Back
Un o’n prif drysorau, Storey Arms, yn estyn croeso i ferched ifanc o Wcráin

23.08.22
Bu canolfan addysg awyr agored Storey Arms Cyngor Caerdydd ym Mannau Brycheiniog yn gartref i grŵp o ffoaduriaid Wcrainaidd o bob cwr o dde Cymru fel rhan o raglen a gynlluniwyd i roi sgiliau arwain i bobl ifanc.

Mae'r ganolfan, sy'n cynnal cyrsiau preswyl a dydd i bobl ifanc drwy gydol y flwyddyn, wedi helpu cenedlaethau o blant i ddarganfod rhyfeddodau cefn gwlad Cymru ers ei sefydlu dros 50 mlynedd yn ôl.

Ym mis Awst, yn ystod gwyliau'r ysgol, cynhaliodd gyrsiau tair wythnos o hyd i Glybiau Rotari ar draws de Cymru. Bu tua 70 o bobl ifanc, rhwng 16 a 17 oed dan nawdd raglen Arweinyddiaeth Ieuenctid y Clybiau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys dringo Pen-y-Fan, ogofa, cerdded ceunentydd, canŵio ac adeiladu eu cychod eu hunain i badlo ar hyd Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy.

Er yr oedd y rhan fwyaf o'r bobl ifanc yn dod o Dde Cymru, roedd rhai'n dod o Loegr a phump yn ffoaduriaid o Wcráin, ac yn byw yng Nghymru gyda'u teuluoedd noddedig.

Dywedodd Wayne Morgan, Llywodraethwr Ardal y Clybiau Rotari, fod y cyrsiau wedi bod yn llwyddiant ysgubol. "Roedd yn bleser ac yn fraint cael ymuno â’r staff a’r myfyrwyr ar ddau o'r tri chwrs," meddai. "O ganlyniad, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y staff ar waith, yn cyfarwyddo, rheoli, annog a rhianta yn ystod y gweithgareddau a chyda'r nos wrth orffwys a chwarae. O safbwynt y Rotari, y ganolfan yw'r prif drysor ar gyfer ein gweithgareddau arwain."

Dywedodd Andy Meek, pennaeth Storey Arms, fod y tri chwrs wedi bod yn llwyddiant mawr. "Roedd pawb yn cyd-dynnu'n wych ac wrth eu boddau gyda'r gweithgareddau. Cafodd yr holl lety, prydau bwyd ac offer eu darparu a doedd dim cost o gwbl i'r bobl ifanc ddaeth draw - roedden nhw i gyd wedi eu noddi gan y Clybiau Rotari, sy'n gwneud gwaith anhygoel."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg Cyngor Caerdydd: "Er ei fod wedi'i leoli ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae Storey Arms wedi bod yn rhan bwysig o dirwedd addysg y ddinas ers amser maith. Mae cenedlaethau o blant ysgol wedi cael eu blas cyntaf ar yr awyr agored drwy'r anturiaethau a ddarparwyd gan y staff yma.

"Gyda newidiadau pwysig i'r cwricwlwm yng Nghymru ar droed, mae'n amlwg y bydd y ganolfan yn parhau i chwarae rhan allweddol yn addysg ein disgyblion."

Nodiadau i Olygyddion

Yn eiddo i'r Cyngor, mae Storey Arms wedi bod yn gweithredu fel canolfan addysg awyr agored ers 1971. Mae'n cyflogi 10 aelod o staff ac mae ganddo gysylltiadau â mwy na 40 o ysgolion yng Nghaerdydd, gan gynnwys y rhai sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, sydd rhyngddynt yn anfon tua 4,000 o ddisgyblion y flwyddyn yno ar amrywiaeth o gyrsiau allanol. Caiff ei ariannu trwy'r incwm y mae'n ei gynhyrchu o'r cyrsiau y mae'n eu darparu i sefydliadau sy'n cynnwys awdurdodau addysg ledled y DU, Cynllun Gwobr Dug Caeredin a grwpiau elusennol eraill.