Back
Prydau Ysgol am Ddim a chymorth i brynu gwisg ysgol


 21/5/21

Mae teuluoedd ar incwm isel ar draws y ddinas yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i'w plant.

 

Gyda llawer o deuluoedd yn wynebu anawsterau a phryderon ariannol oherwydd effaith barhaus y pandemig ar gyflogaeth ac incwm pobl, mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau bod pawb sydd â hawl i gael cymorth yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Yn ogystal â Phrydau Ysgol am Ddim, mae cymorth ychwanegol bellach ar gael i deuluoedd brynu gwisg ysgol gyda'r Grant Datblygu Disgyblion yn cael ei ymestyn i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn nag erioed o'r blaen.

 

Gall teuluoedd â phlant yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blynyddoedd 7 i 11 wneud cais am gyllid i helpu i brynu'r wisg sydd ei angen arnynt ar gyfer yr ysgol. Gall teuluoedd hawlio £125 y plentyn a £200 os ydynt ym Mlwyddyn 7.

 

Mae'r estyniad i gynnwys mwy o grwpiau blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon yn unig ac mae gan rieni tan 30 Mehefin 2021 i wneud cais. Dim ond un grant y plentyn y flwyddyn a ganiateir fel na fydd teuluoedd sydd eisoes wedi derbyn cyllid ar gyfer y flwyddyn ysgol hon yn gallu hawlio eto.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Bydd llawer o deuluoedd ar draws y ddinas wedi gweld eu hincwm yn gostwng yn sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a bydd eraill yn profi caledi sylweddol.  O ganlyniad, bu cynnydd yn nifer y plant sy'n cael Prydau Ysgol am Ddim ac rydym am sicrhau bod pawb sydd â hawl i hawlio yn gwneud hynny.

 

"Mae plant yn tyfu mor gyflym, ac yn mynd trwy gyfnodau twf sydyn felly wrth i ni nesáu at yr haf, efallai y bydd angen ailgyflenwi cyflenwadau gwisg ysgol rhai teuluoedd, ond maen nhw'n poeni sut y gallant fforddio'r gost ychwanegol, felly mae hwn yn gyfle gwych i fanteisio ar ymestyn y grant i fwy o blant.

 

"Fel gyda Phrydau Ysgol am Ddim, mae gwneud cais yn gyflym ac yn hawdd - gallwch ei wneud ar-lein, ffonio'r Llinell Gyngor neu gael rhywfaint o help mewn hyb drwy drefnu apwyntiad gydag aelod o'n tîm.  Ond mae'r amser yn hedfan, felly gwnewch gais mewn da bryd cyn 30 Mehefin."

 

Er mwyn bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim a helpu i brynu gwisg ysgol, rhaid i'r rhiant/gwarcheidwad sy'n gwneud y cais fod yn derbyn un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Treth Plant, gydag incwm cartref o £16,190 neu lai
  • Credyd Pensiwn (elfen gwarant)
  • Credyd Cynhwysol gydag enillion net aelwyd o lai na £7,400

 

Nid yw Credyd Treth Gwaith yn fudd-dal cymwys.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Thorne: "Mae cymorth ar gael felly gwnewch gais.  Rydym yn gwybod na fydd llawer o deuluoedd erioed wedi bod angen gwneud cais am brydau ysgol am ddim nac am gymorth i brynu gwisg ysgol o'r blaen ond mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol ac rydym yn aros i gefnogi teuluoedd Caerdydd sydd angen ein help."

 

I gael rhagor o wybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim a'r Grant Amddifadedd Disgyblion ac i wneud cais ewch i https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Cymorth-Ariannol/Prydau-ysgol-am-ddim/Pages/default.aspx Os byddai'n well gennych gwblhau cais papur neu os oes angen help arnoch i gwblhau'r cais, ffoniwch ​​​​029 2087 1071.