Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: neges gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar frechiadau gofalwyr di-dâl; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel
I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i
Neges gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar frechiadau gofalwyr di-dâl
"Rydym bellach wedi derbyn canllawiau'r JCVI ar gyfer gofalwyr di-dâl sy'n gymwys i dderbyn eu brechiad Covid.
"Gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd y rhai sydd wedi'u nodi yn dechrau derbyn apwyntiadau drwy'r post ar gyfer un o'n Canolfannau Brechu Torfol.
"Bydd ffurflen ar-lein hefyd ar gael yn gynnar yr wythnos nesaf i gofrestru eich manylion gyda ni fel y gallwn drefnu eich apwyntiad. Byddwn yn rhoi rhif ffôn i unrhyw un a hoffai gael rhywfaint o gymorth i lenwi'r ffurflen. Nid oes angen cysylltu â'r Bwrdd Iechyd, eich Meddyg Teulu na'ch awdurdod lleol ar hyn o bryd.
"Diolch am eich amynedd."
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 25 Chwefror
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:135,139.
Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:
65-69: 10,469
Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 5,616
60-64: 6,986
Cafwyd y data gan BIPCAF
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (14 Chwefror - 20 Chwefror)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
24 Chwefror 2021, 09:00
Achosion: 381
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 103.8 (Cymru: 75.4 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,921
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,068.7
Cyfran bositif: 9.7% (Cymru: 6.8% cyfran bositif)