Back
Amgueddfa Caerdydd yn derbyn gwobr Aur Croeso Cymru

Mae Amgueddfa Caerdydd wedi derbyn Gwobr Aur Croeso Cymru am gynnig profiad cofiadwy i ymwelwyr. 

Nod yr amgueddfa, sydd â'i gartref yn adeilad yr Hen Lyfrgell ar yr Ais yng nghanol dinas Caerdydd, yw adrodd hanes Caerdydd drwy straeon y bobl sydd wedi byw a gweithio yn y ddinas dros y canrifoedd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae Amgueddfa Caerdydd yn gwneud gwaith gwych yn dod â hanes Caerdydd yn fyw i ymwelwyr, mae wir yn atyniad hanfodol i unrhyw un sydd â diddordeb yng ngorffennol hynod ddiddorol ein dinas ac mae hon yn anrhydedd gwbl haeddiannol."

Mae Cynllun Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr Croeso Cymru yn asesiad o safon sy'n adlewyrchu profiad ymwelwyr ac ansawdd y cynnyrch a'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr atyniad a'i staff.

Ochr yn ochr â'r casgliadau parhaol, mae arddangosfeydd presennol yr amgueddfa yn cynnwys arddangosfa ffotograffiaeth gan grŵp ffotograffiaeth Sight Life, ac arddangosfeydd ar-lein sy'n edrych ar ddathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop Caerdydd, sy'n archwilio sut y newidiodd bywyd yn y ddinas yn ystod y cyfnod clo, a dathlu cymunedau'r ddinas trwy gyfrwng sain.

Dros wyliau'r haf fe wnaeth dros 200 o blant a'u teuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft 'galw draw'. Fel rhan o weithgareddau 'Bwyd a Hwyl' yr haf, cymerodd pum ysgol ran mewn sesiynau trin gwrthrychau 'dwylo ar hanes', yn ogystal â llwybrau oriel yr Amgueddfa a gweithgareddau 'Fy Amgueddfa'. Dechreuwyd hefyd ar sesiynau hel atgofion wyneb yn wyneb mewn partneriaeth â Gwasanaeth Byw'n Annibynnol y cyngor, gan gynnig man i gael sgwrs gyfeillgar a chyfle i rannu atgofion am Gaerdydd.

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Caerdydd, ewch i:https://cardiffmuseum.com/cy/