Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 18 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; camau gorfodi yn erbyn parcio ar y palmant ar Heol y Plwca; a cynnal arolwg Gwenoliaid Duon i roi hwb i adar Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 18 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  446,321 (Dos 1: 321,051 Dos 2:  125,251)

 

  • 80 a throsodd: 21,065 / 94.3% (Dos 1) 19,730 / 88.3% (Dos 2)
  • 75-79: 15,093 / 95.8% (Dos 1) 14,330 / 91% (Dos 2)
  • 70-74: 21,453 / 95.3% (Dos 1) 20,739 / 92.1% (Dos 2)
  • 65-69: 21,753 / 93.2% (Dos 1) 16,398 / 70.3% (Dos 2)
  • 60-64: 25,771 / 91.3% (Dos 1) 16,054 / 56.9% (Dos 2)
  • 55-59: 28,981 / 89.1% (Dos 1) 6,665 / 20.5% (Dos 2)
  • 50-54: 28,433 / 86.2% (Dos 1) 5,894 / 17.9% (Dos 2)
  • 40-49: 52,843 / 78.4% (Dos 1) 9,638 / 14.3% (Dos 2)
  • 30-39: 52,372 / 66.5% (Dos 1) 8,648 / 11% (Dos 2)
  • 18-29: 52,702 / 53.4% (Dos 1) 8,560 / 8.7% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,003 / 97.9% (Dos 1) 1,889 / 92.3% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,235 / 92.7% (Dos 1) 10,084 / 83.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 44,378 / 87.3% (Dos 1) 7,472 / 14.7% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (07 Mai - 13 Mai)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

17 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 69

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 18.8 (Cymru: 9.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,175

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,137.9

Cyfran bositif: 1.7% (Cymru: 0.9% cyfran bositif)

 

Camau gorfodi yn erbyn parcio ar y palmant ar Heol y Plwca

Gallai gyrwyr sy'n parcio eu cerbyd ar balmant ar Heol y Plwca wynebu Hysbysiad Tâl Cosb o £70 drwy gyfrwng cynllun peilot 18 mis newydd.

Mae parcio ar balmentydd yn aml yn achosi rhwystr i ddefnyddwyr eraill y ffordd, yn enwedig y rhai sydd â nam ar eu golwg neu'r rhai sy'n gwthio plentyn ifanc mewn pram. Nid yn unig y mae'n achosi niwsans i gerddwyr, gall hefyd niweidio'r palmant ei hun, neu unrhyw seilwaith sylfaenol oddi tano.

Mae parcio ar balmentydd wedi bod yn broblem barhaus yn Heol y Plwca ers peth amser a dim ond oes llinellau melyn dwbl ar y ffordd neu os rhoddir 'parth dim parcio' penodol ar waith y gall y Cyngor ei gyfyngu a'i orfodi.

Y tu allan i Lundain a'r Alban, heb orchymyn cyfreithiol penodol, nid yw'n anghyfreithlon parcio ar balmant oni bai bod cerbyd yn achosi rhwystr - dim ond yr heddlu all orfodi trosedd o'r fath.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Mae'r Cyngor wedi ymgynghori â'r cyhoedd ar barcio ar balmentydd. Mewn arolwg diweddar, teimlai 70% o'r rhai a ymatebodd fod parcio ar balmentydd yn broblem yng Nghaerdydd ac y dylid ei wneud yn anghyfreithlon os yn bosibl.

"Dywedodd 72% o bobl a ymatebodd i'r un arolwg hefyd y byddent yn mwynhau cerdded mwy pe bai llai o barcio ar balmentydd y ddinas. O ystyried hyn, tynnwyd sylw at y mater yn y Papur Gwyn Trafnidiaeth, sef gweledigaeth drafnidiaeth Caerdydd ar gyfer y ddinas am y 10 mlynedd nesaf."

Mae'r 'parth dim parcio' ar Heol y Plwca bellach ar waith ac mae wedi'i arddangos yn glir i'r cyhoedd, gydag arwyddion yn dangos lle mae'r 'parth dim parcio' yn dechrau ac yn gorffen.

Bydd unrhyw gerbyd sy'n parcio'n rhannol neu'n gyfan gwbl ar y palmant yn Heol y Plwca o fewn y 'parth dim parcio' yn agored i Hysbysiad Tâl Cosb o £70.

Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor fydd yn gorfodi hyn, ynghyd â lluniau teledu cylch cyfyng sy'n cael eu rheoli yn yr ystafell reoli.

Bydd y cynllun peilot yn Heol y Plwca yn cael ei fonitro'n ofalus i weld a yw'r cynllun gorfodi yn gwella'r problemau parhaus. Os bernir ei fod yn llwyddiannus, gellid dod â chynllun tebyg i rannau eraill o'r ddinas sy'n wynebu'r un problemau.

 

Cynnal Arolwg Gwenoliaid Duon i roi hwb i adar Caerdydd

Gofynnir i drigolion Caerdydd helpu i hyfforddi fel 'arolygwyr gwenoliaid duon' i helpu i ddiogelu poblogaeth gwenoliaid duon Cymru sy'n gostwng, tra'n cysylltu â byd natur a'u cymuned leol.

Bydd Arolwg Gwenoliaid Duon Caerdydd yn helpu i ddiogelu'r adar mudol hyn, y mae eu niferoedd wedi gostwng bron 70% yng Nghymru ers 1995, drwy sicrhau help gan arolygwyr i fapio nythfeydd yn eu hardal leol.

Mae'r arolwg yn cael ei gynnal gan aelodau Partneriaeth Gwenoliaid Duon Bae Caerdydd (Clwb Adar Morgannwg, Awdurdod Harbwr Caerdydd ac RSPB Cymru) a sefydlwyd yn 2017 gyda grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. 

Dywedodd Angela Munn, Rheolwr Prosiectau yn RSPB Cymru: "Bob gwanwyn, mae gwenoliaid duon yn teithio  6,000 milltir o Affrica i'r DU, lle maent yn nythu er mwyn bridio. Ond mae moderneiddio adeiladau wedi dinistrio safleoedd nythu, fel bargodion a bylchau o dan deils to, ac os bydd y niferoedd yn parhau i ostwng ar y gyfradd bresennol, gellid colli'r wennol ddu fel aderyn sy'n bridio yng Nghymru cyn pen dau ddegawd."

Nid oes angen profiad o arolygu, gan y rhoddir hyfforddiant ar-lein am ddim gan dîm Rhoi Cartref i Fyd Natur Caerdydd a Chlwb Adar Morgannwg ddydd Mercher 19 Mai.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae'r tŵr gwenoliaid, sydd wedi'i osod ar Forglawdd Bae Caerdydd i helpu i roi cartrefi y mae mawr eu hangen i wenoliaid ddychwelyd iddynt bob blwyddyn, yn un o nifer o gamau rydym wedi'u rhoi ar waith gyda'n partneriaid i helpu i roi cartref i fyd natur yng Nghaerdydd."

"Mae casglu gwybodaeth am safleoedd nythu eraill yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer diogelu nythfeydd gwenoliaid yn y dyfodol, ond mae hwn hefyd yn gyfle gwych i bobl gysylltu â'r natur sydd ar garreg eu drws, a chyda'u cymuned leol."

Cynhelir sgwrs a hyfforddiant Arolwg Gwenoliaid Duon Caerdydd ar Zoom ddydd Mercher 19 Mai rhwng 19:00 a 20:00.

Gall cyfranogwyr gofrestru yn:

https://www.eventbrite.co.uk/e/143310651015