Dyma
eich diweddariad ar ddydd Gwener, yn cynnwys: Cau ffyrdd a chyngor teithio I
bawb o ran ‘Clash at the Castle’; chwaraeon Cymraeg yn Haf o Hwyl; ardal
chwarae Parc Brewery yn agor; y diweddaraf ar elusen yr Arglwydd Faer; cymorth
i rieni â hanfodion ysgol; arddangosiadau blodau newydd
Cau ffyrdd a chyngor teithio I bawb o ran ‘Clash at the Castle’
Gyda digwyddiad stadiwm cyntaf y WWE yn y DU yn ystod y 30 mlynedd
ddiwethaf, mae ‘Clash at the Castle’ yn dod i’r Stadiwm Principality ar 3 Medi
a bydd yr holl ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau rhwng 12 hanner dydd a 12
hanner nos ar sail iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i
mewn a gadael y stadiwm yn ddiogel.
Cynlluniwch eich
taith o flaen llaw a gadael digon o amser i gyrraedd Caerdydd a Stadiwm
Principality.
Cynghorir yn gryf i’r rhai sy'n mynychu'r digwyddiad hwn i deithio i'r ddinas yn gynnar, gadael bagiau mawr gartref a thalu sylw i'r eitemau gwaharddedig a restrir ar wefan principalitystadium.cymru cyn iddynt deithio i mewn i'r ddinas.
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29740.html
Hyfforddwyr yr Urdd yn cyflwyno pobl ifanc I amrywiaeth eang o chwaraeon
Mae Haf o Hwyl Caerdydd yn parhau i ddifyrru ac addysgu miloedd o blant a'u teuluoedd, a’u cadw’n actif, a daeth tua 150 o bobl ifanc i roi cynnig ar ystod eang o gampau mewn cyfres o wersylloedd yn Ysgol Glantaf yng ngogledd Caerdydd.
Mae'r rhaglen - cyfres o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yn ystod gwyliau'r ysgol ac wedi’i hariannu gan Gyngor y Ddinas - yn cynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim ledled y ddinas, a'r cyfan wedi'u cynllunio i apelio at bobl ifanc o bob oed a gallu.
Cynhaliwyd y gwersylloedd chwaraeon yng Nglantaf gan fudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru, gyda'i hyfforddwyr yn gweithio gyda thua 50 o bobl ifanc y dydd ar bob un o bum niwrnod y rhaglen, gan eu cyflwyno i chwaraeon yn cynnwys tenis, athletau, rygbi, pêl-fasged a llawer mwy.
"Rydyn ni wedi bod yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau dros Gaerdydd gyfan yn ystod y gwyliau, y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai rheolwr chwaraeon rhanbarthol De Cymru yr Urdd, Jo Jones. "Rydym wedi cynnal sesiynau i'r teulu mewn parciau lleol yn ogystal â'n sesiynau nofio dwys yn y canolfannau hamdden lleol," ychwanegodd. "Fe wnaethon ni gynnal sawl gwersyll aml-gamp drwy'r dydd mewn gwahanol leoliadau, gyda phresenoldeb da iawn. Fe’u mwynhawyd gan gannoedd o blant ledled y ddinas."
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29762.html
Parc y Bragdy’n agor yn swyddogol wrth I fuddsoddiad yn ardaloedd chwarae Caerdydd barhau
Roedd acrobatiaid, perfformwyr gwifren uchel, ac aelodau o'r gymuned leol yn llenwi Parc y Bragdy yn Adamsdown ddydd Sul wrth i'r ardal chwarae, sydd wedi'i hadnewyddu'n llwyr fel rhan o raglen fuddsoddi barhaus o £3.2 miliwn mewn parciau a chwarae ardaloedd ar draws y ddinas, agor yn swyddogol i'r cyhoedd.
Mae'r ardal chwarae, sydd wedi ei hestyn i gynnwys ardal o laswellt ar gyfer chwarae diogel, anffurfiol, yn un o dair yn Adamsdown a fydd yn cael eu creu o’r newydd neu eu hadnewyddu eleni.
Mae'r gwaith uwchraddio hefyd yn cynnwys offer chwarae, seddi, rheiliau, ac arwynebau diogelwch newydd. Fel rhan o'r gwaith mae ardal gemau aml-ddefnydd newydd hefyd wedi'i gosod yn y parc.
Cynhaliwyd yr agoriad swyddogol, gan gynghorwyr ward lleol, ar ddydd Sul 28 Awst cyn i'r digwyddiad cymunedol cyntaf gael ei gynnal yn y parc ers cwblhau'r gwaith adnewyddu. Cafodd y digwyddiad, a oedd yn cynnwys perfformiad gwifren uchel, acrobatiaid, gweithdai rhedeg am ddim a chwmni drymio o Rwanda, Ingoma Nyshya, ei gynhyrchu gan No Fit State Circus ar y cyd â'r gymuned leol, fel rhan o Ŵyl Stryd Clifton sy'n dathlu Adamsdown a'i chymuned.
