Back
Mae'r ffordd y caiff plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol eu cefnogi yn newid: Gwybodaeth bwysig i deuluoedd


1/9/2022

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd y bydd plant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn cael cymorth.   Bydd y term Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn disodli'r term Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). 

Nodir y newidiadau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) 2018, a'r Cod ADY (2021).   Nod Llywodraeth Cymru yw creu system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed a'i gwneud yn haws i deuluoedd gael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.

Bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sy'n trosglwyddo i'r dull ADY Gynllun Datblygu Unigol (CDU).  Mae'r CDU yn gynllun statudol a bydd yn disodli Cynlluniau Addysg Unigol (CAU) a datganiadau AAA.   

Mae'r Cod ADY yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ac awdurdodau lleol ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau bod barn dysgwyr a rhieni yn cael ei hystyried, a bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn y broses gynllunio.  Bydd ffocws ar well cydweithredu a rhannu gwybodaeth rhwng asiantaethau er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn cael ei roi ar waith. 

Yn ystod y cyfnod gweithredu tair blynedd, a ddechreuodd ym mis Medi 2021, bydd pob plentyn a pherson ifanc ym Mlwyddyn 11 neu'n iau sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) yn trosglwyddo o'r system AAA i'r dull Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Mae hyn yn golygu y bydd y systemau newydd a'r hen systemau yn gweithredu ochr yn ochr â'i gilydd yn ystod y cyfnod gweithredu, nes bod yr holl blant a phobl ifanc yn y grwpiau blwyddyn hyn wedi trosglwyddo i'r dull ADY.  

Bydd pobl ifanc sydd ym mlwyddyn 12 neu'n hŷn ar hyn o bryd yn parhau ar y system AAA ac ni fyddant yn trosglwyddo i'r dull ADY.  

Mae nodau craidd eraill yn cynnwys;

  • Dyheadau Uchel a Gwell Canlyniadau -Bydd defnyddio CDUau yn sicrhau bod cynlluniau'n cael eu gwneud gyda chanlyniadau realistig a chyraeddadwy sy'n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.
  • Osgoi anghytundebau a phenderfyniadau anghytundeb cynharach -Mae'r system newydd yn rhoi ffocws ar ddatrys anghytundebau ynghylch CDUau neu ddarpariaethau ar lefel mor lleol â phosibl h.y. o fewn ysgolion/ drwy linell gymorth ADY.
  • Hawliau apelio clir a chyson -Os na ellir datrys anghytundebau ynghylch CDUau neu ddarpariaethau ar lefel leol, bydd gan bob plentyn, person ifanc a'u rhieni hawl i apelio i dribiwnlys. 
  • Cod gorfodol -Bydd awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn dilyn cod cyfreithiol i sicrhau paramedrau y gellir eu gorfodi wrth ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at addysg o ansawdd da yw ein blaenoriaeth, ac yng Nghaerdydd rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y gefnogaeth a'r cymorth cywir yn cael eu darparu fel y gall pob un o'n dysgwyr ffynnu.

"I deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gall nodi'r cymorth a'r gefnogaeth gywir deimlo'n llethol weithiau. Mae'r system newydd hon yn ceisio gwneud y broses mor hygyrch a thryloyw â phosibl a thrwy gydweithio â theuluoedd, ysgolion, yr awdurdod lleol ac asiantaethau partner, gallwn sicrhau bod anghenion unigol y plentyn yn cael eu diwallu ac y gallant gyrraedd eu llawn botensial."

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Yn y bôn, mae'r system newydd yn cydnabod y dylai barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc fod wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, gan gryfhau ymhellach uchelgais Caerdydd o fod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant UNICEF UK lle mae lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed " 

Cysylltir â theuluoedd â phlant yr effeithir arnynt gan y newidiadau gan lythyr cyn bo hir. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf ADYTA newydd yma ewch iwww.caerdydd.gov.uk/ADY

Gellir dod o hyd i Gwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru yma: 

https://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cwestiynau-cyffredinhttps://llyw.cymru/rhaglen-trawsnewid-system-anghenion-dysgu-ychwanegol-cwestiynau-cyffredin