Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 23 Chwefror

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cynllun sgwteri ysgol i hyrwyddo chwarae a theithio llesol; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Cynllun sgwteri ysgol i hyrwyddo chwarae a theithio llesol

Bydd Cyngor Caerdydd yn cyflawni mwy na 450 o sgwteri a beiciau cydbwyso i ysgolion a lleoliadau chwarae y mis hwn, gan ddarparu mwy o gyfleoedd chwarae i blant a allai fod wedi colli allan yn ystod COVID-19 wrth gefnogi ysgolion i hyrwyddo teithio llesol. 

Wedi'i ariannu gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan, bydd y cynllun yn gweld ysgolion Cynradd, Canolfannau Adnoddau Arbenigol ac Ysgolion Arbennig yn derbyn fflyd o sgwteri ynghyd â chynlluniau gwersi a rampiau. Darperir adnoddau i'r ysgolion hynny lle mae Strydoedd Ysgol ar waith i alluogi sesiynau chwarae ar y stryd a bydd darpariaeth Meithrinfeydd a Gynhelir a Dechrau'n Deg hefyd yn derbyn sgwteri a beiciau cydbwyso, gan alluogi plant i chwarae yn yr awyr agored yn ystod amser egwyl.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae plant wedi colli llawer iawn oherwydd COVID-19 a bydd y cynllun hwn yn helpu i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i rai o'n disgyblion mwyaf difreintiedig.

"Mae amrywiaeth o fanteision cadarnhaol i chwarae yn yr awyr agored a bydd y cyfle i gymryd rhan mewn sgwtio a beicio ynghyd â chymorth a hyfforddiant, yn helpu plant i ddatblygu sgiliau y byddant yn eu defnyddio am weddill eu hoes.

"Drwy roi cyfleoedd fel hyn i blant a phobl ifanc, mae'n cefnogi ymhellach uchelgais Caerdydd i fod yn Ddinas sy'n Dda i Blant UNICEF, gan helpu i wneud Caerdydd yn ddinas wych i dyfu'n hŷn ynddi."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae timau o bob rhan o'r Cyngor wedi gweithio gyda'i gilydd i sicrhau'r cyllid hwn, gan ein galluogi i gynyddu'r ddarpariaeth chwarae yn yr awyr agored a gwella'r gweithgareddau a ddarperir gan ysgolion a chynlluniau chwarae ledled y ddinas

"Bydd y cyfleoedd newydd hyn yn helpu i ennyn brwdfrydedd plant i ddefnyddio beiciau cydbwyso, sgwteri a beiciau yn ddiogel ac yn hyderus drwy wella cydbwysedd a chydsymud. Wrth iddyn nhw dyfu bydd y sgiliau hyn yn gwneud beicio'n llawer haws ac yn helpu tuag at newidiadau mewn ymddygiad a fydd, dros amser, yn cael effaith gadarnhaol ar eu dyfodol. Mae hyn yn cynnwys gwella lles corfforol ac emosiynol yn ogystal â lleihau allyriadau i gael amgylchedd gwyrddach i fyw ynddo."

"Mae hwn yn un o nifer o brosiectau sy'n helpu i drawsnewid system trafnidiaeth gyhoeddus y ddinas, gan hyrwyddo mwy o fathau o Deithio Llesol ac, yn bwysig, yn ymateb i'r argyfwng hinsawdd fel y nodir yn Uchelgais Prifddinas Caerdydd."

Mae'r cynllun diweddaraf hwn yn un o nifer o brosiectau i'w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy'n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 23 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:129,115.

 

Grwpiau Blaenoriaeth 5-7:

65-69: 8,421

Chyflwr Iechyd Sylfaenol: 5,308

60-64: 6,637

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Chwefror - 18 Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

22 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 389

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 106.0 (Cymru: 78.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,915

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,067.0

Cyfran bositif: 9.9% (Cymru: 7.3% cyfran bositif)