Ers y cadarnhad y
byddai'r DU yn cynnal Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023, mae Cyngor Caerdydd,
Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality wedi bod yn gweithio ar gyflymder i
sefydlu dichonoldeb cais i gynnal y digwyddiad ym mhrifddinas Cymru.
Byddai hanes cryf
iawn Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau mawr, a Stadiwm Principality sydd o'r
radd flaenaf, wedi gweddu’n naturiol ar gyfer cynhyrchiad mor sylweddol.
Mae'r BBC, fel trefnwyr
y digwyddiad, wedi cyhoeddi manylebau manwl ar gyfer pob dinas sy'n dymuno
gwneud cais i gynnal y digwyddiad. Fel partneriaid, rydym wedi bod yn gweithio
drwy'r rhain yn fanwl. Mae'n amlwg o ran sawl un o’r rhain, y byddai gan
Gaerdydd ddadl gref dros ddod yn ddinas sy'n cynnal cystadleuaeth yr Eurovision
ar gyfer 2023.
Fodd bynnag, mae
cymhlethdod llwyfannu'r digwyddiad yn golygu y byddai'n rhaid canslo nifer
sylweddol o ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu yn Stadiwm Principality yn ystod Gwanwyn
2023 o ganlyniad. Mae'r rhain yn cynnwys Pencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn
Ewrop, ‘The Road to Principality’, digwyddiad allweddol yng nghalendr rygbi
Cymunedol URC, ac artist rhyngwladol o bwys a gontractiwyd i ymddangos, ymhlith
digwyddiadau eraill.
Rydym wedi bod yn
trafod yn gyflym gyda'r BBC i archwilio unrhyw opsiynau posibl a allai fod wedi
gallu darparu ar gyfer y digwyddiad ochr yn ochr â'r amserlen bresennol. Yn
anffodus, nid ydym wedi gallu dod o hyd i ateb ymarferol, ac felly rydym wedi
cytuno ar y cyd na fydd yn bosibl i gais Caerdydd fynd yn ei flaen. Rydym yn
diolch i'r BBC am ymgysylltu’n gadarnhaol â ni, ac rydym yn dymuno’r gorau i'r
ddinas fuddugol wrth lwyfannu cystadleuaeth 2023.