Back
Enwi ysgol gynradd newydd sbon Caerdydd a phenodi Pennaeth newydd


21/9/2022

Ysgol Gynradd Groes-wen yw'r enw sydd wedi ei ddewis ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.

Wedi'i leoli yn natblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Heol Llantrisant, mae 'Groes-wen' wedi ei enwiar ôl pentrefan bach, a chroes wen a fodolai ar gyffordd Heol Llantrisant â Radur ac yn rhan o lwybr pererindod Pen-rhys.

Mae'r newyddion cyffrous yn dilyn y cyhoeddiad bod corff llywodraethu dros dro yr ysgol wedi penodi Richard Carbis yn bennaeth newydd ar yr ysgol.Yn Bennaeth profiadol ar ôl arwain Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Derwen, Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James ac Ysgol Pencae (ei swydd bresennol) yng Nghaerdydd, cafodd Richard ei secondio i wahanol rolau yn ystod ei yrfa yn cynnwys arweinydd strategol dros arweinyddiaeth, Swyddog Strategol y Gymraeg ac Arweinydd Systemau ar gyfer Consortiwm Canolbarth y De.

Mae'r gwaith adeiladu ar yr ysgol eisoes yn mynd rhagddo, ac unwaith y bydd wedi ei chwblhau bydd yn gwasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr yn ogystal â rhannau o Cregiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a'r Tyllgoed.

Bydd Ysgol Gynradd Gynradd Groes-wen yn cynnwys pensaernïaeth gyfoes ac amrywiaeth o fwynderau a fydd ar gael i'r cyhoedd, gan ddarparu cyfleoedd i ddod â thrigolion a theuluoedd newydd ynghyd gyda'r nod o fod yn ganolbwynt wrth galon y gymuned newydd.

Bydd yr ysgol dau ddosbarth mynediad yn cynnig cyfanswm o 420 o leoedd a dyma'r cyntaf o'i bath yng Nghaerdydd i gynnig ffrwd addysg iaith ddeuol. Mae hyn yn golygu y bydd un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymrage a Saesneg ddeuol. Yn ogystal, bydd 96 o lefydd meithrin rhan-amser.

Bydd ceisiadau ar gyfer derbyn i ysgolion cynradd Caerdydd, gan gynnwys Ysgol Gynradd Groes-wen, yn agor ym mis Tachwedd 2022 ar gyfer mynediad i'r dosbarth derbyn a mis Ionawr 2023 ar gyfer y llefydd Meithrin. Bydd yr ysgol yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2023.   Bydd disgyblion ym Mlwyddyn ysgol 1 a 2 hefyd yn cael cyfle i wneud cais am le i'r ysgol o fis Ebrill 2023 i ddechrau o fis Medi 2023.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae enwi'r ysgol newydd a phenodi ei phennaeth yn gynnydd cadarnhaol o ran sefydlu'r ysgol newydd a chyffrous hon. 

"Fel amrywiad arloesol ar yr ysgol gynradd draddodiadol, bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn cynnig cyfleoedd newydd a chyffrous trwy gyflwyno'r model iaith ddeuol, tra'n darparu amgylchedd dysgu modern, llawn offer ac effeithlon.

"Hoffwn longyfarch Richard a fydd gyda chefnogaeth y corff llywodraethu'r ysgol, yn arwain yr ysgol wrth greu gweledigaeth gyffrous i'r dyfodol, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael yr addysg orau bosibl.

Ychwanegodd y Cyng. Merry: "Bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn cefnogi dyheadau Caerdydd i dyfu'r Gymraeg a nodir yn ein strategaeth ddwyieithog, trwy gyfrwng model sy'n ceisio cynyddu addysg Gymraeg mewn modd strategol, gan sicrhau bod ein hysgolion newydd ar sail ariannol gref; mae ein hysgolion cynradd presennol yn yr ardal yn parhau i fod yn ddichonadwy; a bod yr ysgolion rydyn ni'n eu cynnig yn darparu ar gyfer yr ystod o ddewisiadau rhieni a welwn yng Nghaerdydd."

Meddai Richard Carbis, Pennaeth yr ysgol newydd:  "Mae hi wir yn anrhydedd cael fy mhenodi'n Bennaeth Ysgol Groes-wen.  Rwy'n edrych ymlaen at fod yn rhan o adeiladu ysgol newydd o fewn ardal newydd yng Nghaerdydd.   Mae hwn yn gyfle unigryw a chyffrous i wreiddio ethos dwyieithrwydd fel rhan fywiog a gweithgar o'r gymuned."

Dwedodd Daniel Tiplady, Cadeirydd y Llywodraethwyr: "Mae'r Ysgol arloesol hon yn torri tir newydd i Gaerdydd a Chymru trwy efelychu modelau rhyngwladol sy'n bodoli o ran addysg iaith ddeuol. "Bydd yr Ysgol wrth galon y gymuned newydd fydd yn cael ei datblygu yng ngogledd orllewin Caerdydd ac yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn rhan sylweddol o brofiad addysgol grwpiau newydd o ddisgyblion."

Mae'r ysgol yn cael ei hadeiladu dan gytundeb Adran 106, ac mae'n ychwanegol at yr ysgolion newydd a'r rhai sy'n cael eu hehangu gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru dan ei rhaglen Band B Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu sydd werth £284m.

Gallwch ddarllen mwy am y model addysg iaith ddeuol ymaLLC43283 (llyw.cymru)