Back
Caerdydd wedi’i henwi’n un o'r dinasoedd gorau yn y DU

10.3.22

Mae Caerdydd wedi dod i'r amlwg fel un o'r dinasoedd gorau yn y DU i fyw a gweithio ynddi, yn ôl adroddiad newydd dylanwadol.

Mae hefyd wedi'i nodi fel y ddinas sy'n gwella gyflymaf yn y wlad gan sgorio'n uchel mewn meysydd fel swyddi, incwm ac iechyd, gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael ei chanmol hefyd.

Mae arolwg blynyddol y cwmni cyfrifyddiaeth PwC, Twf Da i Ddinasoedd 2021, a luniwyd gyda chymorth y felin drafod Demos, yn rhestru Caerdydd fel 14eg yn y DU allan o 50 o ddinasoedd ac ar y blaen i ganolfannau mawr fel Caeredin, Abertawe, Aberdeen, Coventry a Stoke.

Y llynedd, cafodd Caerdydd ei gosod yn 27ain ond mae cymariaethau tebyg at ei debyg yn anodd oherwydd am y tro cyntaf mae'r arolwg wedi ystyried dau fesuriad newydd o lwyddiant economaidd – diogelwch a bywiogrwydd strydoedd mawr – ar ôl cydnabod y rhain fel blaenoriaethau cynyddol i bobl yn y cyfnod ar ôl y pandemig.

Mae ffactorau eraill yn cynnwys:

  • Dosbarthu incwm
  • Iechyd
  • Cydbwysedd gwaith a bywyd
  • Trafnidiaeth, a
  • Thai

Esboniodd Carl Sizer, o PwC: "Mae'r pandemig wedi sbarduno newid eang mewn blaenoriaethau cyhoeddus - mae pobl eisiau bod yn fwy cysylltiedig â'u cymunedau a byw mewn mannau gwyrddach a thecach. Mae'r newid hwn wedi arwain at newid yn y ffordd a'r lle y mae pobl yn byw ac yn gweithio – gan newid cyfansoddiad economi'r DU, a ffurf rhagolygon twf ar gyfer pob dinas a rhanbarth ledled y wlad.

"Er ei bod yn anodd bod yn fanwl gywir ynglŷn â'r graddau y mae'r pandemig wedi sbarduno'r newidiadau hyn, mae'n rhesymol dadlau bod y ffordd yr ydym i gyd wedi bod yn byw dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ynghyd â hyder cymharol gryf yn y farchnad gyflogaeth, wedi achosi i gyfran o'r boblogaeth fyfyrio ar y pethau y maent yn eu gwerthfawrogi."

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, ei fod wrth ei fodd bod gwaith Caerdydd ar wella'r amgylchedd, gan gynnwys ei strategaeth Caerdydd Un Blaned, yr agenda polisi Gwyrddach, Tecach a Chryfach, sydd wedi gweld buddsoddiad mewn prosiectau a fyddai o fudd i Gaerdydd a thu hwnt, gan dalu ar ei ganfed. Dywedodd: "Bwriad popeth a wnawn fel Cyngor, wrth gwrs, yw gwneud y ddinas yn lle gwell i fyw a gweithio i bawb. Mae'n braf gweld y gwaith hwnnw'n cael ei gydnabod gan ffynonellau annibynnol a gweld Caerdydd yn dringo i fyny'r rhengoedd."

Yn ei arolwg, mae PwC yn tynnu sylw at ffocws Caerdydd ar bartneriaethau'r sector preifat a'r ffaith bod gweithlu'r ddinas wedi tyfu mwy nag 20% yn y 10 mlynedd cyn y pandemig - tua 5,000 o swyddi newydd y flwyddyn. "Mae hynny'n gyfradd gyflymach na phob un ond un o'r dinasoedd craidd yn yr adroddiad," meddai.

Mae Caerdydd yn cael ei hadnabod fel y ddinas sy'n gwella gyflymaf yn y wlad ar ôl sgorio'n dda mewn meysydd allweddol fel swyddi, incwm ac iechyd. Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd, sy'n cynnwys awdurdodau cyfagos, yw un o'r ardaloedd sy'n gwella gyflymaf, sy'n perfformio'n well nag ardaloedd fel Bae Abertawe a Manceinion Fwyaf.

Cytunodd y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi a Datblygu, mai her y ddinas yn awr yw rhannu'r cyfleoedd o amgylch a datblygu cymunedau cynaliadwy sy'n adeiladu gweithlu ar gyfer y dyfodol.

"Mae popeth rydyn ni'n ei wneud nawr o ran y datblygiadau newydd cyffrous rydyn ni eisiau eu creu ledled Caerdydd i fod nid yn unig i gynyddu nifer yr ymwelwyr sy'n dod i'r ddinas bob blwyddyn ond i greu swyddi ystyrlon i'r bobl yn y cymunedau hynny," meddai.