Back
Ysgol Uwchradd Willows - Digwyddiadau rhyngweithiol

Ydych chi erioed wedi meddwl tybed sut mae eliffant yn glanhau ei ddannedd neu sut i ffitio pêl bowlio y tu mewn i beiriant sugno llwch?

Bydd atebion i'r cwestiynau hyn a llawer mwy yn cael eu hesbonio gan arddangosydd o Techniquest yn ystod 'Staggering Science', digwyddiad byw a drefnir gan Ysgol Uwchradd Willows.

 

Y trydydd mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnir gan athrawon yn yr ysgol, nod y sesiwn yw rhoi cyfle i blant ysgol gynradd gymryd rhan mewn gwersi hwyliog, rhyngweithiol yn ystod y cyfyngiadau clo.

 

Dywedodd Ian Whittaker, y Pennaeth Cynorthwyol: "Mewn amgylchiadau arferol, byddem yn ymweld â'r holl ysgolion cynradd yn ein hardal i ymgysylltu â phlant o Flynyddoedd 5 a 6 a allai fod yn ystyried Willows fel opsiwn ar gyfer yr ysgol uwchradd.

 

"Gan na all hyn ddigwydd ar hyn o bryd, fe gawson ni'r syniad o gynnal gwersi byw hwyliog a rhyngweithiol fel y gallan nhw ddal i brofi'n uniongyrchol yr hyn sydd gan Willows i'w gynnig.

 

"Mae'r digwyddiadau am ddim ac er i ni dargedu ein hysgolion cynradd dalgylch i ddechrau, gall unrhyw un ymuno â ni.  Mae angen i rieni archebu eu tocyn am ddim drwy ein tudalen Eventbrite."

 

Hyd yma mae mwy na 180 o blant wedi mynychu'r digwyddiadau sydd wedi cynnwys 'Magical Maths' gyda Mr Batchelor a ddefnyddiodd ei sgiliau fel consuriwr i egluro sut y gellir dod o hyd i fathemateg ym myd natur, a 'Tales of Adventure' gyda Ms. Amos, y mae ei doniau drama a sgiliau Saesneg yn gwneud i ysgrifennu straeon creadigol ddod yn fyw.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae hon yn enghraifft wych o sut mae addysgu arloesol yn cael ei ddefnyddio i ennyn diddordeb plant, yn ystod blwyddyn hynod heriol i'n dinasyddion ieuengaf. 

 

"Mae staff o Ysgol Uwchradd Willows wedi defnyddio eu dychymyg i greu gwersi hwyliog ac ysbrydoledig, gan addasu'r ffordd maen nhw'n ymgysylltu â disgyblion newydd posibl i'r ysgol.  Mae'n wych dysgu bod ysgolion cynradd hefyd wedi cynnwys y digwyddiadau fel rhan o'u darpariaeth dysgu cyfunol eu hunain." 

 

Gellir archebu'r digwyddiadau am ddim drwy Eventbrite, ewch i:https://www.eventbrite.co.uk/e/143426304939