Back
Darlun cadarnhaol dros y ddinas o ran canlyniadau TGAU Caerdydd 2022

25/8/2022

Mae disgyblion ar draws Caerdydd wedi cael eu canlyniadau TGAU heddiw.  Eleni yw'r tro cyntaf ers 2019 i ddysgwyr sefyll arholiadau haf sydd wedi eu marcio a'u graddio gan fyrddau arholi, ar ôl i ddwy flynedd o raddau gael eu pennu gan ysgolion a cholegau. Yn gyffredinol mae'r canlyniadau yn uwch na 2019, pan gafodd arholiadau eu sefyll ddiwethaf.

Yn seiliedig ar y canlyniadau cychwynnol a gyhoeddwyd heddiw, mae 31.9 y cant o ganlyniadau arholiadau TGAU 2022 CBAC wedi eu graddio ag A* i A, o'i gymharu â ffigwr Cymru sef 25.1 y cant (pob bwrdd arholi), a ffigwr Caerdydd o 23.1 y cant yn 2019.

Mae canran y ceisiadau TGAU sydd wedi arwain at raddau C ac uwch wedi codi i 73.5 y cant, cynnydd o 7.2 pwynt canran oddi ar 2019, ac uwch law ffigwr Cymru o 68.6 y cant.

Ar gyfer ceisiadau sydd wedi ennill graddau A* i G, ffigwr 2022 ar gyfer Caerdydd yw 97.5 y cant, o gymharu â 96.3 y cant yn 2019.

Y darlun cenedlaethol ar draws Cymru yw bod y canlyniadau yn gyffredinol yn uwch na 2019, pan gafodd arholiadau eu sefyll ddiwethaf.  Fodd bynnag, nid oes modd cymharu'r flwyddyn hon yn uniongyrchol gydag unrhyw flwyddyn arall.

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd:  "Mae diwrnod canlyniadau TGAU yn garreg filltir go iawn i'n pobl ifanc a hoffwn longyfarch pob un o'r disgyblion hynny sy'n derbyn canlyniadau heddiw. 

"Ar ôl dwy flynedd heb arholiadau, mae disgyblion wedi cael cyfle i ddangos yr hyn maen nhw wedi'i ddysgu drwy arholiadau ac asesu ac er nad oes modd cymharu'n uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol, mae'n galonogol gweld y cynnydd cyffredinol yn y graddau ar draws y ddinas ac i glywed am gymaint o straeon llwyddiant o bob cwr o'r ddinas.

"Mae'n bwysig cydnabod y garfan yma o ddisgyblion am y ffordd maen nhw wedi addasu a llwyddo er gwaethaf heriau a thrafferthion y ddwy flynedd ddiwethaf.  Boed nhw'n mynd ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth, rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."

Gwelodd Caerdydd dros 34600 yn cynnig ar gyfer TGAU eleni. Ymhlith y straeon llwyddiant sy'n dod i'r amlwg ledled y ddinas mae;

 

Ysgol Uwchradd Cantonian

Amirah Ali

 

Mae disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Cantonian yn dathlu eu canlyniadau TGAU heddiw gyda deilliannau rhagorol i'w disgyblion.

Meddai'r pennaeth, Diane Gill "Rwy'n hynod falch o gyflawniadau ein disgyblion heddiw gan eu bod wedi sicrhau canlyniadau arholiadau gwirioneddol eithriadol yn dilyn blwyddyn o darfu yn sgil pandemig Covid ac wrth wneud hynny, wedi llwyddo i gyrraedd eu targedau personol eu hunain. Dim ond drwy eu gwaith caled a'u hymrwymiad i'w hastudiaethau y bu hyn yn bosibl drwy eu cyfnod yn Cantonian a'r gefnogaeth a gawsant gan eu rhieni, eu gofalwyr a'u staff yn yr ysgol. Mae wedi rhoi pleser mawr i mi a'm staff allu dathlu'r canlyniadau hyn gyda'n holl ddisgyblion heddiw ac i ddymuno pob lwc iddyn nhw ar gyfer eu hastudiaethau yn y dyfodol. Mae llawer o'n disgyblion yn aros yn Cantonian i barhau â'u hastudiaethau i'r chweched dosbarth felly byddant yn parhau i fod yn rhan fywiog o gymuned ein hysgol dros y ddwy flynedd nesaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r holl staff addysgu a chefnogi am eu gwaith caled a'u hymroddiad sydd wedi helpu ein disgyblion i sicrhau'r canlyniadau eithriadol hyn".

