Back
Mark yn esiampl lluosflwydd gwydn iawn wedi 50 mlynedd yn gofalu am barciau Caerdydd

26.04.22
Roedd adeg pan oeddem i gyd yn gobeithio bod mewn swydd am oes ond faint all honni heddiw eu bod wedi gweithio i'r un cyflogwr – gan wneud mwy neu lai yr un tasgau – am y 50 mlynedd diwethaf?

Yn camu ymlaen mae Mark West, neu 'Westy', sydd newydd ddathlu 50 mlynedd ers dechrau gweithio yn adran Parciau Cyngor Caerdydd.

Bellach yn 65 ifanc a gweithgar o hyd, efallai ei fod wedi tynnu ei droed oddi ar y sbardun ychydig ers ei ddyddiau yn arddwr dan hyfforddiant 15 oed, ond er ei fod bellach ond yn gweithio ddau ddiwrnod a hanner yr wythnos fel goruchwyliwr gwaith, mae'n dal i dreulio mwyafrif helaeth ei amser yn meithrin ystod drawiadol Caerdydd o barciau a gerddi.

"Rwy'n credu fy mod y tu allan am efallai 90% o'r amser," meddai Mark, gan gymryd hoe tra’n gofalu am y gwelyau blodau ym Mharc Bute. "Ac mae hynny lawer yn well gen i. Rwy’ wedi bod wrth fy modd gyda'r swydd hon o'r diwrnod y dechreuais hi ar £7 yr wythnos ac rwy'n dal i'w charu hi yr un faint nawr."

Fodd bynnag, gallai pethau fod wedi bod mor wahanol.  Ar ôl gadael yr ysgol yng Nghaerffili, daeth ei dad o hyd i swydd iddo yn y Ffatri Ordnans Frenhinol yng Nghaerdydd lle roedd yntau’n gweithio, am £18 yr wythnos, ond roedd yn well gan y Mark ifanc flodau'r haul i'r powdr gwn a dewisodd yn lle hynny weithio ar safle’r adran Barciau yn Llanisien, ychydig i lawr y ffordd.

"Roedden ni’n tyfu llwyni a phlanhigion eraill ar gyfer holl barciau a gerddi Caerdydd yno," meddai Mark, "ac roedd yn lle i gadw offer y cyngor hefyd. Roeddwn i yno am ddwy flynedd ac yna symud i Heol Wedal... ac rwy'n dal i fod wedi fy lleoli yma."

Gweithiodd ei ffordd i fyny i fod yn brif arddwr ym Mharc Bute ond 25 mlynedd yn ôl daeth rôl y goruchwyliwr yn wag ac fe'i dyrchafwyd. Mae ei gylch gwaith bellach yn dal i gynnwys y dirwedd ysblennydd hon yng nghanol Caerdydd ond mae hefyd yn cynnwys Gerddi'r Orsedd, Parc Cathays, y Ganolfan Ddinesig ac eraill.

Mewn 50 mlynedd mae wedi gweld newidiadau dirifedi ond nid yw'r llwyth gwaith wedi lleddfu – y Gwanwyn hwn bydd ganddo 40,000 o blanhigion i’w plannu ar draws yr ystâd er mwyn sicrhau bod calon werdd Caerdydd mor ysblennydd ag erioed.

Dywedodd Jon Maidment, rheolwr Mark a’r Rheolwr Gweithredol dros Barciau, Chwaraeon a’r Awdurdod yr Harbwr: 'Mae'n aelod uchel ei barch a gwerthfawr iawn o dîm y Parciau.  Nid yw ei frwdfrydedd dros y gwasanaeth a'i ymrwymiad iddo wedi gwywo gyda’r blynyddoedd, ac mae'n fodel rôl a ffynhonnell ysbrydoliaeth i eraill.''

A yw'n bwriadu parhau, y tu hwnt i'w oedran ymddeol 'swyddogol'?  "Roeddwn i'n mynd i ymddeol pan oeddwn i'n 65 oed ym mis Ionawr ond fe ddaeth hwnnw a mynd," meddai. "Felly rwy'n edrych ar fis Gorffennaf... neu fis Ionawr nesaf.  Y drafferth yw, rwy'n mwynhau fy ngwaith ormod. Hyd yn oed pan nad ydw i'n gweithio rwy'n gofalu am fy ngardd gartref yn Y Ddraenen felly pan fydda i'n gorffen o'r diwedd, fydda i ddim yn seguro ar y soffa."

Marc yn gryno...

  •  Hoff blanhigyn/coeden/llwyn.... y rhododendron
  • Hoff ardd Caerdydd... Parc Bute
  • Arwr/ysbrydoliaeth garddio... Geoff Hamilton
  • Cyngor da i ddechreuwyr... gofynnwch gymaint o gwestiynau â phosibl
  • Erfyn mwyaf hanfodol ar gyfer garddwr... mae gan yr hof wthio lawer o ddefnyddiau
  • Gwrthwynebydd/chwyn anoddaf... taglys neu lysiau’r gymalwst