Ysgol ffydd yn ennill canmoliaeth uchel gan arolygwyr Estyn
Mae ysgol gynradd Gatholig yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol am ei gwaith 'rhagorol' mewn nifer o feysydd yn ei hadroddiad diweddaraf gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.
Roedd gan Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd yn y Tyllgoed 163 o ddisgyblion adeg ei harolygu ym mis Mehefin, gyda mwy na thraean (36.9%) yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mwy na phumed gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac ychydig dros bedwar y cant sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol.
Yn yr adroddiad, barnwyd bod yr ysgol yn "gymuned amrywiol lle mae cyfraniadau at ei hethos a'i diwylliant unigryw yn ei gwneud yn lle cynnes, croesawgar a chyffrous i fyw a dysgu."
Ychwanegodd: "Mae'r disgyblion yn barchus, yn hyderus ac yn gyfeillgar. Maen nhw wrth eu boddau o ddod i'r ysgol ac yn llawn sylwadau a gwybodaeth ddiddorol am eu hamser yn yr ysgol, boed hynny ar ddechrau eu taith neu’n nesáu at y diwedd.”
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29790.html
Cyhoeddi trefniadau cau ffyrdd wrth i'r gwaith barhau ar Gyfnewidfa Drafnidiaeth Caerdydd
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi cyfres o fesurau traffig yng nghanol y ddinas wrth ddechrau’r gwaith o greu mynediad deheuol i'r Gyfnewidfa Drafnidiaeth newydd.
Mae disgwyl i'r Gyfnewidfa, fydd yn cynnwys yr orsaf fysus newydd, gael ei hagor i'r cyhoedd gan Trafnidiaeth Cymru (TfW) y flwyddyn nesaf. Y datblygiad diweddaraf yw creu llwybr mynediad o'r de, sy'n golygu bod angen cau Heol Saunders dros dro o'i chyffordd â Heol Penarth.
Mae'r gwaith yn dechrau ar 19 Medi ac mae disgwyl iddo bara hyd at chwe mis.
Tra bod gwaith ar y gweill, bydd safle tacsis yr orsaf reilffordd, sy'n cael ei gyrchu drwy Heol Saunders, yn cael ei adleoli gan Trafnidiaeth Cymru i Heol Penarth fel mesur dros dro.
Bydd y rhan o Heol Penarth rhwng Heol Saunders a Glanfa Gorllewin y Gamlas, gyferbyn â maes parcio'r orsaf, yn cael ei gyfyngu i draffig tua'r de yn unig, gyda'r safle bws tua'r gogledd yn cael ei ddileu a chaiff man llwytho ei osod gyferbyn â Gwesty Clayton.
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29797.html
Ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
Croesawodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd a'r Arglwydd Faeres, y Cynghorydd Graham Hinchey a Mrs Anne Hinchey, y grŵp diweddaraf o fyfyrwyr o efeill-sir Caerdydd yn Vestland @vestlandfylke yn Norwy i dreulio blwyddyn yn astudio yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro @CAVC.
@WelshNorwegian #CaerdyddRyngwladol #CroesoiGaerdydd #DinasGyfeillgar