Ysgol Uwchradd Fitzalan 

Rebecca Daniels Pennaeth Blwyddyn 11, Maria Shahrin, Cath Cummings Arweinydd Cyflawniad Disgyblion Bl 11

 

Mae staff Fitzalan a'r disgyblion wedi cyflawni set wych o ganlyniadau TGAU gyda bron i 30% o garfan Bl 11 yn sicrhau 5+ A* - A a bron i 65% yn cael 5+ o raddau A* - C (gan gynnwys Saesneg a Mathemateg).

Mewn datganiad gan yr ysgol, dwedodd llefarydd:  "Ar ôl y ddwy flynedd ddiwethaf, mae ein staff yn falch iawn bod yr ymrwymiad a'r cymhelliant a ddangoswyd gan bob disgybl wedi cael ei wobrwyo gan set mor eithriadol o ganlyniadau. Mae hyn wir yn dyst i'r gwaith caled a'r ymdeimlad o gred a rannwyd gan ein holl gymuned ac rydym yn amlwg wrth ein boddau.

"Rydym yn dymuno pob llwyddiant i'n holl ddisgyblion wrth iddynt gychwyn ar gam nesaf eu taith addysgol."

Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr

Mrs Thomas ac Alexi

 

Mewn datganiad gan John Hayes, Pennaeth yr ysgol:  "Llongyfarchiadau mawr i'n holl ddisgyblion Blwyddyn 11 sydd wedi perfformio'n arbennig o dda yn eu cymwysterau TGAU, BTEC ac Agored Cymru.   Mae'r canlyniadau rhagorol a gafwyd yn deyrnged i'w gallu, ymdrech, ymroddiad a dyfalbarhad dros y ddwy flynedd hynod heriol ddiwethaf i bawb.  Dymunwn yn dda i bob myfyriwr wrth iddynt symud ymlaen i'r cyfnod cyffrous nesaf yn eu bywydau.  Edrychwn ymlaen at groesawu nifer fawr o fyfyrwyr i'n 6ed dosbarth ym mis Medi.

"Diolch yn fawr iawn i'r holl staff sydd wedi gweithio'n ddiflino ar hyd y ddwy flynedd ddiwethaf wrth sicrhau bod ein disgyblion yn cael pob cyfle i lwyddo.  Da iawn bawb!"

 

Ysgol Gyfun Radur

Amelia Thomas

Mae disgyblion, rhieni a staff yn dathlu canlyniadau TGAU ardderchog yn Ysgol Gyfun Radur heddiw, gyda 74% gwych o'r disgyblion yn ennill 5 gradd A* - C yn cynnwys Mathemateg a Saesneg.

Mae Radur yn arbennig o falch gyda chyfran y disgyblion sydd wedi ennill o leiaf 5 gradd A/A*, sy'n ganran trawiadol o 43%. Cafodd 46 disgybl 5 gradd A* neu fwy, gyda 33 o'r rhain yn cael 8 neu fwy o raddau A*, 28 disgybl yn cael 10 neu fwy o raddau A* a 15 disgybl yn llwyddo i gael 12 neu fwy o raddau A*.

Ymhlith y canlyniadau mae perfformiadau nodedig yn cynnwys Evie Broome, Cerys Griffiths, Jasmine Nicholls, Luca Southworth ac Amelia Thomas, sydd i gyd wedi ennill 13 A* sy'n syfrdanol, ynghyd â rhagoriaeth mewn Mathemateg Ychwanegol. Camp anhygoel!

Dwedodd y pennaeth, Andrew Williams, "rydym wrth ein bodd â'r canlyniadau hyn, sy'n adlewyrchiad gwirioneddol o waith caled cyson ein staff a'n disgyblion.  Da iawn chi, blwyddyn 11, chi'n do dâ chlod llwyr i Radur, ac rydyn ni mor falch iawn ohonoch chi i gyd!" 


Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd

Derbyniodd bron i 800 o ddisgyblion Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd eu canlyniadau TGAU a galwedigaethol y bore yma ac maent yn destun balchder i'w hunain, i'w teuluoedd ac i'w hysgol. 