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29771.html
Elusen cŵn tywys yn elwa o Ddiwrnod mawreddog yr Arglwydd Faer
Chwaraeodd XI Yr Arglwydd Faer Caerdydd swyddogion cyngor mewn gêm gêm griced elusennol dros benwythnos Gŵyl y Banc, er budd yr elusen a ddewiswyd gan yr Arglwydd Faer, Cŵn Tywys Cymru.
Cynhaliwyd y gêm, a chwaraewyd yng Nghlwb Criced Sain Ffagan, gan Gwmni Persimmon Homes, a roddodd £1,000 tuag at yr achos.
Darllenwch
fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29769.html
Tymor
Ysgol Newydd yn dod â help
ariannol ar gyfer hanfodion ysgol
O fis
Medi, bydd dysgwyr cymwys yng Nghaerdydd yn derbyn cymorth ariannol ychwanegol
gan gynllun Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru (Grant Datblygu Disgyblion -
Mynediad) sy'n helpu gyda chost gwisg ysgol, offer chwaraeon, deunydd
ysgrifennu, a dyfeisiau. Mae hyn yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim.
Yr
wythnos diwethaf, datgelodd ymchwil gan Sefydliad Bevanfod y rhan fwyaf o Gymry
yn torri'n ôl ar eitemau hanfodol oherwydd costau byw cynyddol.[2]Wrth i'r tymor newydd nesáu, mae Cyngor
Caerdydd yn annogrhieni i wneud cais am y gefnogaeth
mae ganddyn nhw hawl iddi.
Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae hyd at 40% o ddysgwyr sy'n gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim yn colli allan ar gymorth ychwanegol sydd ar gael iddynt. Eleni, mae Caerdydd wedi ymrwymo i helpu rhieni a gofalwyr i fanteisio ar yr arian y mae ganddynt hawl iddo.
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29775.html
Mae’r
ffordd y caiff plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi yn newid
Mae Llywodraeth Cymru
yn newid y ffordd y bydd plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig
(AAA) yn cael cymorth. Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
yn disodli'r term Anghenion Addysgol Arbennig (AAA).
Nodir y newidiadau yn
Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) 2018, a'r Cod
ADY (2021). Nod Llywodraeth Cymru yw creu system gymorth ar gyfer
plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed a'i gwneud yn haws i wdeuluoedd gael
gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.
Bydd gan bob plentyn a
pherson ifanc sy'n trosglwyddo i'r dull ADY Gynllun Datblygu Unigol
(CDU). Mae'r CDU yn gynllun statudol a bydd yn disodli Cynlluniau Addysg
Unigol (CAU) a datganiadau AAA.
Darllenwch fwy yma:
www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/29777.html
Ar gyfryngau
cymdeithasol: Gwely blodau Newydd yng Nghastell Caerdydd
Ydych chi
wedi sylwi ar y gwely blodau newydd y tu allan i Gastell Caerdydd eto?
Mae’r gwely blodau trawiadol, a grëwyd gan ein tîm Parciau talentog, Prentisiaid y Cyngor, gwirfoddolwyr, a Phrentisiaid ar gyfnod cyfnewid o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gâr, yn sillafu 'Parc Bute' gyda'r castell wedi’i gynrychioli yn y cefndir.
Dywedodd Rowan, Prentis ar gyfnod cyfnewid o Ardd Fotaneg Cymru: "Roedd mynd i Gaerdydd ar gyfer lleoliad gwaith yn ddiddorol oherwydd pa mor wahanol mae gerddi mewn canol dinas o gymharu â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Helpais i blannu'r gwely "Bathodyn" y tu allan i Gastell Caerdydd. Ro’n i wedi astudio sut mae planhigion gwelyau blodau yn gweithio mewn theori yn ystod fy nghwrs RHS, ond roedd yn gyffrous rhoi hyn ar waith. Roedd hi’n wythnos braf iawn ar leoliad! Dysgais lawer a chefais lawer o hwyl.
Mae'r rhaglen gyfnewid profiad gwaith yn un o brif
nodweddion Cynllun Prentisiaeth Parciau a Gerddi’r Cyngor, yn cynnig cyfleoedd
i gael profiad garddwriaethol newydd a datblygu ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae
sefydliadau eraill yn gweithredu. Yn ddiweddar, gwnaeth ein Prentisiaid ni’r
daith yn ôl i Sir Gâr i ddysgu yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ac maen nhw wedi
dod â’r holl wybodaeth newydd ‘na yn ôl i barciau Caerdydd!