Back
Yr Arglwydd Faer sy'n gadael yn myfyrio ar ei gyfnod yn y swydd

26.05.22
Pan groesawodd Arglwydd Faer Caerdydd y Dywysoges Anne i Stadiwm Principality ar achlysur gêm rygbi Cymru-Yr Alban fis Chwefror gallai'r trews tartan a wisgai fod wedi codi ael brenhinol.

Ond i'r Cynghorydd Rod McKerlich, rhoddodd y gêm gyfle iddo ddangos ei deyrngarwch deuol. Yn Albanwr balch ac yn un o drigolion balch Caerdydd, roedd yn ei elfen ar y diwrnod hwnnw, un o lawer y mae wedi'i fwynhau yn ystod ei gyfnod yng ngwisg y maer.

"Roedd yn amser gwych yn y rygbi," meddai Rod, "a rhoddodd gyfle i mi fyfyrio ar y cysylltiadau cryf sydd gan Gaerdydd â'r Alban, drwy deulu Bute a greodd gymaint o'r hyn rydyn ni'n ei adnabod fel Caerdydd erbyn hyn."

Etholwyd Rod yn wreiddiol i'r cyngor yn 2008 ar ôl gyrfa lwyddiannus ym myd busnes.  Ar ôl byw yn Radur ers 1974, ac ar ôl gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol, capten y clwb golff lleol, cadeirydd y clwb tennis ac is-gadeirydd y clwb criced, roedd yn benderfyniad hawdd i sefyll yn ward Radur a Phentre-poeth.

Mae wedi dal y sedd i'r Ceidwadwyr yn barhaus ers hynny ond wedi sefyll i lawr yn yr etholiad eleni a phan fydd yn trosglwyddo dyletswyddau'r Arglwydd Faer heno (Mai 26) daw hynny â'i ddyletswyddau dinesig i ben.

"Rwy'n 77 nawr a phetawn i wedi cael fy ethol y tro hwn byddwn wedi bod yn 82 yn yr etholiad nesaf," meddai.  "Rwy'n credu y byddai hynny'n rhy hen i mi, er fy mod i mewn iechyd da nawr.

"Rwyf wedi cael 18 mis fel maer, diolch i'r pandemig," meddai, "ac roedd yn hynod bleserus ac yn anrhydedd mawr. Rydym wedi codi swm rhesymol o arian i Gymdeithas Alzheimer's Cymru ond, wrth gwrs, ni chynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau codi arian lle byddai cyfle i gwrdd â rhoddwyr.

"Serch hynny, cefais y fraint fawr o weld y gwaith sy’n cael ei wneud ar Glefyd Alzheimer ym Mhrifysgol Caerdydd, un o saith prif ganolfan ymchwil yn y gwledydd hyn.

"Ac rydym wedi cael llawer o gefnogaeth gan holl gymunedau Caerdydd.  Ar un diwrnod ym mis Tachwedd mynychais wasanaeth coffa, yna es i ymweld â mosg ac yn olaf i ddathlu Diwali gydag aelodau o gymuned Hindŵaidd y ddinas.

"Roedd hyn, i mi, yn nodweddu’r hyn sydd mor wych am Gaerdydd – ei hamrywiaeth. Mae cwrdd â chymaint o bobl o bob rhan o Gaerdydd wedi bod yn uchafbwynt gwirioneddol i mi yn ystod fy nghyfnod fel maer – ynghyd â chyfarfod â'r Frenhines yn agoriad y Senedd – ac mae wedi bod yn hyfryd eu bod i gyd wedi bod yn falch o weld aelod o'r cyngor."

Un agwedd ar ei waith na fydd yn ei cholli yw gweinyddu adeg pleidleisio yn ystod cyfarfodydd y cyngor. "Oherwydd y pandemig fe'u cynhaliwyd o bell," meddai, "a chyfrifwyd y pleidleisiau drwy alw'r gofrestr. Roedd hynny'n cymryd 10 munud bob tro."

Am y tro, fodd bynnag, ei flaenoriaeth gyntaf yw egwyl yn ei Alban enedigol gyda'i wraig Sue. "Byddwn yn mynd i Ynys Bute i gael golwg ar Mount Stuart House, cartref Ardalydd Bute."