Dwedodd y Pennaeth, Mark Powell: "Llongyfarchiadau mawr i bob un o'r bobl ifanc hyn, carfan o ddisgyblion sydd wedi profi tarfu ar eu haddysg ers 2020 ond sydd wedi dyfalbarhau drwy'r cwbl. Bydd y wybodaeth, y sgiliau, y ddealltwriaeth a'r gwydnwch y maent wedi'u datblygu a'u dangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr o osod sail iddyn nhw ar gyfer eu dyfodol boed yn y chweched dosbarth yma, yn y coleg neu ym myd gwaith. Edrychwn ymlaen at groesawu llawer ohonynt yn ôl i'n chweched dosbarth ym mis Medi ac rydym yn dweud ffarwel gyda'n dymuniadau gorau oll i'r rhai sy'n ein gadael am borfeydd newydd. Llongyfarchiadau bawb!"

Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant 

Emma Spencer 12A*

Mae'r ysgol wedi gwneud yn dda iawn gydag ambell un yn profi llwyddiant unigol gwych yn ogystal ac wedi rhagori ar 2019 bron ym mhob maes. 

 

Ysgol Uwchradd Gatholig Mair Ddihalog

Mae disgyblion a staff Mair Ddihalog yn dathlu heddiw wrth i Ddosbarth 2022 dderbyn eu canlyniadau TGAU.   Llongyfarchiadau yn arbennig i'r disgyblion canlynol a gafodd y graddau uchaf ar draws yr ysgol. Y ferch i gael y canlyniadau gorau yn ei blwyddyn, yn ennill 12A* yw Leena Malik.

Mae'r bachgen i gael y canlyniadau gorau yn y flwyddyn, David Jula yn dathlu cyflawni 10 A/A* y bore 'ma.

Enillodd Georgie Avery, y Prif Ferch 8A* a 2A. Mae llwyddiannau nodedig eraill yn cynnwys Meera Narbad a gafodd 8A*, 2A ac 1B; Iustina Chirila yn cael 7A*, 5A ac 1C; enillodd Divine Kamden 7A*, 1A, 2B ac 1C; enillodd Reuben Eze 4A*, 5A ac 1B ac Ellen George sydd wedi gadael yr ysgol gyda gradd 5A*, 6A ac 1B. (O'r chwith i'r dde, Meera, Leena, Iustina ac Ellen) 

Dwedodd Mr Huw Powell, y Pennaeth "Rwy mor falch o'r hyn mae'r disgyblion wedi'i gyflawni er gwaethaf yr heriau maen nhw a'r holl ddisgyblion wedi eu hwynebu. Mae eu canlyniadau yn dyst i waith caled y disgyblion a'r staff a fu'n eu cefnogi; gyda'r canlyniadau hyn rwy'n gwybod y byddant yn mynd ymlaen i bethau gwych a'n gwneud ni a'u cymuned yn falch ohonynt.

Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd

Grŵp o bobl yn sefyll yn yr awyr agoredDescription automatically generated with low confidence

Dwedodd y Pennaeth, Martin Hulland: "Hyfryd oedd croesawu ein dysgwyr Blwyddyn 11 i'r ysgol heddiw i dderbyn eu canlyniadau TGAU.  Fel ysgol rydym yn falch iawn o'r canlyniadau ac mae ein myfyrwyr wedi dangos lefelau enfawr o wytnwch a gwaith caled yn wyneb heriau sylweddol yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Mae staff a myfyrwyr wedi gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod cyfleoedd clir gan ein myfyrwyr o'u blaenau. Dymunwn yn dda i'n holl fyfyrwyr ym Mlwyddyn 11 i'r dyfodol ac edrychwn ymlaen at groesawu llawer ohonynt yn ôl i'n chweched dosbarth ym mis Medi."

 

Ysgol Uwchradd Llanisien

Dywedodd y Pennaeth, Sarah Parry:  "Mae ein myfyrwyr TGAU wedi dangos penderfyniad ac ymroddiad anhygoel dros y misoedd diwethaf, ac rydym wrth ein boddau yn gweld cynifer yn cyflawni'r canlyniadau yr oeddynt wedi gobeithio amdanynt.  Rydym yn gwerthfawrogi bod y diffiniad o lwyddiant yn wahanol rhwng myfyrwyr unigol yn dibynnu ar eu nodau personol, ond credwn fod gan bob un o'n pobl ifanc rywbeth i ymfalchïo ynddo yn dilyn y canlyniadau hyn ac rydym yn falch o fod wedi gallu chwarae ein rhan yn hyn.

