Back
Ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd ar gyfer 2023 ar agor nawr

26/09/22

Bydd ceisiadau am leoedd ysgol uwchradd i ddechrau ym mis Medi 2023 yn agor heddiw (dydd Llun 26, Medi) ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall darparu pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

Mae hwn yn un o'r 7 o gynghorion gan Dîm Derbyn Cyngor Caerdydd, sy'n ceisio helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.  Mae cyngor ac arweiniad syml, gam wrth gam, ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r pum dewis sydd ar gael. 

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

-         Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais

-         Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn 

-         Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Nod yr ymgyrch hon yw gwneud y broses mor deg a syml â phosibl, fel bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol. 

"Mae cyfres o fentrau wedi eu datblygu i hyrwyddo system decach o ddyrannu lleoedd ysgol yng Nghaerdydd gan gynnwys ein hymgyrch derbyn 7 o gynghorion sy'n rhoi arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd, gan wneud y broses dderbyn yn syml a thryloyw fel bod gan bawb yr un siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer 2023/24, mae newidiadau i'r broses ceisiadau derbyn ar gyfer rhai ysgolion ffydd yn y ddinas.  Eleni mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf yn ymuno â 15 ysgol uwchradd arall ym mhroses derbyniadau ysgol gydlynol Caerdydd.  Rhaid i rieni sy'n dymuno gwneud cais am le yn Esgob Llandaf, gyflwyno ffurflen gais yn uniongyrchol i'r ysgol  chwblhau ffurflen gais ar-lein ar wefan derbyn y Cyngor.

Mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gydlynu ei drefniadau derbyn ers y flwyddyn 2018/2019. Nawr, mae pob un o 12 Ysgol Uwchradd Gymunedol y ddinas, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd (ysgol sefydledig) a thair ysgol ffydd (gwirfoddol a gynorthwyir) gan gynnwys Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi ac Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf wedi ymuno â'r cynllun sy'n galluogi rhieni i gyflwyno pob ysgol a ffefrir ganddynt ar un cais ar-lein.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Mae ein system derbyniadau cydlynol yn symleiddio'r broses o wneud cais am le ysgol a hefyd yn atalrhieni rhag cael sawl cynnig sydd yna'n atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn.  Gall rhieni nodi ysgolion yn nhrefn eu dewis wrth wneud cais sy'n rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol a ffefrir yn y rownd gyntaf o dderbyniadau ac yn osgoi straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn cael lle.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Archesgobaeth Gatholig ac Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru i ehangu'r trefniadau cydlynol ac rwy'n falch bod Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf wedi penderfynu ymuno â'r broses, gan helpu i sicrhau ffordd decach a haws o wneud cais am le ysgol."

Mae ymgyrch 7 o gynghorion ddiweddaraf y gwasanaeth Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf Unicef yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Os oes unrhyw deuluoedd yn ansicr am unrhyw agwedd ar y broses, gallant gael cymorth gan ein staff yn Hybiau'r Cyngor ledled y ddinas neu drwy ffonio C2C ar 029 20872088."   

I weld y canllawiau 7 o gynghorion a'r animeiddiad ewch i  yma 

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwsieg, Somalïeg, Wcreineg a Chymraeg wrth gwrs. 

Ar gyfer teuluoedd sydd angen cymorth a chefnogaeth yn ystod y broses ymgeisio, ewch i unrhyw un o Hybiau'r Cyngor lle bydd staff yn gallu helpu neu ffoniwch C2C ar 029 20872088.  

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2023 yn cau ddydd Llun 21 Tachwedd 2022. 

I wneud cais am le ysgol ewch i  yma