Back
Gwirfoddolwyr ifanc: Straeon Ysbrydoledig

Mae ein partneriaid ledled y ddinas yn rhannu eu hanesion am bobl ifanc yn ymdrechu i’r eithaf, yn ystod y pandemig

05.07.2021

 

Mae Heddlu De Cymru yn dweud wrthym am y bobl ifanc o Gynllun Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu y mae pob un ohonynt wedi cyflawni rhywbeth anhygoel eleni.

 

Maent wedi parhau'n gadarnhaol, yn benderfynol ac wedi ceisio cyflawni'r gorau drostynt eu hunain ac eraill.

 

Dyma stori Caty:

 

Mae Caty, 21, o Lan-yr-afon, yn Arweinydd Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu ar ôl ymuno â HUB Gwirfoddolwyr Ieuenctid Heddlu Gorllewin Caerdydd yn Ysgol Uwchradd Fitzalan pan gafodd ei sefydlu gyntaf. 

 

Mae Caty yn fenyw ifanc ysbrydoledig sydd wedi cyfuno ei gwirfoddoli gyda Gwirfoddolwyr Ieuenctid yr Heddlu wrth astudio ar gyfer gradd seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd yn ogystal â chwblhau lleoliad gwaith mewn cartref preswyl i bobl â salwch meddwl acíwt. 

 

Mae hi hefyd wedi gwirfoddoli gyda Victim Focus, ac arferai fod yn Wirfoddolwr Myfyrwyr, wedi codi arian ar gyfer Help for Heroes - gan gynnwys naid parasiwt - yn ogystal â bod yn rhan o ymgyrchu dros y WWF a'r RSPB.

 

Drwy gydol y pandemig, mae Caty wedi ceisio cynorthwyo eraill - mae wedi paratoi nifer o gyflwyniadau ar gyfer Gwirfoddolwyr Ieuenctid eraill yr Heddlu ar sgiliau arsylwi, iechyd meddwl, lles ac ymwybyddiaeth ofalgar.  Mae Caty hefyd wedi cynhyrchu canllaw byr ar ymwybyddiaeth ofalgar a gyhoeddwyd ac sydd ar gael ar Amazon. 

 

Mae Caty yn meddu ar benderfyniad, deallusrwydd a pharodrwydd helaeth i wirfoddoli a chynorthwyo eraill. Gellir gweld hyn yn y gwirfoddoli a gwblhaodd gyda Victim Focus gan gysylltu â dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Mae Caty wedi penderfynu ar yrfa mewn plismona yn y dyfodol ac wedi dangos diddordeb yn y Rhaglen Ditectif Mynediad Uniongyrchol i Raddedigion.

 

Roedd ei gwirfoddoli hefyd yn cynnwys gweithio gyda CID Canol Caerdydd lle bu'n cynorthwyo i baratoi achos yn erbyn diffynnydd sy'n gyfrifol am drosedd ddifrifol. 

 

Adolygodd Caty nodiadau meddygol dros nifer o wythnosau er mwyn cael tystiolaeth gefnogol ychwanegol a fyddai yn y pen draw yn arwain at gollfarn yn y Llys. 

 

Gall Caty siarad Cymraeg, Saesneg, Portiwgaleg a Sbaeneg ac mae wedi gosod y dasg o ddysgu Mandarin iddi hi ei hun.  Yn ddiweddar lluniodd gerdd, yn Saesneg, gan godi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll o'r enw Lives Lost.

 

 

 

Lives Lost

A typical night in town,

Takes an unexpected turn,

Down the left alley,

Blue lights, crowds cornering the exits.

You ask a passer-by

Stopping to ask the very same thing

To the next... and the next...

Whispers from one to another

Each with their own story

But you know in your gut

That someone isHurt.

Stabbed.

 

Sirens around the corner

The ambulance arrives.

The crowds look on

With their phones

Callingsomeone

Theirloved one.

While Paramedics try to save

 Someone.

A Sister.

A Son.

Another Life Lost.

 

Who were they?

What could they have become?

 

The next day what happened last night

Meets the media.

 Cardiff stabbing.

Stabbing.

A few months later

Another Life Lost.

AnotherDaughter.

AnotherLife.

 

Behind the scenes

Officers working long hours

Looking at every lead

Interviewing witnesses

Collecting evidence

Analysing Reviewing

Putting together a case

Supporting family members

Compiling a suspect list

Interviewing suspects

Charging if there is enough evidence

Hoping for justice

 

The Work never stops.

The Fight continues.

Lives Lost.

Let Us put an end to knife crime.

Working together for

  OurFuture.

 

 ️ Gall pobl ifanc hefyd gael mynediad at gyfres o gymorth a chyngor o gymwysterau i iechyd meddwl, drwy ymweld ag un o'r gwefannau canlynol:

 

👉 https://hwb.gov.wales

 

👉 https://www.cbac.co.uk/home/cefnogi-athrawon-a-dysgwyr-coronafeirws/eich-lles

 

👉 https://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people