Back
Gwaith adeiladu yn dechrau ar adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan


Heddiw, cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen yn rhithiol i nodi dechrau'r gwaith o adeiladu'r Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, sy'n gynllun sydd wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru drwy'r rhaglen Fuddsoddi i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Cynhaliwyd y digwyddiad lleol anffurfiol i nodi carreg filltir y prosiect. Yn bresennol roedd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS i gynrychioli'r bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd wrth gyflawni'r rhaglen  Ysgolion yr 21ain Ganrif.

\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Fitzalan\New build comms\NICK TREHARNE TURF CUTTING\210319Fitzalan002_NTreharne.jpg

Er mwyn cyfyngu ar nifer y gwesteion ar y safle ac i gefnogi'r ymgyrch i gadw Cymru'n ddiogel ac aros gartref i ddiogelu bywydau rhag COVID-19, ymunodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas a Phennaeth Ysgol Uwchradd Fitzalan, Cath Bradshaw â'r digwyddiad drwy ddulliau rhithwir.

Ymunodd gwesteion eraill, gan gynnwys disgyblion o'r ysgol, cynrychiolwyr o ysgolion cynradd lleol, gwleidyddion lleol a swyddogion o Gyngor Caerdydd a Kier, y contractwr a ddewiswyd i adeiladu'r ysgol newydd, â'r digwyddiad rhithiol hefyd, gan roi cyfle iddynt gymryd rhan wrth ddathlu cychwyn y prosiect buddsoddi hwn. 

C:\Users\c739646\AppData\Local\Microsoft\Windows\INetCache\Content.Outlook\S28DUMBO\Claudia_teams_image_EDIT.jpg

Gwahoddwyd cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Fitzalan, Kaya Emmanuel a Jayden Singh Landa, sydd ill dau wedi sicrhau prentisiaethau gyda Kier ac sy'n gweithio ar y safle fel rhan o'r tîm sy'n gyfrifol am adeiladu'r adeilad ysgol newydd, i helpu i dorri'r dywarchen yn ystod rhan fyw o'r seremoni rithwir.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Bydd adeiladu adeilad newydd i Ysgol Uwchradd Fitzalan yn parhau â llwyddiant y gwaith o ailddatblygu ysgolion uwchradd a wnaed eisoes ar draws y ddinas ac rwy'n falch bod y prosiect, er gwaethaf heriau'r flwyddyn ddiwethaf, wedi gallu symud ymlaen yn ddi-oed.

"Buddsoddi mewn ysgolion ac addysg yw ein prif flaenoriaeth o hyd i Gaerdydd, a'n rhaglen Ysgolion ac Addysg ar gyfer y 21ain Ganrif Band B, gwerth £284m, yw'r buddsoddiad unigol mwyaf yn yr ystad ysgolion a welodd Caerdydd erioed. Mae'n arwydd clir o'n hymrwymiad parhaus i'n pobl ifanc - gan roi addysg dda iddynt mewn ysgolion o'r radd flaenaf. Plant yw dyfodol y ddinas hon ac mae'n hanfodol bod cyfleusterau modern ac amgylcheddau dysgu o safon ar gael iddynt a fydd yn eu helpu i wireddu eu potensial.

"Yn hollbwysig,bydd yr ysgol gymunedol hon hefyd yn golygu y bydd gan drigolion lleol yn Nhreganna, Glan-yr-afon a Grangetown fynediad i amwynderau rhagorol ar garreg eu drws, gan roi hwb sylweddol i'r ardal."


Dy wedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae dechrau'r gwaith adeiladu yn garreg filltir allweddol i ddisgyblion, staff a rhieni Ysgol Uwchradd Fitzalan ond hefyd i'r gymuned gyfan a fydd yn elwa o'r buddsoddiad hwn o £64m yn ardal Treganna.

"Mae cael Kaya a Jayden ar y safle i helpu i dorri'r dywarchen ar ran pawb sy'n rhan o'r prosiect, yn ein hatgoffa bod yr ysgol newydd hon yn dynodi dyfodol cyffrous i Ysgol Uwchradd Fitzalan a phawb sy'n mynd iddi."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AoS: "Heddiw rydym yn dathlu'r camau cyntaf tuag at gyflwyno Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan.
 