Llongyfarchiadau i Ben Lee ar ennill 14 TGAU A*/A. Mae Ben yn edrych ymlaen at astudio Lefel A mewn Mathemateg, Cemeg, Ffiseg a Bioleg ym mis Medi.

Llongyfarchiadau i'n 'Famous Five.'  Mae'r pump yma i gyd yn aelodau o'n Huned Nam ar eu Clyw. Sef Sam Ford, Grace Jones, Salma Abdillahi, Hamzah Ahmed a Maisarah Bodor. Fe gawson nhw ganlyniadau rhagorol a bydd y pump yn parhau i astudio Lefel A yn Llanisien fis Medi. Am dîm!

Beth Nesaf?
Mae cyfoeth o wybodaeth am addysg, cyflogaeth, hyfforddiant a chyfleoedd eraill ar gael mewn un lle ar gyfer pobl ifanc yng Nghaerdydd sy'n ystyried eu camau nesaf cyn diwrnod canlyniadau'r arholiadau yr wythnos hon.

Mae Beth Nesaf yn llwyfan ar-lein i bobl ifanc 16 i 24 oed sy'n dwyn gwybodaeth ddefnyddiol ynghyd mewn un lle a fydd yn helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf, gan ei gwneud yn gyflymach ac yn haws dod o hyd i wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael i'r dyfodol.

Cafodd y llwyfan ei ddatblygu a'i lansio'r llynedd gan Addewid Caerdydd, sef menter gan y Cyngor sy'n dwyn ynghyd ysectorau cyhoeddus a phreifat yn ogystal â'r trydydd sector i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion a darparwyr addysg i gysylltu plant a phobl ifanc ag amrywiaeth eang o gyfleoedd sydd ar gael ymmydgwaith. 

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am fynd i'r coleg neu'r brifysgol, paratoi ar gyfer gwaith, interniaeth, hyfforddeiaeth a chyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a phrentisiaethau a hyd yn oed gwybodaeth am ddechrau busnes newydd.

Mae animeiddiad byr am lwyfan Beth Nesaf ar gael i'w wylio yma  https://youtu.be/xncskRbUm2Q 

Ewch i'r llwyfan yma ynwww.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Canllaw gwella ysgolion 2022
Ym mis Mai 2022, lansiwyd yr Adnodd Cenedlaethol: Gwerthuso a Gwella gan Lywodraeth Cymru a'i fwriad yw cefnogi ysgolion gyda hunan-werthuso a gwella, sy'n sylfaenol i effeithiolrwydd ysgolion. Nod yr adnodd cenedlaethol hwn yw cefnogi pob ysgol i ddatblygu a defnyddio ystod o ddulliau ac adnoddau i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob dysgwr yng Nghymru. 

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y canllaw gwella ysgolion: fframwaith ar gyfer gwerthuso, gwella ac atebolrwydd.  Mae Categoreiddio Cenedlaethol, a chyhoeddi mesurau perfformiad ysgolion, Awdurdodau Lleol a Chenedlaethol wedi dod i ben, a bydd atebolrwydd yn cael ei gynnal drwy lywodraethiant ysgolion ac arolygon Estyn. Mae Estyn wedi gwneud newidiadau i'w ymagwedd arolygu mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys cyflwyno adroddiadau arolygu fydd yn gweld dileu graddau crynodol ac ychwanegu trosolwg allweddol o ganfyddiadau yn canolbwyntio ar gryfderau a meysydd datblygu'r ysgol. Mae eu fframwaith arolygu hefyd yn cefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru, o fis Medi 2022.

Yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru, mae canllawiau gwella ysgolion, a ddaeth i rym ar sail anstatudol o ddyddiad y cyhoeddi, yn nodi sut mae'n rhaid cynllunio trefniadau i asesu dilyniant fel rhan o'r cwricwlwm newydd, gyda'r gofynion bod pob ysgol yn eu cynnwys ar gyfer pob dysgwr: asesiad parhaus gydol y flwyddyn ysgol er mwyn asesu cynnydd; nodi'r camau nesaf sydd ar y gweill; ac asesiad o'r dysgu a'r addysgu sydd ei angen er mwyn helpu i sicrhau'r cynnydd hwnnw.