Back
Mae Canolfan Microsoft Llundain yn cynnal ymweliad gan bobl ifanc Caerdydd

3/8/2022

A group of people at a conferenceDescription automatically generated with low confidence

Mae 10 o bobl ifanc o bob cwr o Gaerdydd wedi cael gwahoddiad i Ganolfan Microsoft yn Llundain. 

 

Mae'r grŵp, rhwng 13-17 oed, wedi bod yn rhan o ddatblygu'r gwasanaethau ar-lein i Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd ac wedi cymryd rhan mewn gweithdai codio a rhaglennu a drefnwyd gan Addewid Caerdydd. 

 

Yn ystod y profiad dysgodd y grŵp fwy am godio, Minecraft a'r math o swyddi o fewn y diwydiant.  Buont hefyd yn ymweld â thirnodau eiconig Llundain fel Palas Buckingham a Big Ben.

 

I nifer o'r grŵp, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymweld â Llundain ac am un dyma'r tro cyntaf erioed iddyn nhw adael Caerdydd. 

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i:www.cardiffyouthservices.wales/cy/

 

Addewid Caerdydd yw menter Cyngor Caerdydd sy'n dwyn ynghyd y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector mewn partneriaeth, ag ysgolion a darparwyr addysg, er mwyn cysylltu plant a phobl ifanc â'r ystod helaeth o gyfleoedd sydd ar gael ym myd addysg, hyfforddiant a byd gwaith. Am ragor o wybodaeth ewch iwww.addewidcaerdydd.co.uk