Back
Canmoliaeth gan Estyn i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yn Grangetown


20/9/2022

Mae Estyn wedi disgrifio Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig yng Nghaerdydd fel ysgol hapus a chynhwysol sy'n rhoi blaenoriaeth uchel ar les ei disgyblion.

 

 

Yn ystod ei hymweliad diweddar â'r ysgol Gatholig yn Grangetown, fe wnaeth Arolygiaeth Addysg Cymru ddarganfod bod bron pob disgybl yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn yr ysgol ac yn gwybod pwy i ofyn am help pe bai ei angen arnynt. Roedd 272 o ddisgyblion ar gofrestr yn yr ysgol yn ystod adeg yr arolygiad ym mis Mehefin ac roedd 33.2% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Nododd yr arolygwyr fod disgyblion yn dangos lefelau uchel o ddiddordeb a mwynhad yn eu gwersi, clybiau a gweithgareddau ychwanegol y maent yn eu mynychu a bron pob disgybl yn ymddwyn yn dda iawn o fewn gwersi ac ar yr amseroedd egwyl. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion, gan gynnwys y 15.8% o'r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a 27.8% o'r rhai sy'n dysgu Saesneg fel iaith ychwanegol, yn gwneud cynnydd cryf yn eu dysgu.

Sylwodd Estyn bod yr addysgu ar draws yr ysgol yn dda ac mae gan bron bob athro ddisgwyliadau uchel o ddisgyblion â gwersi wedi'u teilwra i gyd-fynd ag anghenion y disgyblion yn dda, gan helpu i gadw sialens yn uchel i ddysgwyr, gan gynnwys y mwyaf abl.

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddweud bod yr ysgol yn datblygu cwricwlwm hynod o afaelgar sy'n cynnwys sgiliau coginio, gwersi beicio a sesiynau yn ardal coedwigoedd yr ysgol a daw gwersi'n fyw yn llwyddiannus iawn trwy 'ddyddiau trochi' pan fydd disgyblion yn mwynhau amrywiaeth o deithiau, ymwelwyr â'r ysgol a phrofiadau dysgu diddorol. Canfuwyd hefyd bod arweinwyr ysgolion wedi gweithio gyda chymuned yr ysgol i greu gweledigaeth glir o ddisgwyliad uchel a gwelliant parhaus i bawb, wedi'i wreiddio mewn gwerthoedd Cristnogol.

Gan fyfyrio ar lwyddiant yr ysgol, dywedodd y Pennaeth Mr Peter Knight: "Rwy'n falch iawn bod yr arolygwyr wedi cydnabod y gwaith rhagorol yr ydym yn ei wneud. Mae gennym y plant mwyaf anhygoel yma yn Sant Padrig o sawl diwylliant a chefndir amrywiol. Rydyn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i roi'r dechrau gorau un ohonyn nhw mewn bywyd. Dyna pam rydyn ni'n rhoi pwyslais mor gryf ar ein gwerthoedd cyffredin a'n lles i staff yn ogystal â disgyblion. 

"Mae'n wych gweld bod yr arolygwyr yn cytuno ein bod 'Ysgol gynhwysol iawn lle mae pob disgybl yn cael ei werthfawrogi a'i gefnogi,' a bod 'bron yn ddieithriad, bod disgyblion yn dangos balchder mawr ynddynt eu hunain, eu hysgol a'u gwaith.'

"Rydym wrth ein boddau bod yr arolygwyr wedi creu cymaint o argraff ar y ffordd y mae'r ysgol yn cyflwyno'r Cwricwlwm Newydd cyn yr amserlen. Mae'n gyffrous iawn ac yn ganmoliaeth enfawr eu bod wedi gwahodd yr ysgol i lunio astudiaeth achos i'w chyhoeddi ar wefan Estyn er mwyn gwasanaethu fel esiampl o ymarfer effeithiol ac arloesol i annog ac ysbrydoli ysgolion eraill Cymru."

Dywed Cadeirydd Llywodraethwyr Sant Padrig, Dr Valentina Flamini,

"Mae'r llywodraethwyr yn falch iawn bod ymdeimlad cryf iawn o gymuned yn dod ar draws yn yr adroddiad. Rydyn ni'n hynod falch o staff yr ysgol ond yn bennaf oll rydyn ni'n falch o'n plant gwych."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hwn yn arolygiad cadarnhaol iawn ar gyfer Ysgol Gynradd Gatholig Sant Padrig, sy'n parhau i fod yn un o nifer o ysgolion ffydd rhagorol Caerdydd. 

"Mae'r gwaith y mae'r ysgol yn ei wneud i gofleidio'r cwricwlwm newydd a'r agwedd arloesol at brofiadau a chyfleoedd dysgu wedi gwneud argraff arbennig arnaf, sy'n amlwg yn ysbrydoli creadigrwydd disgyblion a dal eu diddordeb.

"Llongyfarchiadau i'r pennaeth, y staff, y disgyblion a'r llywodraethwyr ar y cyflawniad ardderchog hwn."