"Rydw i wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect hwn gyda buddsoddiad o £64m drwy ein rhaglen Ysgolion a Cholegau’r 21ain Ganrif.

"Bydd hyn yn trawsnewid yr amgylchedd dysgu i fyfyrwyr yn Fitzalan, gan roi ysgol iddynt ymfalchïo ynddi.

"Mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a dylai'r awdurdod lleol, y gymuned a'r staff gweithgar fod yn falch o drawsnewid gweledigaeth yn realiti i gefnogi ac ysbrydoli ein plant i ddysgu a chredu ynddynt eu hunain." 

 
 


\\Homefolder1.cardiff.gov.uk\Home\EDUCATION\Fitzalan\New build comms\NICK TREHARNE TURF CUTTING\210319Fitzalan003_NTreharne.jpg

Dywedodd Jo Kemp, Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Fitzalan: "Yn Fitzalan ein gweledigaeth oedd darparu adeilad a fyddai'n gwobrwyo'r staff, yn ysbrydoli'r disgyblion, o fudd i'r gymuned ac yn ein cefnogi ni i gyd i fod y gorau y gallwn fod.

"Drwy gydol y camau cynllunio rydym wedi datblygu perthynas gadarnhaol iawn gyda thimau prosiect y Cyngor, y penseiri; Austin Smith Lord a Kier Construction, ac mae pob parti yn rhannu ein hangerdd a'n penderfyniad i ddatblygu'r cynllun gorau posibl.

"Mae staff a disgyblion wedi cymryd rhan ym mhob cam ac mae eu syniadau a'u gweledigaeth wedi'u hymgorffori yn y dyluniad. Mae'r hyn yr ydym yn ei adeiladu yn fwy na dim ond ysgol i ni a'n cymuned, dyma yw ein dyfodol. Mae'r daith hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rydym yn gyffrous ar gyfer y cam nesaf."

Meddai Nigel Phillips, Rheolwr Gweithrediadau Kier ar gyfer Kier Construction yng Nghymru: "Rydym yn falch iawn o fod yn dathlu'r seremoni rithiol fydd yn cychwyn y gwaith o adeiladu adeilad Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd heddiw gyda Phrif Weinidog Cymru, aelodau oGyngor Caerdydd yn ogystal â staff addysgu a disgyblion yr ysgol. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf, edrychwn ymlaen at adeiladu'r ysgol bwrpasol newydd hon a fydd yn darparu cyfleusterau o'r radd flaenaf ac amgylchedd dysgu ysbrydoledig.

"Rydym wedi ymrwymo i adael etifeddiaeth barhaol yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithio ac rydym yn falch o gefnogi Addewid Caerdydd i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i lwybrau gyrfa yn y diwydiant adeiladu, drwy ddarparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant i'r gymuned leol. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â disgyblion ac athrawon yr ysgol, gan arddangos cerrig milltir y prosiect yn ogystal â rhannu taith dau gyn-fyfyriwr sydd wedi ymuno â'n rhaglen Gradd Kier yn ddiweddar."

Ar 18 Tachwedd 2020 cymeradwyodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd gynlluniau ar gyfer yr ysgol newydd sy'n cynnwys:

  •            Codi adeilad ysgol uwchradd 3 llawr gyda lle i 1850 o ddisgyblion
  •            Pwll nofio cymunedol newydd
  •            Creu Ardaloedd Chwaraeon Amlddefnydd
  •            Creu 1 cae rygbi/pêl-droed 3G
  •            Creu 1 cae hoci/pêl-droed 3G dan 16 oed
  •            Maes parcio i staff (47 man parcio) a maes parcio i ymwelwyr (24 man gan gynnwys 8 lle i bob anabl)
  •            Ardaloedd chwarae arwyneb caled a meddal.

Llun 1:o'r chwith i'r dde O'r Chwith, Nigel Phillips, Rheolwr Gweithrediadau Kier, y Cynghorydd Sarah Merry, Jayden Landa, Kaya Emanuel, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, Debbie Morgan, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Uwchradd Fitzalan 

Lun 2: Gwesteion rhithwir

Llun 3:Y Cynghorydd Sarah Merry, Jayden Landa, Kaya Emanuel, Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford