Back
Marchnad Caerdydd yn ailagor i gwsmeriaid (a'u cŵn)
Mae Marchnad Caerdydd yn ail-agor heddiw (12 Ebrill) gydag amrywiaeth o stondinau yn barod i groesawu cwsmeriaid yn ôl yn ddiogel ac, fel rhan o dreial newydd a gynlluniwyd i ddenu mwy o gwsmeriaid, eu cŵn.

Mae’r mesurau sydd ar waith i sicrhau diogelwch cwsmeriaid yn cynnwys:

·       system un ffordd

·       mesurau ymbellhau cymdeithasol

·       gofyniad i wisgo masg

·       gorsafoedd diheintio dwylo.

Mae nifer o stondinau newydd hefyd yn agor ym Marchnad Caerdydd, gan gynnwys: Spirit Infusions; Casa Agape; a Bloomfield Handmade.

Dywedodd Stondinwyr y Naked Vegan, Sarah a Chris Powney: "Mae wedi bod yn flwyddyn anodd gyda'r holl ansicrwydd i fusnesau a chwsmeriaid, mae'n wych ein bod yn agor Marchnad Caerdydd i bawb ac yn wych gweld y gall perchnogion anifeiliaid anwes ddod â'u cŵn i'r farchnad erbyn hyn.

"Mae'r gwaith caled y mae porthorion a Rheolwr y farchnad wedi'i wneud yn ystod y cyfnod cloi i sicrhau bod Marchnad Caerdydd yn edrych yn ffres a gwahodd a sicrhau y bydd pawb yn ddiogel tra byddant yn siopa wedi bod yn anhygoel.

"Mae llawer o stondinwyr hefyd wedi manteisio ar y cyfle yn ystod y cyfnod cloi i ailwampio ac uwchraddio eu busnes, bydd nifer o fusnesau newydd a chyffrous hefyd yn agor yn y Farchnad i sicrhau bod rhywbeth i bawb ac mae Marchnad Caerdydd yng nghanol y ddinas ar gyfer siopa.  Yn anad dim, bydd yn wych gweld ein holl gwsmeriaid gwych eto a fydd yn sicrhau bod Marchnad Caerdydd yn llawn bwrlwm eto."

Gofynnir i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn bob amser, a rhoi gwybod i stondinwr neu aelod o dîm y Farchnad ar unwaith os bydd achos o faw cŵn.

Bydd toiledau'r Farchnad ar gael i'r cyhoedd, gyda gwell cyfundrefnau glanhau ar waith.

Bydd y Farchnad ar agor o 8am i 5pm, Llun -  Sadwrn.