol ar hyn o bryd, mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb sy'n gymwys, mewn modd mor effeithlon â phosibl. Mae capasiti arlwyo wedi'i gynyddu ar draws pob ysgol gynradd yn y ddinas ac mae ein timau Cyngor a Budd-daliadau wedi bod wrth law i gynnig cymorth a chefnogaeth, gan sicrhau nad yw'r problemau ariannol yn rhwystr i addysg.

"Rydym yn croesawu'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd ac os caiff ei ddefnyddio'n llawn, gallai miloedd o deuluoedd ar draws y ddinas elwa. 

"Hefyd, mae'n hanfodol bod y rhieni hynny sydd ei angen fwyaf yn derbyn y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.  Rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallen nhw fod yn gymwys am brydau ysgol am ddim a chymorth arall, i gysylltu, fel y gallant gael y gefnogaeth gywir drwy gydol y flwyddyn ysgol." 

O fis Medi, mae dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd wedi gallu derbyn cymorth ariannol ychwanegol gan gynllun Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad) sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd ysgrifennu, a dyfeisiau.  Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim.

Os ydych chi'n deulu â phlantnad ydyntyn cael Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd a bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Cyngor Caerdydd eich cefnogi. I gadarnhau a ydych yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim (cPYADd) a Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad) sy'n cynnwys cefnogaeth ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau, ewch iPrydau Ysgol am Ddim (caerdydd.gov.uk)

 

Gallwch hefyd ffonio'r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071 neu alw heibio un o'n Hybiau. 

Os yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, efallai y bydd gennych hawl hefyd i help ychwanegol drwy Hanfodion Ysgol (GDD - Mynediad).I weld cynllun eleni ewch i;
Grant Datblygu Disgyblion (y Grant Gwisg Ysgol yn Flaenorol) (caerdydd.gov.uk)

Mae nifer o ysgolion yng Nghaerdydd yn rhedeg cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol a chynhelir mentrau gwisg ysgol eraill ledled y ddinas fel yr elusen A Better Fit.

Mae'r polisi Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng 

Am fwy o wybodaeth, ewch iDarganfod mwy am brydau ysgol am ddim | LLYW.CYMRU.

  • Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Caerdydd amrywiaeth o gymorth i bobl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â phwysau costau byw. Mae hyn yn cynnwys cymorth i gael bwyd, cyngor ar filiau tanwydd y gaeaf, cymorth gydag ôl-ddyledion rhent a llawer mwy. Rydym yn annog unrhyw un sy'n cael anawsterau ar hyn o bryd i gysylltu â'n Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071, e-bostiohybcynghori@caerdydd.gov.uk, galw i mewn i unrhyw Hyb neu ymweld âwww.caerdydd.gov.uk/costaubyw