Back
Lansio llwybrau stori awyr agored newydd sy'n Dda i Blant yr wythnos hon


21/5/2021

Creu dau lwybr straeon awyr agored newydd sbon, a gyflwynir fel rhan o raglen Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd, yn agor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn 29Mai.

Creodd y storïwr o Gaerdydd, Tamar Williams, a disgyblion Blwyddyn 6 o Ysgol Gynradd AGC y Santes Fair y Wyryf stori "Flotsam a Jetsam" sydd ym Mae Caerdydd ac sy'n adrodd hanes draig fôr fach hudolus sy'n cael ei dal yn y Bae ac sy'n methu â chyrraedd adref.

https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/prosiectau/llwybrau-stori/bae_caerdydd/

 

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Story Trails\MicrosoftTeams-image (5).png

Fferm y Fforest fydd yn cynnal "Y Leiaf a'r Ddewraf", stori am lygoden fechan sy'n cychwyn ar daith i achub y goedwig drwy ddod o hyd i enw 'hen goeden' sydd wedi mynd yn angof. Cofiwch ddod â deunyddiau papur a lluniadu - mae'r llwybr hwn yn rhyngweithiol.

https://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/prosiectau/llwybrau-stori/fferm_y_fforest/

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Story Trails\poster forest farm.png

Y llwybrau pwrpasol yw'r diweddaraf mewn cyfres o bedwar. Mae pob un yn darlunio hanesion mythau a chwedlau Cymreig a'r nod yw cynyddu cyfleoedd chwarae awyr agored drwy annog plant a theuluoedd i gael hwyl y tu allan wrth ymgysylltu â'r amgylchedd o'u cwmpas.

Yn ogystal â mynd â phlant ar daith drwy'r stori gan ddefnyddio codau QR, byddant hefyd yn cael eu hannog i wneud rhwbio rhisgl, adeiladu gyda ffyn a darganfod lleoedd cudd yn y parciau.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae chwarae yn yr awyr agored yn rhan annatod o ddatblygiad plentyn, mae'n ei helpu i ddefnyddio ei ddychymyg, ymgysylltu â'i amgylchoedd a chael hwyl.

"Mae pwysigrwydd chwarae yn yr awyr agored wedi bod yn ffocws yn ystod y pandemig ac mae hwn yn un o nifer o gynlluniau Caerdydd sy'n Dda i Blant a fydd yn helpu i hybu iechyd a lles ymhlith teuluoedd ifanc, gan roi cyfle i blant ddod i wybod mwy am y ddinas y maen nhw'n byw ynddi drwy gyfleoedd chwarae cynaliadwy."

Agorodd y llwybr cyntaf ym mis Mawrth ac mae hwnnw ym Mharc Bute, yn ddechrau gyda chod QR wrth fynedfa Stryd y Castell ger Ystafelloedd Te Pettigrew. Llwybr Stori Parc Bute : Caerdydd sy'n Dda i Blant

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Story Trails\Bute Park story trail poster.jpg

Bydd y pedwerydd llwybr yn cael ei lansio yn ddiweddarach yn y gwanwyn a bydd hwn ym Mharc Cefn Onn.

Mae gweledigaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant, yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas ac mae hwn yn un o nifer o brosiectau a gaiff eu cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan, sy'n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Bydd plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd yn rhan annatod o ddull y ddinas o adfer ac adnewyddu wedi effaith y pandemig ac rydym wedi llunio ein cynllun adfer yn ddiweddar, sydd wedi'i ddatblygu gyda phlant a phobl ifanc yn ganolog iddo.

"Mae'n cynnwys cynlluniau ar gyfer mwy o weithio mewn partneriaeth ar draws gwahanol wasanaethau'r cyngor a chyda phartneriaid er mwyn sicrhau bod Caerdydd yn 'Lle Gwych i Gael eich Magu' lle mae lleisiau, anghenion a hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu parchu."

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Dda i Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

O ganlyniad, mae UNICEF DU wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn hwyrach eleni.

Hyfforddodd Tamar Eluned Williams yn y theatr a gweithiodd fel cyfarwyddwr ac ymarferydd drama cyn dod yn storïwr llawn amser. Mae hi bellach yn teithio o amgylch y byd yn adrodd mythau a chwedlau Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn gweithio yn y Cymoedd gan ddefnyddio straeon i feithrin creadigrwydd, dyheadau a hyder. I gael gwybod mwy am Tamar ewch iwww.tamarelunedwilliams.com

Mae'r straeon, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg, wedi'u recordio mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.