Back
Arolygwyr yn canmol ysgol ffydd am gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol

22/9/2022

Mae ysgol ffydd yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol gan arolygwyr addysg am ei chefnogaeth gref i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae gan Ysgol Gynradd Gatholig Sant Francis, yn Nhrelái, 352 o ddisgyblion ar ei chofrestr, gyda 48 mewn dosbarthiadau meithrin.  Mae ychydig dros hanner (51.9%) yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim tra bod gan 16.3% anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  I tua 17% o'r disgyblion, nid Saesneg yw eu hiaith gyntaf.

Dywedodd yr adroddiad fod arweinwyr, athrawon a staff cynorthwyol yn gweithio'n galed i greu ysgol ddiogel a hapus.  "Mae rhieni a gofalwyr yn gadarnhaol am gefnogaeth yr ysgol i'w plant, teuluoedd a'r gymuned," ychwanegodd.

"Maen nhw'n canmol arweinwyr ac athrawon sy'n mynd allan o'u ffordd i wneud yn siŵr bod popeth yn iawn gartref.  Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn hyderus a chyfeillgar ac maen nhw'n teimlo'n ddiogel ac yn gwybod bod wastad rhywun i'w helpu a'u cefnogi nhw pan mae angen hynny arnynt."

Cafodd yr arolygwyr eu synnu gan  weledigaeth yr ysgol i wneud yn siŵr bod disgyblion yn cael cyfle cyfartal i ragori.  "Mae modd gweld hyn yn glir yn ei chefnogaeth gref i anghenion ychwanegol disgyblion," medden nhw. "Mae arweinwyr yn ystyried ffyrdd o frwydro yn erbyn anfantais yn ofalus ac i ddarparu cefnogaeth o ansawdd uchel i'r rhai sydd ag ADY.

"Mae staff, gan gynnwys cynorthwywyr dysgu, yn sicrhau bod y disgyblion hyn yn gwneud cynnydd da yn eu gwaith.  Mae staff yr ysgol hefyd yn rhoi lle i ddisgyblion ddelio'n gadarnhaol gyda'u hemosiynau a'u cefnogi i greu perthynas dda gyda staff a disgyblion eraill."

Dywedon nhw hefyd: "Mae gan yr ysgol systemau cadarn ac effeithiol er mwyn diwallu anghenion ychwanegol dysgwyr.  Dyma un o gryfderau'r ysgol.'

Ond mae'r adroddiad yn nodi bod yna feysydd lle gall yr ysgol wneud gwelliannau.  Er bod disgyblion yn datblygu sgiliau llythrennedd cryf yn Saesneg, nododd, "mae llai o gyfleoedd i ddisgyblion ymarfer sgiliau pwysig eraill fel rhifedd a sgiliau digidol ac i leiafrif o ddisgyblion nid yw'r tasgau hyn yn ddigon heriol."

Tynnodd sylw hefyd at y canlynol:

  • Nid yw disgyblion yn cael digon o gyfleoedd i ddylanwadu ar fywyd ysgol
  • Nid yw athrawon yn cynllunio digon o gyfleoedd i ddisgyblion ddod yn ddysgwyr annibynnol, a
  • Nid ydynt yn rhannu'r arferion da yn yr ysgol gyda'i gilydd yn ddigon aml

Bydd yr ysgol nawr yn llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad, gan gynnwys sicrhau bod arweinwyr yn canolbwyntio'n well ar fynd i'r afael â'r amrywioldeb o ran ansawdd yr addysgu.

Dywedodd pennaeth Sant Francis, Marie Langsdale:  "Mae'r gymuned ysgol yn falch bod adroddiad Estyn yn cydnabod y gwaith caled a'r cynnydd mae'r ysgol yn ei wneud.

"Rydym yn arbennig o falch o'n cefnogaeth gref i ddisgyblion ag ADY yn ogystal â'r amgylchedd meithringar a gofalgar, a ategir gan ethos o oddefgarwch, caredigrwydd a pharch sy'n sicrhau bod disgyblion yn teimlo'n ddiogel. 

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Chonsortiwm Canolbarth y De i sicrhau gwelliant parhaus."

Dywedodd Alex Kydd, cadeirydd llywodraethwyr Sant Francis, ei bod yn falch bod adroddiad Estyn yn adlewyrchu gwaith caled a chynnydd y gymuned ysgol. Roedd hefyd yn cydnabod bod yr ysgol yn lle tawel a diogel i ddisgyblion wrth iddyn nhw ddysgu.

"Bydd y llywodraethwyr yn parhau i weithio gyda'r ysgol, yr Awdurdod Lleol a'r Consortiwm i sicrhau bod y cynnydd hwn yn parhau i symud yr ysgol ymlaen," ychwanegodd.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd, ei bod yn falch o'r cynnydd y mae Sant Francis yn ei wneud ac am ei chefnogaeth ragorol i ddisgyblion ag ADY. "Er hynny mae'n amlwg bod yna feysydd y gellir eu gwella a byddwn yn gweithio'n agos gydag Estyn i adolygu cynnydd yr ysgol."