Back
Ysgol ffydd yn ennill canmoliaeth uchel gan arolygwyr Estyn

05.09.22
Mae ysgol gynradd Gatholig yng Nghaerdydd wedi cael ei chanmol am ei gwaith 'rhagorol' mewn nifer o feysydd yn ei hadroddiad diweddaraf gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.

Roedd gan Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd yn y Tyllgoed 163 o ddisgyblion adeg ei harolygu ym mis Mehefin, gyda mwy na thraean (36.9%) yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mwy na phumed gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac ychydig dros bedwar y cant sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol.

Yn yr adroddiad, barnwyd bod yr ysgol yn "gymuned amrywiol lle mae cyfraniadau at ei hethos a'i diwylliant unigryw yn ei gwneud yn lle cynnes, croesawgar a chyffrous i fyw a dysgu."

Ychwanegodd: "Mae'r disgyblion yn barchus, yn hyderus ac yn gyfeillgar. Maen nhw wrth eu boddau o ddod i'r ysgol ac yn llawn sylwadau a gwybodaeth ddiddorol am eu hamser yn yr ysgol, boed hynny ar ddechrau eu taith neu’n nesáu at y diwedd.

"Maen nhw'n teimlo'n ddiogel iawn a bod pobl yn gwrando arnynt ac mae hyn yn cael ei ailadrodd gan rieni a gofalwyr sy'n llawn canmoliaeth i'r staff ymroddedig."

Teimlai'r arolygwyr fod gan arweinwyr yr ysgol weledigaeth effeithiol a’u bod yn meithrin creadigrwydd, gan helpu disgyblion i archwilio pob agwedd ar eu dysgu trwy gelf a chyfryngau digidol. Roedden nhw hefyd yn canmol "ystyriaeth ofalus yr ysgol o gynnydd disgyblion" sy'n sicrhau bod pob disgybl, gan gynnwys y rhai ag ADY, rhwystrau iaith a'r rhai sy'n agored i niwed mewn ffyrdd eraill, yn gwneud yn dda.

Ar draws yr ysgol, meddai'r adroddiad, mae gan ddisgyblion agweddau "eithriadol o gadarnhaol" at ddysgu. Ychwanegodd fod y disgyblion yn cymryd perchnogaeth ar eu dysgu o oedran ifanc, ac erbyn diwedd eu cyfnod yn Ysgol y Teulu Sanctaidd "mae disgyblion yn datblygu dull soffistigedig o asesu eu dysgu eu hunain ac eiddo eraill. Maent yn gweithredu fel arweinwyr dysgu, trwy fodelu eu gwaith a rhannu eu harbenigedd unigol â'u cyfoedion."

Roedd yr adroddiad yn rhoi canmoliaeth arbennig am waith yr ysgol ar Iaith, Lythrennedd a Chyfathrebu. "Mae hyn wedi arwain at ddarpariaeth ragorol ar gyfer siarad a gwrando," meddai’r arolygwyr, "yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r ysgol hefyd yn cefnogi dealltwriaeth disgyblion o hawliau dynol ac yn hybu ffyrdd iach o fyw er iddi nodi bod "llai o gyfleoedd i ddisgyblion ddylanwadu ar beth a sut maen nhw'n ei ddysgu yn yr awyr agored," gan ychwanegu, "yn gyffredinol, nid yw athrawon bob amser yn manteisio'n llawn ar yr ardal awyr agored helaeth yn eu cynllunio ar draws y cwricwlwm."

Dywedodd pennaeth Ysgol y Teulu Sanctaidd, Louise Mills: "Mae cymuned yr ysgol gyfan wrth ei bodd gyda'r adroddiad diweddar gan Estyn. Roeddem yn arbennig o falch y cydnabuwyd bod gweledigaeth gyffredin yr ysgol ar gyfer datblygiad moesol a chymdeithasol wrth wraidd ein cwricwlwm.

"Fe wnaeth Estyn dynnu sylw hefyd at y berthynas ragorol rhwng staff a disgyblion; mae'r cysylltiadau hyn yn ymestyn i ffurfio bond cryf rhwng yr ysgol a'r cartref, gan ddangos gofal ac ymrwymiad i'n teuluoedd. Mae'r rhain yn hanfodol i bopeth sy'n digwydd yn Ysgol y Teulu Sanctaidd ac yn helpu i sicrhau bod pob disgybl yn gwneud cynnydd da iawn trwy gydol ei amser yn yr ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Caerdydd, ei bod wrth ei bodd gyda'r sylwadau cadarnhaol a wnaed gan Estyn yn yr adroddiad.  "Mae Ysgol y Teulu Sanctaidd yn un o'r llawer o ysgolion ffydd rhagorol sydd gennym yng Nghaerdydd ac mae ganddynt rôl bwysig i'w chwarae yn ein cymuned amrywiol yma yng Nghaerdydd.

"Mae'n amlwg o'r adroddiad bod yr athrawon a'r llywodraethwyr, ynghyd â'r disgyblion wrth gwrs, wedi creu amgylchedd dysgu gwych yn y Tyllgoed."