Back
Gwaith ar fflatiau cyngor arloesol i bobl hŷn yn cyrraedd carreg filltir

15.08.22
Mae un o'r datblygiadau tai mwyaf arloesol yng Nghaerdydd ar fin cael ei gwblhau ar safle hen Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Nhredelerch.

Ar safle uchel gyda golygfeydd trawiadol dros Fôr Hafren i'r de a Bannau Brycheiniog i'r gogledd, bydd datblygiad newydd Llwyn Aethnen yn creu dros 200 o gartrefi carbon isel mewn camau cyn haf 2024.

Wedi'i adeiladu drwy’r rhaglen Cartrefi Caerdydd, partneriaeth ddatblygu rhwng Cyngor Caerdydd a Wates Residential, mae'r cynllun wedi elwa o fwy na £4m o gyllid Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru a fydd yn helpu i greu 65 o gartrefi cyngor newydd, gan gynnwys cymysgedd o 21 o dai dwy, tair a phedair ystafell wely.

Ond elfen fwyaf arwyddocaol y safle yw Tŷ Addison, bloc pedwar llawr sy'n cynnwys 44 o fflatiau un a dwy ystafell wely a gynlluniwyd i fodloni anghenion pobl hŷn a'r cyntaf o 10 o ddatblygiadau 'Byw yn y Gymuned' i'w hadeiladu ledled y ddinas fel rhan o Strategaeth Tai Pobl Hŷn Cyngor Caerdydd.

Yr wythnos hon, cynhaliodd y cyngor a'r datblygwyr seremoni 'gosod y garreg gopa' i nodi cwblhau pwynt uchaf y bloc. Y disgwyl yw y bydd y fflatiau’n cael eu cwblhau ac yn barod i denantiaid fis Gorffennaf nesaf.

Ar ôl gorffen, bydd y bloc yn darparu fflatiau eang, hygyrch ac addasadwy i bobl hŷn, gan hyrwyddo byw'n annibynnol.  Mae pedair fflat yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn gyda dau o'r rheini’n elwa o addasiadau ychwanegol, fel unedau cegin 'codi a disgyn', sy’n cael eu gosod o'r dechrau. Bydd yr adeilad Byw yn y Gymuned hefyd yn darparu ystod o gyfleusterau cymunedol gan gynnwys dwy lolfa, teras to sy'n edrych dros Fôr Hafren, ystafell feddygol a gardd gymunedol fawr, ac ystafell westeion. Tra'n rhoi cyfle i drigolion gymdeithasu, bydd hefyd yn ganolfan o wasanaethau i bobl hŷn sy'n byw yn y gymuned ehangach.

Y tu mewn i'r holl eiddo ar yr ystâd newydd bydd arloesiadau ecogyfeillgar gan gynnwys pympiau gwres o’r ddaear, gwresogi dan y llawr, silindrau dŵr poeth clyfar, paneli solar, storfa batris, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a system rheoli ynni ddeallus a ddarperir gan y cwmni ynni cynaliadwy o Gaerdydd, Sero, a fydd yn caniatáu i gartrefi fod yn annibynnol o'r Grid Cenedlaethol ar adegau prysur, gan leihau biliau trydan.

O amgylch yr ystâd, mae palmentydd a dreifiau’n cynnwys SDCau (systemau draenio trefol cynaliadwy) tra bod rhwydwaith o goed yn cael ei blannu i gynnig cysgod mewn tywydd poeth.

Er mwyn helpu i ariannu'r gwaith o adeiladu’r eiddo cyngor, mae 143 o'r cartrefi'n cael eu gwerthu'n breifat gan Wates, tra bydd chwech arall yn cael eu cynnig i'w gwerthu ar sail rhannu ecwiti drwy Cartrefi Cyntaf Caerdydd, gyda 70% o'r gost yn cael ei dalu gan y prynwr a 30% yn cael ei gadw gan y cyngor.

Mynychodd y Cynghorydd Lynda Thorne, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y seremoni 'gosod y garreg gopa' yr wythnos ddiwethaf a dywedodd ei bod yn falch iawn o'r cynnydd a wnaed ar Dŷ Addison – a enwyd ar ôl yr Is-iarll Addison, y gwleidydd a arweiniodd yr ymdrech i adeiladu tai cyngor ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. "Mae'r fflatiau hyn yn rhan allweddol o'n cynllun i ddarparu 4,000 o gartrefi cyngor newydd yng Nghaerdydd - y nifer fwyaf o unrhyw gyngor yng Nghymru," meddai.

"Fe fyddan nhw - a'r eiddo eraill ar y safle yma - yn cael effaith enfawr ar safon tai yn y ddinas a bydd y fflatiau'n gyfle i denantiaid cyngor y mae eu teuluoedd wedi tyfu i fyny a gadael cartref symud i eiddo llai, gan ryddhau cartrefi i deuluoedd sydd ar y rhestr aros.

"Maen nhw hefyd yn gweddu’n berffaith i’n strategaeth i fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030 ac yn ymgorffori ymrwymiad Cryfach, Tecach, Gwyrddach y cyngor, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr arweinydd."

Ychwanegodd Edward Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wates Residential: "Mae seremonïau gosod y garreg gopa yn mynd yn ôl ganrifoedd ac yn gam pwysig mewn proses adeiladu.

"Mae Tŷ Addison wedi cael ei ddylunio'n benodol ar gyfer pobl sy'n agosáu at -neu wedi cyrraedd - oedran ymddeol, ac mae popeth wedi cael ei ystyried i fodloni eu holl anghenion.

"Yn fuan, bydd y cartrefi modern hyn yn barod a gall pobl elwa o'r technolegau diweddaraf a fydd yn lleihau defnydd o ynni a biliau. Allwn ni ddim aros i'w croesawu nhw yma."

Nodiadau i’r golygyddion:

Mae Tŷ Addison yn un o 10 adeilad 'Byw yn y Gymuned' newydd sy'n cael eu darparu drwy raglen adeiladu tai Cyngor Caerdydd i greu tai cyngor pobl hŷn hygyrch a hyblyg ledled y ddinas. Bydd y 10 adeilad newydd yn darparu tua 600 o fflatiau newydd, ac yn gweld y cyngor yn buddsoddi tua £150m mewn llety i bobl hŷn. 

Egwyddor adeilad 'Byw yn y Gymuned' yw nid yn unig darparu fflatiau pobl hŷn modern, deniadol sy'n fwy hygyrch ac sy'n gallu addasu i anghenion newidiol person - gan gael gwared ar yr angen am fân addasiadau - ond hefyd weithredu fel canolbwynt ar gyfer gwasanaethau pobl hŷn, nid yn unig i drigolion yr adeilad ond hefyd y gymuned ehangach. Mae pob cynllun yn cynnwys ystafelloedd hyblyg y gellir eu defnyddio i gynnig gwasanaethau trwy dimau'r cyngor a hefyd bartneriaid eraill fel y bwrdd iechyd lleol. Y bwriad yw sicrhau bod preswylwyr yn gallu parhau i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain ac, os oes angen cefnogaeth arnynt wrth iddyn nhw dyfu'n hŷn, gellir cynnig hyn trwy'r gwasanaethau a'r staff sydd wedi'u lleoli yn yr adeilad.