Back
Cyngor Caerdydd yn rhoi camau ar waith i reoli pwysau costau byw a chwyddiant

23/09/22 

Mae adolygiad misol Cyngor Caerdydd o'i berfformiad ariannol wedi tynnu sylw at yr angen am arbedion wrth i argyfwng costau byw, chwyddiant a phrisiau ynni cynyddol barhau i roi pwysau ar gyllidebau. 

Mewn adroddiad fydd yn cael ei drafod gan Gabinet y Cyngor ddydd Mercher nesaf, 28 Medi, mae swyddogion yn amlinellu cyflwr presennol cyllid yr awdurdod yn fanwl. 

Mae'r adroddiad yn rhagweld, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol, heb gamau adferol, y gallai'r gyllideb orwario cymaint â £7.3m ond mae'r gwaith o leihau hyn eisoes ar y gweill. 

Mae'n cyfeirio at Wasanaethau Plant fel y maes sy'n wynebu'r pwysau mwyaf sylweddol. "Ar y cyfan," dywed, "mae'r rhain yn ymwneud â niferoedd uchel a chostau lleoliadau preswyl." 

Yn ogystal, fel sefydliadau eraill, mae'r Cyngor yn teimlo effaith lefelau chwyddiant nas gwelwyd o'r blaen ac "ymhlith gwasanaethau ehangach, mae adfer ar ôl y pandemig wedi cael ei oddiweddyd  gan gost ynni a'r argyfwng costau byw sydd wedi arwain at bwysau gwariant sylweddol mewn meysydd fel costau bwyd, tanwydd a chyfleustodau. 

"Hefyd, mae wedi lleihau adferiad incwm o ystyried y wasgfa ar gyllidebau cartrefi ar hyn o bryd." 

Mae pwysau'n taro rhai gwasanaethau yn galetach nag eraill.  Dau faes sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad o ran gorwario posibl yw:  

Datblygu economaidd (£2.68m)- yn gysylltiedig i raddau helaeth â diffygion incwm o fewn diwylliant, lleoliadau a digwyddiadau wrth i'r argyfwng costau byw effeithio ar werthiant tocynnau lleoliadau a digwyddiadau 

Addysg - (£5.424m)- yn adlewyrchu costau cynyddol trafnidiaeth ysgol oherwydd pwysau prisiau tanwydd, cyflenwad gyrwyr a nifer uwch o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sydd angen trafnidiaeth. Yn ogystal, maer cynnydd mewn prisiau bwyd a llai o incwm o brydau ysgol y telir amdanyn nhw wedi effeithio ar sefyllfa ariannol arlwyo ysgolion. 

Er mwyn helpu i wrthbwyso'r pwysau ariannol hyn, mae'r Cyngor yn gallu manteisio ar ei chyllideb adfer Covid gwerth £10 miliwn a sefydlwyd ar gyfer 2022/23, ond mae'r adroddiad yn rhybuddio mai ychydig dros £3.5 miliwn fydd ar ôl ym mis 4 i dalu am unrhyw gostau a risgiau a allai ddod i'r amlwg yn y dyfodol. Bydd adroddiad pellach ar sefyllfa 2022/23 yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod y misoedd nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, Aelod Cabinet Cyllid, Moderneiddio a Pherfformiad y Cyngor, y byddai'r awdurdod yn gwneud pob ymdrech eleni i leihau'r gorwario i sefyllfa gytbwys.  "Os nad yw'r gorwario wedi cael sylw llawn erbyn diwedd y flwyddyn, mae'r Cyngor yn gallu galw ar gronfeydd wrth gefn i gefnogi'r sefyllfa.  Dewis olaf fyddai hyn ac mae pob cyfarwyddiaeth yn canolbwyntio ar reoli'r her ariannol," ychwanegodd. 

"Mae'n bwysig bod pob adran yn parhau i ffocysu ar eu sefyllfa  ariannol a bydd rheolaethau tynn yn parhau i fod ar waith am weddill y flwyddyn ariannol hon."