Back
Hyfforddwyr yr Urdd yn cyflwyno pobl ifanc i amrywiaeth eang o chwaraeon

30.08.22
Mae Haf o Hwyl Caerdydd yn parhau i ddifyrru ac addysgu miloedd o blant a'u teuluoedd, a’u cadw’n actif, a daeth tua 150 o bobl ifanc i roi cynnig ar ystod eang o gampau mewn cyfres o wersylloedd yn Ysgol Glantaf yng ngogledd Caerdydd.

Mae'r rhaglen - cyfres o ddigwyddiadau wedi'u trefnu yn ystod gwyliau'r ysgol ac wedi’i hariannu gan Gyngor y Ddinas - yn cynnwys digwyddiadau rhad ac am ddim ledled y ddinas, a'r cyfan wedi'u cynllunio i apelio at bobl ifanc o bob oed a gallu.

Cynhaliwyd y gwersylloedd chwaraeon yng Nglantaf gan fudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru, gyda'i hyfforddwyr yn gweithio gyda thua 50 o bobl ifanc y dydd ar bob un o bum niwrnod y rhaglen, gan eu cyflwyno i chwaraeon yn cynnwys tenis, athletau, rygbi, pêl-fasged a llawer mwy.

"Rydyn ni wedi bod yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau dros Gaerdydd gyfan yn ystod y gwyliau, y cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg," meddai rheolwr chwaraeon rhanbarthol De Cymru yr Urdd, Jo Jones. "Rydym wedi cynnal sesiynau i'r teulu mewn parciau lleol yn ogystal â'n sesiynau nofio dwys yn y canolfannau hamdden lleol," ychwanegodd. "Fe wnaethon ni gynnal sawl gwersyll aml-gamp drwy'r dydd mewn gwahanol leoliadau, gyda phresenoldeb da iawn. Fe’u mwynhawyd gan gannoedd o blant ledled y ddinas."

Mae'r Haf o Hwyl yn un o nifer o fentrau sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor fel rhan o'r cais i gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel Dinas Sy'n Dda i Blant, yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor UNICEF  y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "I ddod yn Ddinas wirioneddol Dda i Blant mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at ein gweithgareddau, felly rwy'n hynod ddiolchgar i'n staff a'n partneriaid am gynnal cyfres mor wych o ddigwyddiadau ac i’r Urdd am gynnal cynifer o sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae Haf o Hwyl yn rhan o Adferiad sy'n Dda i Blant yng Nghaerdydd, a ddechreuodd ar ôl y pandemig. 

I ddysgu mwy am y digwyddiadau ar hyd a lled y ddinas sy'n cael eu cynnal tan 5 Medi, mewngofnodwch i https://tinyurl.com/36mmrdf4 I gael mwy o wybodaeth am gynllun tair blynedd y Cyngor i wella canlyniadau i bobl ifanc, dilynwch y ddolen hon https://tinyurl.com/vyz7mcwu