Back
Sefydlu Prifysgol y Plant yng Nghaerdydd


26/5/2021
 
Mae prosiect sy'n rhoi mynediad i blant a phobl ifanc at ystod eang o weithgareddau allgyrsiol wedi'i lansio yng Nghaerdydd.

 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Childrens University\image_50407937.JPG

 

Mae Prifysgol y Plant yn brosiect sy'n deillio o strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant mewn partneriaeth ag Elusen Prifysgol y Plant a Phrifysgol Caerdydd.

Wedi'i dreialu i ddechrau mewn chwe ysgol ar draws y ddinas rhwng mis Chwefror a mis Ebrill eleni, rhoddodd y cynllun fynediad i'r disgyblion at dros 90 o wahanol weithgareddau megis ffitrwydd, celf, cerddoriaeth, STEM, diwylliant a dylunio graffeg, a hynny ar ffurf gwersi ar-lein neu drwy gadw lle mewn dosbarth.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi sicrhau arian i gyflwyno'r cynllun i 25 o ysgolion eraill o fis Medi 2021.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Childrens University\6.jpg

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Gan adeiladu ar yr ymrwymiad'Pasbort i'r Ddinas'a wnaed yn rhan o Weledigaeth Caerdydd 2030 ar gyfer Addysg, mae prosiect Prifysgol y Plant yn helpu i ddod ag ysgolion ynghyd â phartneriaid ledled y ddinas, i greu a chynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc.

"Mae sicrhau bod Caerdydd yn lle gwych i gael eich magu yn parhau'n uchel ar ein hagenda, a thrwy wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau'r ddinas a'r cyfleoedd gwych sydd ar gael, gallwn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy gyfrwng darpariaeth hynod o amrywiol efallai na fyddant fel arfer yn gallu ei chyrchu.

Cafodd y cynllun ei dreialu yn Ysgol Gynradd y Forwyn Fair, Ton-yr-Ywen, Ysgol Pen-y-Pil ac Ysgol Gynradd Radnor, Ysgol Uwchradd Fitzalan ac Uned Cyfeirio Disgyblion Bryn-y-deri ac mae'r adborth cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Childrens University\IMG_0523.JPG

 

Ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant, gan nodi
uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant a'i nodau allweddol i ddarparu'r fframwaith i'w chyflawni.

Ers hynny, mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

O ganlyniad, mae Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF UK) wedi cydnabod y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant ac mae wedi argymell y dylai Caerdydd wneud cais am gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant yn hydref 2021.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch ihttps://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/

Lluniau o ddisgyblion o Ton yr Ywen