Back
Baner Werdd newydd i barc yng Nghaerdydd yn codi’r cyfanswm i 16

Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cyhoeddi bod 16 o Faneri Gwyrdd wedi'u dyfarnu i barciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.

Parc Llyn Hendre yn Nhredelerch yw'r parc diweddaraf i ennill y dyfarniad rhyngwladol mawr ei fri, sy'n cael ei gyflwyno gan arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol drwy farnu yn erbyn ystod o feini prawf cadarn gan gynnwys bioamrywiaeth, cyfranogiad y gymuned, glendid a rheolaeth amgylcheddol.

Gyda 19% o'r ddinas yn fannau gwyrdd hygyrch i'r cyhoedd, mae Caerdydd yn gartref i safleoedd baner werdd hyfryd. Gwnaed cyfanswm o 35 o ddyfarniadau.

Dyma'r rhestr lawn o fannau gwyrdd a reolir gan Gyngor Caerdydd sydd wedi ennill statws y Faner Werdd:

  • Parc Bute
  • Morglawdd Bae Caerdydd
  • Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd
  • Mynwent Cathays
  • Ynys Echni
  • Fferm y Fforest
  • Gerddi'r Faenor
  • Parc Hailey
  • Parc y Mynydd Bychan
  • Parc Llyn Hendre
  • Parc Cefn Onn
  • Parc y Rhath
  • Gerddi Bryn Rhymni
  • Mynwent Draenen Pen-y-graig
  • Parc Fictoria
  • Gerddi Waterloo 

 

Cadwodd Parc Bute a Mynwent Cathays hefyd u statws Treftadaeth Werdd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke-Davies:  "Mae'r ffaith bod gan Gaerdydd fwy o fannau Baner Werdd nag  unrhyw le arall yng Nghymru yn dyst i waith caled, angerdd ac ymrwymiad ein timau, a'r holl grwpiau Cyfeillion a gwirfoddolwyr sy'n helpu i ofalu am ein mannau gwyrdd gwych.

"Profodd y pandemig cymaint y mae mynediad at fannau gwyrdd yn cael ei werthfawrogi, ac rydym yn benderfynol, dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni weithio i wneud Caerdydd yn gryfach, yn decach ac yn wyrddach, y byddwn yn darparu hyd yn oed mwy o barciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel, yn enwedig mewn rhannau o'r ddinas lle mae amddifadedd ar ei uchaf."

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd: "Mae'r pandemig wedi dangos i ni mor bwysig mae parciau a mannau gwyrdd o ansawdd uchel i'n cymunedau. Gyda mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn longyfarch y staff a'r gwirfoddolwyr yng Nghaerdydd sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y 35 safle a ddyfarnwyd - mae 16 o'r safleoedd anhygoel hyn, gan gynnwys Mynwent Cathays, Parc Fictoria a Llyn Hendre sydd newydd ei ddyfarnu, yn cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd."

Cyflwynir rhaglen Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru gan yr elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus www.keepwalestidy.cymru