Back
Lansio llwybrau stori awyr agored newydd sy'n Ystyriol o Blant ar draws y ddinas

25/3/2020 

Bydd cyfres o lwybrau adrodd straeon awyr agored newydd sbon ar draws y ddinas yn dechrau agor i'r cyhoedd o ddiwedd y mis hwn.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Story Trails\draig blue.png

Wedi'u cyflwyno fel rhan o raglen Dinas Sy'n Dda i Blant Caerdydd, mae'r pedwar llwybr pwrpasol wedi'u creu gan y storïwr o Gaerdydd Tamar Williams, pob un yn darlunio hanesion am fythau a chwedlau Cymreig. 

 

Nod y fenter yw cynyddu cyfleoedd chwarae yn yr awyr agored drwy annog plant a theuluoedd i gael hwyl yn yr awyr agored wrth ymgysylltu â'r amgylchedd o'u cwmpas. Yn ogystal â mynd â phlant ar daith drwy'r stori drwy godau QR, byddant hefyd yn cael eu hannog i wneud rhwbio rhisgl, adeiladu gyda ffyn a darganfod lleoedd cyfrinachol o fewn y parciau.

 

Bydd y llwybr cyntaf yn agor i'r cyhoedd o ddydd Sadwrn 27 Mawrth ac mae wedi'i leoli ym Mharc Bute, gan ddechrau gyda chod QR wrth fynedfa Stryd y Castell ger Ystafelloedd Te Pettigrew. Llwybrau Stori Parc Bute : Child Friendly Cardiff

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Child Friendly City\Story Trails\Bute Map.png

Bydd tri llwybr arall yn cael eu lansio yn ddiweddarach yn y gwanwyn, sydd wedi'u lleoli ym Mae Caerdydd, Fferm y Fforest a Pharc Cefn Onn. Ar gael yn Gymraeg a Saesneg, mae'r straeon wedi'u cofnodi mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru. 

 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd, "Mae chwarae yn yr awyr agored bob amser wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad plant, gan helpu ‘w hymgysylltu â'u hamgylchedd a'u hamgylchedd.

 

"Mae pwysigrwydd a ffocws chwarae yn yr awyr agored wedi'i gryfhau ymhellach yn ystod COVID-19. Mae hwn yn un o nifer o gynlluniau sy'n Ystyriol o Blant i helpu i wella'n uniongyrchol o effaith y pandemig, gan helpu i hybu iechyd a lles ymhlith teuluoedd ifanc tra'n cyfrannu at gyfleoedd chwarae cynaliadwy."

 

Pan ofynnwyd iddi am y prosiect, dywedodd Tamar Williams:"Cefais fy ngeni a'm magu yng Nghaerdydd ac rwyf wedi byw yma am y rhan fwyaf o'm bywyd, ond rwy'n dal i gredu bod gan y ddinas gymaint o leoedd cyfrinachol i'w harchwilio. Credaf y dylai adrodd straeon fod i bawb, a bod straeon yn anhepgor wrth adeiladu byd iach. Rwy'n gobeithio y bydd y llwybrau stori hyn yn annog plant a'u teuluoedd i fynd oddi ar yr un hen lefydd, dod o hyd i leoedd hudol newydd, a mwynhau eu crwydro, i gyd wrth wrando ar straeon."

 

Mae gweledigaeth Caerdydd sy'n Ystyriol o Blant, yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas ac mae hwn yn un o nifer o brosiectau i'w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy'n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.

Yn ddiweddar, cydnabu Pwyllgor y DU ar gyfer UNICEF (UNICEF DU) y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae fel un o'r rhai cyntaf i ymuno â'i raglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Ystyriol o Blant a bod cynnydd da wedi'i wneud o ran ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

I gydnabod hyn, mae UNICEF DU wedi argymell bod Caerdydd yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

Dywedodd Naomi Danquah, Cyfarwyddwr Rhaglen Dinasoedd a Chymunedau sy'n Ystyriol o Blant UNICEF DU: "Mae'r hawl i chwarae yn hawl ddynol sylfaenol, yr un mor bwysig â hawl plant i addysg, neu eu diogelu rhag niwed.

"Mae'n wych gweld Caerdydd yn creu mwy o gyfleoedd i blant hawlio eu hawl i chwarae ar draws y ddinas, yn enwedig wrth iddyn nhw ddod allan o flwyddyn mor heriol."  Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Byddwn yn parhau i gyflawni ein gweledigaeth i ymgorffori hawliau plant ymhellach yn ein cymunedau, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt."

Hyfforddodd Tamar Eluned Williams yn y theatr a gweithiodd fel cyfarwyddwr ac ymarferydd drama cyn dod yn storïwr llawn amser. Mae hi bellach yn teithio o amgylch y byd yn adrodd mythau a chwedlau Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn gweithio yn y Cymoedd gan ddefnyddio straeon i feithrin creadigrwydd, dyheadau a hyder. I gael gwybod mwy am Tamar ewch iwww.tamarelunedwilliams.com